13/09/2015

Y 'canol' gwleidyddol

Gyda Jeremy Corbyn bellach wedi'i ethol yn arweinydd y Blaid Lafur, mae'n sicr y clywn fwy fyth o ddadlau ynghylch y broblem fawr honedig sy'n ei wynebu, sef na fyddai'n etholadwy. Mae llawer o bwysigion sefydliadol y blaid yn pryderu ei fod yn rhy bell i'r chwith yn wleidyddol, ac mai symud yn ôl i'r 'canol' ddylai Llafur ei wneud os ydynt am greu llywodraeth yn 2020. Y broblem, yn fy marn i, yw bod y 'canol gwleidyddol', neu'r 'cymhedrol', yn gysyniad trafferthus.

Y broblem gyntaf yw'r dybiaeth mai'r 'canol', yn anorfod, yw'r lle cywiraf i fod. Os yw person A yn dadlau un peth, a pherson B yn arddel y gwrthwyneb, mae yna duedd, yn enwedig yn y cyfryngau modern, i gasglu bod rhaid i'r gwir fod rywle yn y canol rhyngddynt. Diau bod hynny'n wir weithiau. Ond dro arall, mae un person yn iawn a'r llall yn hollol anghywir, ac mae chwilio am gyfaddawd 'cymhedrol' yn anonest.  Gwelir hyn yn aml mewn dadleuon am bynciau gwyddonol, a'r sylw anhaeddiannol a roddir i bobl sy'n gwadu ein bod yn cael effaith ar yr hinsawdd, er enghraifft, neu i greadyddion. Mae'r un peth yn wir, weithiau, gyda gwleidyddiaeth.

Mae'r ail broblem yn ymwneud â holl bwrpas gwleidydda, ac rwyf wedi cyffwrdd arni ar y blog o'r blaen. Yn arddangosol, o leiaf, pan mae rhywun yn penderfynu mynd yn wleidydd, eu rheswm yw bod ganddynt gasgliadau o safbwyntiau ac egwyddorion y maent yn deisyfu eu rhoi ar waith. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r athronydd ceidwadol Edmund Burke: cyn etholiad, dylai gwleidyddion egluro'u polisïau'n onest, a cheisio darbwyllo'r etholwyr bod y polisïau hynny'n gywir. Ar ôl yr etholiad, dylent barhau i ddilyn eu cydwybod, gan gynnwys pan all hynny fod yn niweidiol i'w gobeithion yn yr etholiad nesaf.  Celwydd yw addasu safbwyntiau er mwyn cydymffurfio â barn y cyhoedd. Yn fy marn i, mae gwleidyddion yn treulio llawer iawn gormod o amser yn ceisio 'apelio' at eu hetholwyr, a llawer gormod o amser yn eu hetholaethau. Rwy'n disgwyl i aelodau seneddol dreulio'u hamser yn ceisio gwireddu eu syniadau ideolegol mewn deddfwrfa genedlaethol. Yn y bôn, fy nadl yw na ddylai gwleidyddion adael i'r cyhoedd gael unrhyw ddylanwad ar eu hymddygiad. Breuddwyd gwrach iwtopaidd yw hyn, wrth reswm, ond dyma'r ddelfryd y dylid anelu amdano, yn fy marn i.

Mae hyn yn arwain at y brif broblem, sef y syniad bod y 'canol gwleidyddol' rywsut yn bodoli fel endid annibynnol, y tu hwnt i'n rheolaeth, a bod unrhyw shifft i'r dde neu'r chwith yn anochel. Lol amlwg yw hyn. Do, mae'r canol gwleidyddol ym Mhrydain wedi symud cryn dipyn i'r dde, ar faterion economaidd, dros y degawdau diwethaf. Ond y rheswm am hynny yw mai'r Blaid Geidwadol sydd wedi'i symud yno. Wrth i 'eithafwyr' (yn ystyr llythrennol y gair) geisio gwthio'r ffiniau ymhellach ac ymhellach, mae ffenestr Overton, sef yr amrediad o safbwyntiau a ystyrir yn 'dderbyniol', yn dilyn ychydig y tu ôl. Hynny yw, er mwyn gwneud i syniad swnio'n fwy credadwy, mae'n help os oes rhywun arall, ar yr un pryd, yn gwyntyllu syniad mwy 'eithafol' fyth ar yr un pryd. Pe cyflawnir hynny, gellir wedyn gwthio pethau ymhellach ac ymhellach eto, ac yn y blaen.

Nid oes dwywaith mai'r Ceidwadwyr sydd wedi bod yn symud ffenestr Overton i'w dibenion eu hunain ers cenhedlaeth, bellach. Dyma alluogodd Margaret Thatcher i ddatgan mai ei llwyddiant gwleidyddol pennaf oedd Tony Blair a Llafur Newydd. Mewn termau absoliwt, roedd llywodraeth Blair ymhellach o lawer i'r dde, yn economaidd, nag oedd Thatcher erioed. Yng nghyfnod Callaghan, byddai hyd yn oed y Ceidwadwyr wedi ystyried syniadau Blair yn eithafol. Dilyn ffenestr Overton yn dawel bach y mae Llafur wedi bod yn gwneud yn y cyfnod yma; roeddent wedi rhoi'r gorau i frwydro i geisio tynnu'r ffenestr i'r chwith drachefn. Yn y pen draw, roeddent yn cydnabod eu bod wedi colli'r ddadl i raddau helaeth, a'n gwerthu'u hunain fel fersiwn ychydig yn llai milain na'r Blaid Geidwadol.

