06/10/2012

Ymgyrch arlywyddol America a dadleuon cyhoeddus

Cynhaliwyd y ddadl gyhoeddus gyntaf rhwng Barack Obama a Mitt Romney nos Fercher. Dyma hi'n llawn os oes gennych ddiddordeb:
 
Yn y gorffennol roeddwn yn mwynhau aros i fyny er mwyn gwylio'r pethau yma, ond rwyf bellach o'r farn bod y ddefod yn un eithriadol o ddiflas. Mae'n biti garw bod yr arfer wedi ennill ei blwyf ym Mhrydain erbyn hyn hefyd. Os ydych yn gallu stumogi'r ystrydebau, y geiriau gwag a'r obsesiwn gydag arddull ar draul sylwedd, mae'n bosibl mwynhau'r peth fel darn o theatr neu bantomeim. Yn bersonol, fodd bynnag, rwyf wedi hen gael llond bol ohonynt. Yn waeth byth, roedd y ddadl benodol yma'n canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar yr economi, er nad oes gan swyddfa'r arlywydd lawer iawn o ddylanwad dros y maes yna mewn gwirionedd.

Y consensws yw bod Obama wedi gwneud yn wael a bod Romney wedi perfformio'n dipyn gwell na'r disgwyl. Roedd mwyafrif mawr o'r pethau ddaeth o enau Romney yn gelwyddau noeth, ond fe'u mynegwyd mewn modd hyderus ac awdurdodol. Yn ôl rheolau'r gêm, yr ail ran yw'r bwysicaf o lawer, ac mae hynny'n golygu bod yr ornest wedi'i chofnodi fel buddugolieth swmpus i'r Gweriniaethwr (mae'n werth cofio'n sinigaidd hefyd bod gan y cyfryngau gymhelliad i greu'r argraff bod y ras yn un agos, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i dalu sylw).

Cyn yr ornest hon, roedd yr arolygon barn i gyd yn ffafrio Obama. Er yr holl gyffro am fuddugoliaeth Romney, nid oes arwydd o newid mawr yng nhyd-destun yr ymgyrch ehangach. A bod yn onest, nid wyf yn credu bod y dadleuon yma hanner mor arwyddocaol mewn ymgyrchoedd arlywyddol ag y mae llawer o bobl yn ei dybio. Yn hanesyddol, nid oes perthynas amlwg rhwng llwyddiant yn y dadleuon a buddugoliaeth yn yr etholiad ei hun. Er enghraifft, y consensws oedd bod John Kerry wedi curo George Bush yn gyfforddus dair gwaith yn 2004, ond collodd Kerry'r etholiad yn ddigon llipa yn y diwedd. Mewn dadleuon lle mae arlywydd presennol yn cael ei herio, yr heriwr fel rheol sy'n dueddol o fynd â hi yn hanesyddol. Yn yr etholiadau eu hunain, fodd bynnag, digon anaml y bydd dyn yn gorfod gadael y Tŷ Gwyn wedi cwta un tymor (dim ond tair gwaith y mae hynny wedi digwydd ers yr Ail Ryfel Byd; George Bush yr hynaf oedd y diwethaf, yn 1992).

Nid oes gennyf rhyw lawer o gydymdeimlad ag Obama. Mae ei record parthed hawliau sifil yn waeth hyd yn oed nag un ei ragflaenydd, sy'n ffaith syfrdanol. A dweud y gwir, rwy'n credu bod hynny'n hen ddigon o reswm i'w uchelgyhuddo. Rwy'n cytuno i raddau helaeth â'r erthygl hon gan Glenn Greenwald, sy'n dweud bod y Democratiaid a'r Gweriniaethwyr yn unfrydol ar lawer iawn o bolisïau gwarthus, anfoesol a pheryglus.

Eto i gyd, dylid gochel rhag honni nad oes unrhyw wahaniaeth o gwbl rhwng y ddwy blaid. Petawn yn Americanwr, mae'n ddigon posibl mai pleidleisio dros Obama (o'm hanfodd) fyddai fy mhenderfyniad yn y pen draw. Er mor ofnadwy yw Obama ar sawl pwnc, byddai Romney a'i blaid wallgof yntau'n ganmil gwaeth.

Un o'r prif resymau y byddai buddugoliaeth Weriniaethol yn drychineb yw'r ffaith mai'r arlywydd sy'n enwebu barnwyr ar gyfer y Goruchaf Lys. Mae'r naw barnwr yn cael eu penodi am oes, ac fel rheol mae barnwyr oedrannus rhyddfrydol yn ceisio ymddeol pan mae'r arlywydd yn Ddemocrat, a'r rhai ceidwadol pan mae Gweriniaethwr yn y Tŷ Gwyn. Mae hynny'n galluogi'r arlywydd i benodi rhywun o'r un anian yn eu lle. Wrth gwrs, ambell dro, bydd un ohonynt yn syrthio'n farw yn ddi-rybudd. Bryd hynny, bydd gan yr arlywydd y cyfle i newid cyd-bwysedd y llys i'w fantais ei hun. Fel mae pethau ar hyn o bryd, byddai un newid o'r math yma'n arwain at sefyllfa lle bydd pob math o benderfyniadau hanfodol, fel Roe vs Wade, 1973 (sy'n dweud bod gwahardd erthyliad yn anghyfansoddiadol), yn sicr o gael eu gwyrdroi. Efallai ei bod yn swnio'n ansensitif i drafod marwoldeb y bobl yma mewn termau strategaeth wleidyddol, ond dyna'r system sydd ohoni.

Er popeth, felly, mae yna gryn dipyn yn y fantol pan aiff Americanwyr i bleidleisio ymhen union fis. Mae'r blaid Weriniaethol yn ddibynnol ar gristnogion eithafol sy'n mynnu gorfodi eu daliadau canol-oesol ar bawb arall. O'r herwydd, er nad yw'r dadleuon yma'n arwyddocaol yn fy marn i, ni ellir dweud hynny am yr ymgyrch ei hun.

No comments:

Post a Comment