19/11/2012

Hiliaeth amrwd ar S4C

Darlledwyd Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ar S4C nos Sadwrn. Yn anffodus, er yr holl dalent a geir yn y cystadlaethau canu a barddoni ac ati, mae'n anodd gwadu mai'r hyn sy'n nodweddu'r Eisteddfod yma fwy na dim yw'r 'hiwmor' ofnadwy. Efallai mai hen-ffasiwn fyddai'r disgrifiad caredicaf.

Rydym wedi hen arfer â'r rhywiaeth plentynnaidd (dynion mewn bronnau plastig ac ati), ac fe gafwyd cryn dipyn o hynny eleni eto. Hyd y gwn, fodd bynnag, mae'r isod yn plymio dyfnderoedd newydd:


I grynhoi'r 'ddeuawd ddoniol' yma, cafwyd portreadau o ddau ddyn o China mewn bwyty takeaway sy'n gwenwyno'u cwsmeriaid cyn ffoi'r wlad pan ddaw eu visas i ben. Dyna hiliaeth ystrydebol o'r math mwyaf amrwd. Roedd eitemau gwarthus eraill hefyd, ond yr uchod oedd y gwaethaf.

Mae'n destun embaras bod y fath beth wedi'i ddarlledu'n fyw ar S4C ar nos Sadwrn. A bod yn onest, rwy'n sicr bod deunydd sgandal andwyol i'r sianel yma: petai un o bapurau newydd Lloegr yn sylwi a'n dewis adrodd yr hanes (mae llawer o ladd wedi bod ar S4C am resymau eraill yn ddiweddar, wedi'r cyfan), rwyf wir yn meddwl y gallai beryglu ei bodolaeth. Byddai'r fath stori'n fêl ar fysedd ei gelynion. Mae'n rhaid i'r sianel droedio'n ofalus, a hoffwn feddwl y byddai staff S4C wedi hepgor y darn yma petaent wedi gwybod amdano o flaen llaw. Ond tybed? Maent wedi tynnu'r rhaglen oddi ar Clic am y tro, o leiaf.

Beth bynnag am hynny, dylai'r ffaith i'r eitem uchod ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth fod yn destun dychryn. Nid eithriad ymylol i bellhau oddi wrtho mo hyn, yn amlwg, eithr yr union fath o beth a glodforir o fewn y diwylliant yma. Mae rhywbeth mawr yn bod.

Trafodwyd yr helynt ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru heddiw (gallwch wrando ar y rhaglen am yr wythnos nesaf). Siaradodd Cris Dafis a Malan Wilkinson yn gall iawn. Yn anffodus, roedd yn ddigalon clywed cymaint o negeseuon yn cefnogi'r eitemau a'n dweud bod angen i Cris a Malan "get a life". Roedd llawer yn methu'r pwynt yn llwyr gan bwysleisio na fwriadwyd unrhyw falais o gwbl, fel petai hynny'n berthnasol. Fel y dywed Cris, nid oes angen i hiliaeth ddiferu â chasineb. Y ddadl amddiffynnol amlycaf oedd mai 'bach o hwyl' ydoedd, fel petai'n amhosibl dweud pethau hiliol trwy'r fath gyfrwng.

Ambell dro, bydd y cyfraniadau a geir ar raglenni fel Taro'r Post yn awgrymu bod yna elfen gref adweithiol a chul yn llechu yn y Fro Gymraeg wledig o hyd. Er cymaint yr hoffem dybio bod dadleuon fel hyn wedi'u hennill rhyw dro tua diwedd yr 1970au, mae'n amlwg bod llawer iawn o Gymry ar ei hôl hi'n ddifrifol. Os yw honni'r fath beth yn fy ngwneud yn snob elitaidd, yna rwy'n ymfalchïo'n y label. Os mai lol fel hyn yw adloniant traddodiadol Cymraeg, brysied ei dranc.

Mae llawer wedi ceisio gwneud cymhariaethau â rhaglenni fel Little Britain. Fel y dywed Cris eto, fodd bynnag, ac fel mae teitl y gyfres yn ei awgrymu, rhagfarn ei hun yw targed y dychan yn y rhaglen honno. Fel mae'n digwydd, nid wyf yn credu ei bod yn llwyddiannus bob tro yn hynny o beth, ond mater arall yw hynny. Nid wyf wedi gweld unrhyw un yn ceisio honni mai'r hyn yw sgets uchod y ffermwyr ifanc o Ddyffryn Cothi yw meta-gomedi eironig hynod ddeallus a chynnil sy'n gwneud hwyl o'r ystrydebau hiliol eu hunain. Byddai'n amhosibl cymryd y fath berson o ddifrif, mae gennyf ofn.

