Ymddengys bod rhyw berson od yn rhywle wedi anfon 'gwaith' gwirioneddol anghynnes at gystadleuaeth Gwobr Daniel Owen eleni. 'Nid nofel oedd hi, ond cyfres o ddisgrifiadau graffig o blant yn cael eu treisio' yn ôl Dewi Prysor, un o'r beirniaid.
Yn anffodus, ymateb yr Eisteddfod oedd anfon y stwff at yr heddlu, ynghyd â manylion yr awdur. Sinigaidd fyddai nodi'r ffaith i hyn i gyd ddigwydd ym mis Mawrth ond bod y 'newyddion' wedi torri ddiwrnod cyn i'r brifwyl ddechrau, wrth gwrs. Beth bynnag am hynny, rwy'n gyndyn o'r farn na ddylai hyn fod yn fater i'r heddlu o gwbl. Roeddwn yn credu hynny cyn i natur y cynnwys ddod i'r amlwg, ac rwy'n credu hynny o hyd.
Fel mater o egwyddor pendant, rwy'n chwyrn yn erbyn y syniad o anghyfreithloni geiriau ar bapur, oni bai eu bod yn enllibus neu'n bygwth rhywun yn uniongyrchol. Yn sicr, ni allaf feddwl am senario lle byddai'n briodol galw'r heddlu oherwydd darn o ffuglen. Beth bynnag, nid yw'n eglur i mi beth yn union y mae disgwyl i'r heddlu ei wneud yn ymarferol am y peth.
Y ddadl yw bod pryder am y posibilrwydd bod yr awdur yn bwriadu gwireddu'r hyn a ddisgrifia, a bod y disgrifiadau hynny'n neilltuol o ffiaidd. Ond mae pob math o lyfrau - clasuron enwog yn eu plith - yn cynnwys golygfeydd pur 'anweddus'. Mae nofelau Raymond Chandler neu Agatha Christie, er enghraifft, yn llawn llofruddiaethau, ond nid oedd unrhyw un yn credu bod hynny'n reswm i boeni am gymhellion yr awduron. Rwy'n berchen ar gopïau o Naked Lunch gan William S Burroughs a Trout Fishing In America gan Richard Brautigan, dwy nofel sy'n cynnwys disgrifiadau o weithredoedd pedoffeilaidd. Ystyrir y ddwy'n gyfrolau arwyddocaol (fymryn yn ormodol felly yn fy marn i, yn enwedig Naked Lunch), er eu bod yn cynnwys darnau gwirioneddol fochedd. Ystyrier Lolita hefyd fel enghraifft arall.
A dweud y gwir, byddai 'pryderon' yr Eisteddfod yn swnio'n fwy didwyll pe na baent wedi denu'r holl sylw yma at yr hyn a ddigwyddodd. Canlyniad yr holl gyhoeddusrwydd yw bod gan lawer o bobl - a minnau yn eu plith - awydd darllen y deunydd anweddus dirgel yma, er chwilfrydedd pur. Ni fyddem wedi cael gwybod am ei fodolaeth yn y lle cyntaf petai'r Eisteddfod o ddifrif am eu gofidion bod rhywbeth sinistr ar droed. Mae'n bosibl iawn mai creu braw ymysg y 'sefydliad' fel hyn oedd union obaith yr awdur, trwy fod yn edgy a gwasgu'r botymau 'anghywir' i gyd. Dyna, i bob pwrpas, oedd nod Burroughs yn Naked Lunch, a gyhoeddwyd ym 1959. Y jôc yn achos y gyfrol honno yw mai f'ymateb pennaf wrth ei darllen am y tro cyntaf yn lled ddiweddar oedd bod rhywbeth eithaf hen-ffasiwn - quaint, bron - am yr ysfa yna i ddychryn er mwyn dychryn.
Yn rhwystredig ddigon, yn rhy aml mae amddiffyn yr hawl i ysgrifennu
rhywbeth yn cael ei ddehongli fel amddiffyniad o safon y gwaith. Rwy'n hollol chwyrn o blaid yr hawl i ysgrifennu stwff fel hyn, dim ots pa mor wachul neu arswydus ydyw. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu'r hawl i fynnu bod rhywun arall yn ei gyhoeddi, heb sôn am ei wobrwyo. Y gwir yw ei bod yn
swnio fel bod yr hyn a ysgrifennodd yr awdur anhysbys yma'n
ofnadwy ym mhob ystyr y gair. Ond yr ateb syml i hynny oedd i beidio rhoi gwobr
Daniel Owen iddo, a hynny'n dawel bach. Gwaherdder yr awdur rhag cystadlu eto, ar bob cyfrif
(mae'n debyg iddo wneud rhywbeth tebyg yn 2007 hefyd). Ond dyna ddylai fod ei diwedd hi.
No comments:
Post a Comment