05/10/2012

Islamoffobia

Rwyf wedi bod yn brysur yn beirniadu islam yn arbennig o lym ar y blog yn ddiweddar (gweler yma, yma ac yma). Mae hynny'n gwbl haeddiannol; mae pob crefydd yn ddwl, ond islam yw'r gwaethaf o ddigon am amharu ar hawliau sifil.

Rwy'n ddigon hapus i ddweud nad wyf yn hoff o islam. Ond o'r herwydd, byddai'n syniad i mi amlygu'r gwahaniaeth rhwng fy safbwyntiau i a rhai pobl sy'n haeddu'r label islamoffobiaid.

Mae diffiniad y gair islamoffobia'n fater dadleuol o hyd. Yn fy marn i, yr hyn sy'n ei nodweddu (ac sy'n ei wahaniaethu oddi wrth pobl fel fi) yw rhagfarn a dyhead i wahaniaethu. Elfen arall sy'n greiddiol i islamoffobia yw dogn go helaeth o baranoia. Mae angen beirniadu'r grefydd ei hun, ond yr hyn a wna islamoffobiaid yw mynnu cael cyfyngu ar hawliau unigolion mwslemaidd. Mae'n anodd gwadu bod hiliaeth amrwd yn chwarae rhan yn hyn i gyd hefyd.

Dyma sydd wedi arwain at lol apocalyptaidd am rywbeth o'r enw Eurabia. 'Conspiracy theory' anghynnes ydyw, wedi'i seilio ar y pryder afresymol bod Ewrop ar fin cael ei amsugno gan ryw anghenfil o 'ummah' wrth i fwslemiaid fudo yma o'r dwyrain yn eu heidiau (ac, yn wir, bod hynny'n gynllun bwriadol ganddynt). Am y rheswm yma, bydd islamoffobiaid yn cwyno'n ddi-baid am fewnfudwyr brown, a'n gwrthwynebu pethau fel hawl mwslemiaid i adeiladu mosgiaid.

Eironi hyn, wrth gwrs, yw bod cymaint o islamoffobiaid yn gristnogion adweithiol. Maent yn ddall i'r ffaith bod ganddynt gryn dipyn yn gyffredin â rhai o'r mwslemiaid eithafol y maent yn hefru gymaint amdanynt. Mater o raddfeydd yn unig sy'n gwananiaethu ffwndamentaliaid cristnogol ar un llaw a rhai mwslemaidd ar y llaw arall. Er enghraifft, mae'r Taliban yn Affganistan yn lladd pobl gyfunrywiol; dim ond eu carcharu yw dyhead eithafwyr y dde grefyddol Americanaidd. Darnau o'r un brethyn ydynt yn y pen draw.

Yn anffodus, fodd bynnag, mae ambell anffyddiwr yn ymuno yn y paranoia dwl yma. Er enghraifft, mae Sais o'r enw Pat Condell wedi gwneud cryn enw iddo'i hun trwy greu cyfres o fideos tanbaid gwrth-grefyddol ar YouTube. Mae yna lawer iawn i gytuno ag ef, ond o dro i dro bydd yn colli'r plot. Yn y fideo yma, er enghraifft, mae'n gwrthwynebu cynllun arfaethedig i adeiladu 'mósg ar safle Ground Zero' yn Efrog Newydd (mae popeth am yr ymadrodd hwnnw'n anghywir, gan nad yw'n fósg, na hyd yn oed ar y safle hwnnw; nid oes hyd yn oed modd gweld y lle o'r man lle arferai Canolfan Fasnach y Byd sefyll). Fe welwch hefyd ei fod yntau hefyd yn codi'r bwgan rhyfedd yma o Ewrop islamaidd. Mae hefyd yn cefnogi UKIP. O diar.

Bwriad pobl fel hyn yw sathru hawliau pob mwslem o dan droed. Nid oes modd cyfiawnhau hynny o gwbl.

No comments:

Post a Comment