Mae yna lawer iawn mwy i'w ddweud am hyn, ac fel mae'n digwydd rwyf wedi ystyried ysgrifennu am y berthynas rhwng eironi a chomedi (yn achos digrifwyr fel Jimmy Carr neu Frankie Boyle, er enghraifft) ers talwm. Bydd yr helynt yma'n ysgogiad i fynd ati'n fuan (rhagflas: weithiau mae pledio eironi'n rhoi'r gorau i argyhoeddi. Rwy'n credu bellach bod gan Carr broblem gwirioneddol â merched, a bod llawer o stand-up cyfoes yn adweithiol).

Ta waeth. Gan fod y blog hwn wedi meithrin cryn ddiddordeb ym mater rhyddid mynegiant, hoffwn fodloni'r cais yma:
Ni ddylid gwahardd unrhyw beth fan hyn. Mawr obeithiaf nad oes unrhyw un wedi camddeall, ond hoffwn wneud fy hun yn berffaith glir beth bynnag: dylai fod gan bawb yr hawl i wisgo i fyny fel caricatures ystrydebol a gwneud jôcs dwl a hynny heb ymyrraeth gan unrhyw un.

Mae dau gamargraff ynghylch rhyddid mynegiant sy'n fy ngwylltio. Rwyf wedi trafod un ar y blog hyd syrffed: nid ystyr rhyddid mynegiant yw'r hawl i beidio cael eich beirniadu. Rhywbeth arall nad yw rhyddid mynegiant yw'r hawl i ddisgwyl bod pobl eraill yn darparu'ch platfform. Nid yw rhyddid mynegiant yn golygu bod rhaid i S4C eich darlledu'n fyw ar nosweithiau Sadwrn. Os yw'r CFfI eisiau parhau i lwyfannu pethau fel hyn, ni ddylai unrhyw un eu rhwystro. Ond byddai'n ddoeth i S4C sicrhau nad oes ganddi gamera'n agos i'r lle. Nid oes unrhyw un wedi cwyno wrth yr heddlu am yr hyn a welwyd nos Sadwrn, hyd y gwn, ac mae hynny'n beth da. Mae rhyddid mynegiant pawb yn saff a chyfan yn yr achos yma, o leiaf. Awgrymaf bod ein sianel cenedlaethol yn cymryd mwy o ofal yn y dyfodol, dyna i gyd.

14 comments:

  1. Haia, Dylan.
    Dw i'm yn meddwl mod i 'di camddeall dim - ella bysa "cyflwyno rhyw fath o sensoriaeth" di cyfleu be o'n i'n feddwl yn well ond doedd 140 character ddim yn ddigon yn anffodus. O'n i jyst yn meddwl bod hi'n amlwg bod 'na rywbeth o'i le pan mae sgetsh fel hon yn cael ei darlledu ac o'n i'n meddwl sgwn i ar bwy oeddat ti'n credu roedd y cyfrifoldeb, os oes 'na gyfrifoldeb o gwbl - awduron y sgetsh am ei chyfansoddi, beirniaid y gystadleuaeth am ei gwobrwyo hi, CFfI yn ganolog am beidio gwneud mwy i beidio cynnwys rhagfarn fel hyn ynta S4C am ei darlledu hi.

    Fy marn i oedd ei bod hi'n eithriadol o drist bod nifer o bobl yn credu mai dim ond 'hwyl diniwed' oedd y sgetsh. Ond wedyn, os ydi pobl gul a rhagfarnllyd isio dod ynghyd i fod yn gul a rhagfarnllyd efo'i gilydd yn rwla, yna'u busnas nhw ydi hynny - a diolch i'r nefoedd nad oes 'na neb wedi cael ei arestio!

    Edrych ymlaen at ddarllen y blogiadau ar eironi a chomedi.

    ReplyDelete
  2. Helo! Dim ond defnyddio dy sylw di fel rhyw fath o segue er mwyn arwain at y darn am ryddid mynegiant oeddwn i. Nid ti oedd o dan sylw o gwbl pan ddywedais bod pobl yn camddeall, ond "rhai pobl" yn gyffredinol. Pre-emptio pobl felly oeddwn i. Roeddwn yn cytuno'n llwyr â phopeth roeddet wedi'i ddweud ar Twitter, a felly hefyd yn achos dy sylw uchod. Sori am y blerwch aneglur!

    Ie, ar S4C mae'r bai fan hyn am fod yn anghyfrifol. Mae'n siwr bod awduron y darnau'n teimlo'n ddigon od ar hyn o bryd.

