Roedd cyfres o dair rhaglen, Cymru: Dal I Gredu, yn gorffen ar S4C heno. Roeddwn i'n ymddangos yn y rhaglen olaf (28 munud i mewn, ond wrth gwrs dylech wylio'r rhaglen gyfan, a'r ddwy flaenorol hefyd).
Cyn-efengylwr yw Gwion Hallam, y cyflwynydd, sydd bellach wedi colli'i ffydd ond sy'n petruso o hyd ynghylch galw'i hun yn 'anffyddiwr'. Mae'r gyfres yn ei ddilyn wrth iddo deithio'r wlad yn cwrdd â phobl o bob ffydd, a heb ffydd, er mwyn gweld beth yw cyflwr crefydd yng Nghymru heddiw. Mae'n werth ei gwylio.
Nid wyf yn siwr pa mor llwyddiannus oeddwn i wrth geisio'i ddarbwyllo i gofleidio'r label. Yn ôl pob tebyg, mae ein safbwyntiau diwinyddol (neu, yn hytrach, eu habsenoldeb) yn bur debyg, felly mater semantig yw hyn mewn ffordd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod anffyddwyr yn defnyddio'r gair hwnnw er mwyn disgrifio'u hunain, hyd yn oed os nad yw o reidrwydd yn ddyletswydd ar bob un ohonom i ddadlau'n gyhoeddus am y pwnc. Anffyddiwr fel fi yw Gwion yn barod i bob pwrpas; waeth iddo ymfalchïo yn hynny, ddim!
Dylan. Shwd mae erbyn hyn? Diolch i ti eto am ddod draw i'r swyddfa am sgwrs. Ac am fod yn hapus i ni ei ffilmio! A diolch am flogio ar ol y rhaglen neithiwr. Falch bod yna drafod a thrydar wedi bod.
ReplyDeleteAc wyt, mi wyt ti'n iawn - i raddau! Ti'n iawn wrth gwrs - dwi ddim yn credu mewn duw/Duw. Dw i ddim yn dilyn unrhyw grefydd bellach. A dyna pam - yn yr adran honno ar grefydd yn y cyfrifiad dwetha - fe wnes i rhoi tic yn y bocs dim crefydd. (nid mewn bocs 'anffyddiaeth!') Roedd yn brofiad digon rhyfedd a newydd, ac oedd mi oedd yna elfen o 'euogrwydd' - dwi'n cyfadde! Ond dyna oedd yn iawn, a hynny am y rheswm syml - ac amlwg - nad ydw i'n dilyn nac yn arddel crefydd bellach. Cristnogaeth yn benodol i fi wrth gwrs. Mae hynny yn bennaf am nad ydw i'n credu yn yr atgyfodiad - dwi ddim yn teimlo y gallwn roi tic yn y bocs Cristnogaeth. (yn fy marn bach i, o holl gongl-feini'r ffydd Gristnogol efallai mai'r atgyfodiad yw'r mwyaf hanfodol? A chan nad ydw i'n credu ynddo bellach - nid yn llythrennol beth bynnag - fedra i ddim galw fy hun yn gristion.) Ond, i fi mater arall - a cham ymhellach - fyddai rhoi tic mewn bocs anffyddiaeth - petai yna un yn bodoli. Ai semanteg yw hyn, fel wyt ti'n ei awgrymu? Chwarae hefo geiriau? Falle wir - ond na dwi'm yn meddwl. Achos i fi mae anffyddiaeth yn beth gwahanol iawn i beidio a chredu mewn duw/duwiau neu'r goruwchnaturiol? I fi mae bod yn anffyddiwr - a dweud hynny hefyd - yn gofyn bod yn erbyn credu mewn duw? Ydw i'n iawn? Fel o'n i yn gristion o argyhoeddiad - a oedd yn credu mai Crist oedd y ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd - yr unig ffordd ar hynny - onid oes rhaid i anffyddiwr gredu mai peidio a chredu yw y ffordd gywir. A bod credu mewn duw, a ffyrdd y duw yna, nid yn unig yn anghywir - ond yn gwneud drwg i gymdeithas? Nid yw bod yn niwtral yn ddigon i anffyddiwr. Nid dim ond teimlo nad oes yna berthynas o gwbwl rhwng cred a moesoldeb - anghytuno fod angen duw i fod yn dda - ond mynd gam ymhellach a chredu fod crefydd mewn gwirionedd yn ddrwg i gymdeithas a lles ein byd? Fod credu mewn duw yn niweidiol? Y byddai'n well i bob un ohonom petai pawb yn stopio credu a'r byd yn dod yn gwbwl seciwlar. I fod yn anffyddiwr byddai rhaid i fi fod yn argyhoeddiedig mai dyma y ffordd a'r gwirionedd - y bywyd fyddia'n well i bawb? Ydw i'n iawn? Efallai mai semanteg yw hyn. Y gair 'anffyddiwr' sy'n styc yn fy ngwddw? Ond na, mae geiriau yn bwysig. Nid dim ond label yw gair, ond ffordd o grynhoi ystyr?
