Dyma erthygl bwysig a brawychus yn y Daily Telegraph heddiw. Mae'n mynegi pryder bod sawl person wedi'u carcharu neu eu dirywio yr wythnos hon am ddweud pethau a ystyrir yn annerbyniol. Dylai'r sefyllfa yma ddychryn pawb.
Nid oes gennyf amynedd gydag unrhyw un sy'n methu gwahaniaethu rhwng gwarchod hawl rhywun i ddweud rhywbeth twp ar un llaw, a chytuno â'r farn honno ar y llaw arall. Nid wyf yn gwybod beth yn union ddywedodd Matthew Woods, er enghraifft, sydd wedi'i garcharu am 12 wythnos am ddweud pethau hyll am y merched bach diflanedig April Jones a Madeleine McCann, ond rwy'n barod i dderbyn bod ei sylwadau'n rai twp ac ofnadwy. Ond mae hynny'n amherthnasol. Mae beirniadu'r sylwadau'n chwyrn yn ymateb teg a chyfiawn. Ond ni ddylid ei roi o dan glo am ddweud rhywbeth dwl a byrbwyll ar Facebook. Mae hynny'n gwbl frawychus ac anfoesol.
Mae ein hawliau sylfaenol yn prysur ddirywio. Dylai'r peth fod yn sgandal enfawr.
Dyma erthygl ragorol o'r Washington Post yn mynegi pryder tebyg. Mae hyn wir yn broblem.
ReplyDeleteCweit so.
ReplyDelete