Dyma stori frawychus a gwarthus: mae gwraig 31 oed o'r enw Savita Praveen Halappanavar wedi marw mewn ysbyty yng ngorllewin yr Iwerddon. Roedd yn feichiog ers rhyw 17 wythnos, ond aeth i'r ysbyty ar ôl dioddef poenau cas. Fe gollodd y babi, ond fe wrthododd y doctoriaid erthylu'r ffetws gan eu bod wedi mynnu bod ganddo guriad calon o hyd. O ganlyniad, cafodd Savita haint ddifrifol, a bu farw rai dyddiau'n ddiweddarach o wenwyn yn y gwaed, wedi llawer iawn o ddioddef.
Roedd hyn i gyd yn gwbl ddi-angen. Roedd y beichiogrwydd wedi dirwyn i ben: nid oedd gobaith cael y babi.
Yn syml iawn, mae'r doctoriaid yn gyfrifol yn uniongyrchol am ei marwolaeth, ac mewn byd call byddent yn cael eu cosbi. Mae'n anodd deall y fath greulondeb. Ond fel y dywedwyd wrth ŵr Savita, "this is a Catholic country". Gwir hynny: mae athrawiaeth eglwys Rufain yn ddyanwadol tu hwnt ym mywyd cyhoedds yr Iwerddon o hyd. Yn anffodus, canlyniad yr athrawiaeth honno yw marwolaeth, poen, artaith a galar.
Mae'r gyfraith ynghylch erthyliad yn yr Iwerddon ymysg y llymaf yng ngorllewin Ewrop. A dweud y gwir, mae'r sefyllfa'n eithriadol o niwlog; nid oes unrhyw un o'r pleidiau gwleidyddol yn fodlon cyffwrdd y daten boeth yma a deddfu er mwyn cadarnhau faint yn union o reolaeth a ganiateir i hanner y boblogaeth dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Cyn 1992 (ie, mor ddiweddar â hynny), gwaherddid erthylu fwy neu lai'n llwyr. Ers hynny, ac o ganlyniad i stori drist arall, mae'r wlad fel petai wedi ceisio anwybyddu'r broblem, gan ganiatáu i bobl deithio i wlad arall (hynny yw, Prydain) er mwyn cael erthyliad. O'r hyn rwy'n ei ddeall, cyn 1992, os oedd amheuaeth bod gwraig feichiog yn ystyried cael erthyliad, byddai'r wladwriaeth yn ei rhwystro rhag gadael. Mewn geiriau eraill, roeddent yn garcharorion. Erbyn hyn, mae erthylu er dibenion meddygol yn gyfreithlon, i raddau, ond yn amlwg nid oes llawer o eglurdeb ynghylch y mater ac mae llawer yn ddibynnol ar fympwy doctoriaid ac ysbytai unigol. Canlyniad anochel y fath sefyllfa annerbyniol o annelwig yw marwolaethau digalon pobl fel Savita.
Mae'n sgandal. Da yw sylwi, fodd bynnag, bod y stori wedi arwain at gryn brotestio. Gobeithiaf y bydd sioc y drychineb yma'n gorfodi gwleidyddion yr Iwerddon i wynebu'r broblem ac i wella'r gyfraith. Nid yw'n hawdd credu bod y fath sefyllfa'n bodoli yn un o'n cymdogion agosaf, ond o leiaf mae'n bosibl i'r digwyddiad ofnadwy yma i ddarbwyllo'r llywodraeth nad ydyw'n foesol na chynaliadwy.
Diolch am dynnu sylw darllenwyr Cymru at yr erchylltra yma. Mae hefyd angen bod ar ein gwyliadwriaeth rhag i'r sefyllfa gael ei newid lle bynnag yr ydym yn byw. Mae digon o bobol mewn grym sy'n hoffi'r syniad o gyfyngu ar 'eraill'.
ReplyDeleteDiolch. O ran diddordeb, faint o drafod sydd ar bwnc erthyliad a chrefydd ac ati draw yn Asturias a Sbaen yn gyffredinol? Pa mor swnllyd a dylanwadol yw'r eglwys?
ReplyDelete