Helo! Diolch am y rhaglen, a'r geiriau caredig!
ReplyDeletePwyntiau difyr, sy'n haeddu atebion llawn mewn blogiad ychwanegol yn fuan. Digon i gnoi cil drosto.
Am y tro, digon yw dweud fy mod yn bendant o'r farn bod i anffyddiaeth oblygiadau. Mae'n fwy na "diffyg ffydd mewn duw" yn unig; ar ôlcyrraedd y casgliad amlwg nad oes rheswm yn y byd i arddel ffydd grefyddol, dylem ofyn beth mae hynny'n ei olygu, a sut fath o fyd yr hoffem ei weld.
Wedi dweud hynny, nid dweud yw hyn bod rhaid i anffyddwyr gytuno â mi ynglŷn â phopeth. Egluro f'agwedd fy hun oeddwn i'n y rhaglen, ond roeddwn i'n swnio fel petawn i'n dweud bod raid i bawb sy'n galw'i hun yn anffyddiwr fod yn activist sy'n 'cenhadu' (fel petai) am yr achos. Roeddwn i'n aneglur braidd; nid oes dyletswydd ar unrhyw un i fod yn ddadleuol ac ati.
A dweud y gwir, mae llawer o anffyddwyr erbyn hyn yn rhoi mwy a mwy o bwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol a gwaith dyngarol, a'n barod i gyd-weithio â grwpiau crefyddol blaengar pan fo hynny'n briodol. Rwy'n cydymdeimlo fwyfwy â'r agwedd honno fy hun, fel mae'n digwydd.
Bydd raid i mi ymhelaethu ymhellach pan gaf gyfle. Diolch am ysbrydoli deunydd blogio!
Mae gen i ychydig o broblem gyda gair 'anffyddiwr' hefyd ond am reswm gwahanol - y cyfieithiad Cymraeg yn bennaf. Mae atheism yn golygu 'heb dduw(iau)' ond mae'r Gymraeg yn dod a ffydd mewn i'r peth.
ReplyDeleteChes i ddim fy ngeni gyda ffydd neu gred mewn duw (o unrhyw grefydd). Wrth dyfu lan wnes i ddechrau credu yr hyn oedd fy rhieni ac oedolion yn ddweud wrtha i - fod yna dylwyth teg, Siôn Corn, Duw (Cristnogol) ac ati. Wrth dyfu yn hynach a dysgu mwy dros fy hun wnes i stopio credu yn Siôn Corn a wnes i stopio credu yn y Duw (Cristnogol) tua 13 oed.
Mae'n bach o benbleth i fi sut mae pobl fwy deallus na fi yn dal i gredu mewn 'duw' gyhyd ar ôl iddyn nhw dyfu'n ddigon hen i feddu'r gallu i feddwl dros eu hunain.