Nid felly raid i bethau fod. Rwy'n amheus iawn o'r dybiaeth bod newidiadau a datblygiadau ideolegol yn anorfod (ac rwyf felly'n anghytuno â syniadau Marx ynghylch penderfyniaeth). Yn yr un modd, roedd Martin Luther King (neu, yn hytrach, Theodore Parker) yn anghywir, yn fy marn i, pan ddywedodd bod 'the arc of the moral universe is long, but it bends toward justice.' Mae'n wir bod cymdeithas erbyn heddiw yn fwy cyfiawn nag y bu mewn sawl ffordd, gan roi hawliau i grwpiau a ormeswyd gynt (hynny yw, wrth i'r 'canol' economaidd symud i'r dde, mae'r 'canol' cymdeithasol wedi mynd i'r cyfeiriad arall), ond dim ond trwy ymgyrchu a brwydro caled iawn y cafwyd hynny. Nid oedd yn sicr o ddigwydd o bell ffordd, ac os nad ydym yn ofalus gall y bwa blygu'r holl ffordd yn ôl i'r cyfeiriad anghywir drachefn, fel sy'n digwydd yn Rwsia, er enghraifft, ar hyn o bryd.

Gall fod yn wir, am wn i, bod y Ceidwadwyr yn hollol gywir, yn wrthrychol, i ddweud bod llymder economaidd yn angenrheidiol, a bod rhaid torri ar fudd-daliadau a phreifateiddio gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n amheus o hynny, yn bersonol. Ond ar hyn o bryd, mae'n cael ei dderbyn yn ddi-gwestiwn. Y dybiaeth yw bod y 'canol' yn derbyn y dadleuon, a dyna'i diwedd hi.

Os dim byd arall, efallai bydd arweinyddiaeth Corbyn yn ehangu ffenestr Overton a'n rhoi llwyfan amlycach i well amrediad o syniadau. Mae'n hen bryd i Lafur roi cynnig ar symud y 'canol' i'r cyfeiriad arall yn hytrach na dilyn hen olion traed eu gwrthwynebwyr Ceidwadol yn ddi-gwestiwn. Agwedd syrffedus mewn gwleidyddiaeth yw'r duedd i osgoi mynegi rhai polisïau ar y sail eu bod yn amhoblogaidd. Ond os nad yw'r syniadau hynny'n cael eu gwyntyllu'n gyhoeddus yn y lle cyntaf, mae'r broffwydoliaeth honno'n sicr o wireddu'i hun.

2 comments:

  1. Ond nae'n llawer haws symud ffenest Overton pan ydych chi mewn grym na phan ydych chi yn yr wrthblaid. Mae'n werth cofio, nid yn unig fel wyt ti'n dweud bod Blair yn gread Thatcher, ond bod Cameron yn galw ei hun yn 'the hair to Blair' - h.y. ar ol sail etholiad aflwyddiannus roedd rhaid i'r Ceidwadwyr symud eu plaid nhw at y 'tir canol' er mwyn cael eu hethol. Unwaith ydych chi'n cael eich ethol fe allech chi rhoi rhaglen ar waith er mwyn symud y tir canol ymhellach i ba bynnag gyfeiriad ydych chi am iddo fod atno, sef beth mae Osborne yn cyfaddef yn blaen mewn cyfweliad diweddar gyda'r Spectator ei fod o wedi bod yn ei wneud.

    Y broblem efo Corbyn yw nad oes ganddo obaith mul o gael ei ethol, ac does ganddo chwaith ddim gobaith, y tu allan i rym, o symud y tir gwleidyddol i safle lle y mae o'n gallu cael ei ethol.

    ReplyDelete
  2. Diolch am y sylw.

    Mae'n amlwg yn wir ei bod yn llawer haws symud y tir canol pan rydych yn llywodraethu. Ond cofia mai ym 1975 yr etholwyd Thatcher yn arweinydd y Ceidwadwyr. Cyn y ras, roedd hi'n cael ei hystyried fel ffigwr gymharol ymylol, 'eithafol', o fewn ei phlaid. Yn dilyn ei buddugoliaeth, roedd llawer iawn o Geidwadwyr a sylwebyddion o'r farn ei bod yn rhy bell i'r dde i ennill etholiad cyffredinol. Roedd yr argraff honno'n gyffredin nes 1979 (hyd yn oed gyda llywodraeth Lafur mor amhoblogaidd ag un Callaghan). Atsain o'r sefyllfa bresennol, efallai. Ond efallai ddim. Pwy a wyr?

    Nid dweud yw hyn bod Corbyn yn sicr, yn debygol, neu hyd yn oed bod ganddo obaith gwirioneddol, o newid y tirlun gwleidyddol yn yr un modd ag y gwnaeth Thatcher. F'unig bwynt yw nad oes unrhyw beth yn anochel y naill ffordd na'r llall.

    ReplyDelete