07/10/2012

Enwaedu drachefn yn yr Almaen

Ym mis Mehefin, cafwyd penderfyniad synhwyrol gan lys yn nincas Cwlen yn yr Almaen i wahardd enwaedu. Roedd mwslemiaid ac iddewon yn anhapus tu hwnt. Am resymau rhyfedd iawn, mae'r hawl i dorri darnau oddi ar bidlanau babanod yn un y mae llawer ohonynt yn ei ystyried yn eithriadol o bwysig. Ar y pryd, crybwyllais y posibilrwydd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wyrdroi ar ôl apêl.

Roeddwn yn anghywir. Yn hytrach, mae llywodraeth ffederal yr Almaen wedi dyfarnu'n erbyn y llys, gan gyflwyno deddf sydd am sicrhau bod enwaedu'n gyfreithlon. Maent hefyd wedi cadarnhau na fydd unrhyw un sy'n mynd ati i berfformio'r ddefod yn y cyfamser yn cael ei erlyn, felly mae'r arfer wedi ail-ddechrau fwy neu lai'n syth.

Efallai ei bod yn anffodus mai yn yr Almaen y digwyddodd hyn, gan fod gwrthwynebwyr y penderfyniad gwreiddiol wedi gallu manteisio ar hanes anffodus y wlad (a dweud y lleiaf) parthed hawliau iddewon, ac wedi fframio'r ddadl yn y cyd-destun hwnnw. Mae'n siomedig bod y gwaharddiad ar ben yn yr achos yma, gan fod y ddefod yn un ffiaidd. O fod yn bositif, fodd bynnag, o leiaf gellir bod yn falch bod y peth yn dechrau cael ei gwestiynu. Gobeithiaf y bydd gwledydd eraill yn ei wahardd o ddifrif yn y dyfodol agos.

No comments:

Post a Comment