Y broblem felly yw mai ffydd/crefydd/duw yw'r sefyllfa 'default' mewn cymdeithas a mae'n rhaid disgrifio eich hun yn erbyn hynny. Er fod pawb yn cael eu geni heb unrhyw safbwynt, fel dwi'n dweud.
Dwi ddim yn hoffi 'annuwiaeth' neu 'anghred' chwaith am ei fod yn ddisgrifiad sy'n groes i ryw safbwynt 'arferol'.
Wedi dweud hyn i gyd dwi ddim yn hoffi labeli yn gyffredinol ond dwi'n gweld y pwynt o ddefnyddio rhai er mwyn cyflwyno dadl yn erbyn safbwyntiau 'arferol' cymdeithas.
Mae'r term anffyddiaeth yn broblematig rhywsut. Fel dwi wedi dadlau droeon mae gan bawb ffydd yn rhywbeth. Os nad ffydd yn Iesu, yna ffydd yn y ddynoliaeth, ffydd mewn antur wyddonol neu ffydd yn y tri yma fel yn fy achos i. Dwi'n gyrri i'r Bala i gyfarfod fory - mae gen i ffydd y bydda i'n cyrraedd yn saff ar sail tystiolaeth mod i'n gwybod y ffordd, fod gen i gar call, mod i wedi mynd i'r Bala yn saff o'r blaen - ond eto mae yna gam o ffydd oherwydd gallai rhywbeth gwahanol ddigwydd. Mae'n amhosib bod yn ddynol a byw y bywyd hwn (heb ddod a barn am fywyd tragwyddol mewn i'r ddadl ar y pwynt yma) heb ffydd. Mae'r sgwrs yn mynd yn fwy diddorol wrth drafod ym mheth mae'n ffydd.
ReplyDeleteDiolch Dafydd. Wedi meddwl, buaswn i'n dadlau bod y gair 'anffyddiaeth', os rywbeth, yn rhagori ar 'atheism'. Nid oes modd credu mewn duw heb ffydd, ond mae modd bod â ffydd mewn cysyniadau eraill hefyd, nid duwiau'n unig. Nid 'duw' mo pob endid goruwchnaturiol, er enghraifft. Nid yw seientoleg (a ystyrir yn grefydd, o fath) yn cynnwys 'duw', fel y cyfryw, ond mae'n llawn cysyniadau goruwchnaturiol. Er gwaethaf honiadau doniol yr eglwys honno bod eu dulliau'n wyddonol, ffydd yw'r cyfan. Mae anffyddiaeth yn cynnwys ymwrthod â'r math yna o grefydd hefyd (a Bwdhaeth) yn ogystal â'r duwiau crefyddol mwy confensiynol), ond yn dechnegol byddai hynny tu hwnt i remit etymolegol 'atheism' (er bod 'atheists' yn dadlau'n erbyn y rhain hefyd wrth gwrs).
ReplyDeleteDiolch Rhys. Nid ffydd fuaswn i'n galw'r math o beth rwyt ti'n ei ddisgrifio. Rwyt ti dy hun yn rhestru'r rhesymau da tros dybio dy fod yn gallu gyrru i'r Bala. Tystiolaeth wyddonol yw hyn yn y bôn (waeth i ni alw'r peth yn hynny, ddim), a thrwy werthuso'r ffeithiau hyn, a ffactorau lu eraill fel rhagolygon y tywydd, mae modd cyrraedd casgliad gwyddonol bod siawns dda iawn y byddet yn cwblhau'r daith yn saff. Nid oes sicrwydd 100% o hynny, wrth gwrs, ond nid oes sicrwydd 100% o unrhyw beth. Petaem yn mynnu sicrwydd 100% cyn gwneud unrhyw beth, byddai'n amhosibl i ni adael y gwely. Mater o bwyso a mesur tebygolrwydd yw hyn, sy'n hollol wahanol i'r hyn a olygir â ffydd.
ReplyDelete