    ReplyDelete
  3. "Mae llawer wedi ceisio gwneud cymhariaethau â rhaglenni fel Little Britain. Fel y dywed Cris eto, fodd bynnag, ac fel mae teitl y gyfres yn ei awgrymu, rhagfarn ei hun yw targed y dychan yn y rhaglen honno. Fel mae'n digwydd, nid wyf yn credu ei bod yn llwyddiannus bob tro yn hynny o beth, ond mater arall yw hynny. Nid wyf wedi gweld unrhyw un yn ceisio honni mai'r hyn yw sgets uchod y ffermwyr ifanc o Ddyffryn Cothi yw meta-gomedi eironig hynod ddeallus a chynnil sy'n gwneud hwyl o'r ystrydebau hiliol eu hunain. Byddai'n amhosibl cymryd y fath berson o ddifrif, mae gennyf ofn."

    Beth? "Byddai'n amhosibl cymryd y fah berson o ddifrif, mae gennyf ofn."????

    Falle dylet ti esbonio pam - a gwnan'n siwr nad wyt ti'n defnyddio rhagfarn i lunio dy ateb...

    ReplyDelete
  4. Dwi'n cytuno gyda Dylan ynglyn a'r sgetshys ond dwi'n credu bod angen gwahaniaethu fan hyn rhwng comediwyr proffesiynol ac aelodau o CFfI. Mae nhw'n bobl amatur sy'n creu perfformiad yn 'nhraddodiad' yr eisteddfod ac yn anelu at himwor a rhagfarnau y gynulleidfa yn y neuadd. Dyw'r ystrydeb a rhagfarn ddim yn dderbyniol hyd yn oed os nad oedd yn cael ei ddarlledu.

    Er hyn, mae'n wahanol iawn i berfformwyr comedi proffesiynol fel Matt Lucas/David Williams, lle mae sgript a pherfformiad yn cael ei olygu, ei drafod gyda cynhyrchwyr a mae'r holl raglen yn mynd drwy broses o gymedroli i hydymffurfio gyda pholisiau'r BBC.

    Felly, fel ti'n dweud mae angen i'r cynhyrchwyr ac S4C fod yn llawer mwy gofalus os ydyn nhw am ddarlledu cynhyrchiadau sy'n cynnwys elfennau amatur fel hyn, sydd heb fynd drwy unrhyw broses olygyddol.

    ReplyDelete
  5. Mae'r rhai sy'n amddiffyn y sgets yn gweld hyn fel ymosodiad gan "elite dosbarth canol" anwybodus nid yn unig ar yr eisteddfod ond ar y mudiad, cefn gwlad Cymru a'u ffordd unigryw o fyw.

    Gellai bron flasu'r eironi.

    ReplyDelete
  6. Yn union Mei. Mae'r ddadl "y ddinas vs y wlad" yn un uffernol o ddiflas ac amherthnasol. Beth bynnag, nid metropolis gosmopolitanaidd mo Caernarfon.

    ----

    Anon: Un rheswm yw'r ffaith nad oes unrhyw berson o gwbl (o'r hyn rwyf wedi'i ddarllen na'i glywed ar y radio, ac rwy'n credu fy mod wedi darllen a gwrando ar bob trafodaeth sydd ar gael) wedi ceisio amddiffyn y peth ar y termau hynny. "Hwyl ddi-niwed" yw'r cyfiawnhad fwy neu lai yn ddi-eithriad.

    Mae jôcs eironig yn ddibynnol ar y ffaith bod y gynulleidfa'n deall yr eironi. Mae mymryn o glyfrwch yn help hefyd. Yr unig beth a gafwyd nos Sadwrn oedd "hahaha bois wedi gwisgo fel chinks!"

    ReplyDelete
  7. Mae cynnwys y blog uchod a’r holl sylwadau arno’n hala’r pých arnaf fi ! Caf fwy o flas ar yfed dishgled o de na darllen y fath eiriau rhodresgar

    ReplyDelete
  8. Rho'r ffycing tegell ymlaen a cher o 'ma, te.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Fe wnes i'n llythrennol chwerthin yn uchel ar hyn. Diolch i ti.

      Delete
    2. Hoffet ti ddishgled o de ?

      Delete
  9. Cefaist bin haeddiannol yn dy swigen a nawr fe ymddengys fod y blog uchod yn ychydig o embaras i ti - dyna egluro'r iaith aflan yn dy ymateb iddo!! Onid gwell fyddai pe baet wedi'i bostio dan ffug enw ?

    ReplyDelete
  10. Eh? Rwy'n falch o'r blogiad ac nid oes golwg o unrhyw ddadl gall yn erbyn yr hyn a ddywedais. Dyna ddigon o fwydro di-sylwedd: rho gynnig ar egluro'r hyn sy'n bod â chynnwys yr erthygl, neu cer i ffwrdd.

    (Diolch Eirwen)

    ReplyDelete