Digalon oedd darllen am fwriad llywodraeth yr Alban i wahardd cnydau wedi'u haddasu'n enetig. Mae obsesiwn y mudiad gwyrdd â'r pwnc hwn yn peri cryn rwystredigaeth i mi, a dweud y gwir, gan nad oes sail wyddonol o gwbl i'r pryderon. I'r gwrthwyneb, mae'n faes addawol dros ben, gyda llawer o fanteision o safbwynt amgylcheddol a sosio-economaidd.
Y gwir yw ein bod wedi bod yn ddiwyd yn addasu planhigion, ac anifeiliaid o ran hynny, yn enetig ers miloedd o flynyddoedd. Dyna holl sylfaen amaethyddiaeth: rydym yn dewis y cnydau neu'r da byw sy'n diwallu ein hangenion orau, a defnyddio'r rheiny er mwyn cynhyrchu'r genhedlaeth nesaf. Dyma sut y bu i india-corn gynyddu mor ddramatig mewn maint dros gyfnod o 10,000 o flynyddoedd, er enghraifft. Esblygiad wedi'i lywio gan bobl ydyw yn y pen draw. Mewn geiriau eraill: addasu genetig.
Yr unig wahaniaeth yn achos yr hyn sy'n peri braw i rai pobl heddiw yw bod yr addasu hwnnw'n digwydd mewn labordy, a'n cael ei wneud gan wyddonwyr mewn cotiau gwyn. Yr un yw'r nod yn union, sef cynhyrchu mathau o fwyd sy'n haws i'w cynhyrchu. Er enghraifft, mae cynhyrchu cnydau newydd sy'n apelio llai at bryfetach yn golygu bod angen defnyddio llai o blaladdwyr. Mae hynny - yn hollol ddi-amwys - yn fuddiol dros ben i'r ffermwr a'r amgylchedd. Yn yr un modd, bydd modd cynnyrchu mwy a mwy o fwyd gan ddefnyddio llai o dir a gwrtaith. Unwaith eto, da yw hyn i gyd, heb ddadleuon da yn erbyn. Mewn gwledydd tlawd yn arbennig, mae addasu cnydau'n enetig yn cynnig gobaith anferthol.
Mae carfan o'r mudiad amgylcheddol sy'n obsesiynu ynghylch y 'naturiol', sydd, yn eu tyb hwy, yn rhagori ar yr 'artiffisial'. Nonsens fel hyn sy'n arwain at honiadau hanner-pan fel y syniad bod 'cemegion' yn ddrwg yn eu crynswth, er mai cemegion yw popeth, yn llythrennol, yn y byd i gyd (gan gynnwys quinoa). Nid syniadau blaengar mo'r rhain, eithr y gwrthwyneb. Lol emosiynol gwrth-wyddonol ydyw, ac mae'r sawl sy'n ei harddel yn Luddites adweithiol. Dylai amgylcheddwyr call ymbellhau oddi wrthynt.
Rwy'n cytuno ar y cyfan ond mae'n werth nodi bod peirianneg genetig yn mynd y tu hwnt i fridio gyda'r gallu i drosglwyddo genynnau rhwng rhywogaethau.
ReplyDeleteMae rhai o'r newidiadau yn cael eu gwneud er mwyn cynyddu dibynniaeth ar y cwmniau sy'n gwerthu'r hadau yn hytrach na gwella'r cnydau Er enghraifft sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn ddiffrwyth fel nad oes modd i ffermwyr tlawd cadw canran o'r cynnyrch yn ôl ar gyfer y tymor nesaf
ReplyDeleteDiolch!
ReplyDelete1) Gwir, ond fy mhwynt yw nad yw hynny'n bwysig. Yn sicr nid oes unrhyw wahaniaeth foesol. Addasu genetig yw hyn i gyd yn y pen draw. Nid yw'r dull yn berthnasol yn fy marn i. Codi bwganod (Frankenstein!!) yw dychryn am hynny.
2) Eto, gwir. Gobeithio, wrth i'r dechnoleg wella ac i'r costau ostwng, bydd llai o fonopoli gan y cwmnïau mawrion. Eto i gyd, nid yw'n reswm i wahardd addasu genetig yn ei grynswth. Byddai hynny fel dweud bod annhegwch y modd y mae archfarchnadoedd yn trin ffermwyr llefrith yn reswm i wahardd godro.