01/10/2012

Hitchens ar ei orau

Gan fy mod yn ddiweddar wedi bod yn craffu'n benodol ar islam ac agwedd beryglus cymaint o'i harddelwyr tuag at hawliau sifil, dyma esgus berffaith i bostio un o'm hoff fideos o'r diweddar Christopher Hitchens. Darn o'r rhaglen Question Time o 2007 yw'r clip, a gwneud Salman Rushdie'n Syr yw'r pwnc.

Agorodd Shirley Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol trwy feirniadu'r 'amseru', gan ei fod yn ansensitif o ystyried bod Rushdie wedi cyhoeddi nofel ar ddiwedd yr 80au a berodd i rai eithafwyr fynd yn wallgof. Mae ymateb Hitchens yn ardderchog:


Roedd sylwadau Williams yn anfaddeuol, ac mae'n anodd gennyf ddeall sut y gall y fath eiriau ddod o enau rhywun sy'n galw'i hun yn ryddfrydwraig.

2 comments:

  1. Dwin meddwl bod y gynulleidfa ar QT yn tueddu i glapio fel defaid os yw rhywun yn gwynt pwynt mewn modd 'grymus' heb falio ryw lawer am gynnwys y pwynt!

    ReplyDelete
  2. 'Clapio fel defaid'? 'Gwynt'? Amser gwely dw i'n credu!

    ReplyDelete