Roedd trafodaeth am gyfraith sharia ar fin dechrau mewn darlithfa yn Queen Mary College yn Llundain, wedi'i threfnu gan y Queen Mary Atheism, Secularism and Humanism Society. Roedd digon o bobl seciwlar a mwslemaidd fel ei gilydd wedi mynychu ac fe ddichon bod bron pawb yn barod am dipyn o drafod - ac efallai, hyd yn oed, mymryn o anghytuno - cwrtais a phwyllog. Gallaf yn hawdd ddychmygu y byddai wedi bod modd cynnal y drafodaeth honno heb grybwyll y proffwyd Mohammed o gwbl, ac mae'n berffaith bosibl mai dyna beth fyddai wedi digwydd yn ddigon parchus (nid yw hyn yn bwynt pwysig iawn, ond mae'n gwneud yr hyn sy'n dilyn gymaint â hynny'n fwy gwallgof).
Yn anffodus, yng ngeiriau llywydd y gymdeithas uchod, dyma a ddigwyddodd nesaf:
"Five minutes before the talk was due to start a man burst into the room holding a camera phone and for some seconds stood filming the faces of all those in the room. He shouted ‘listen up all of you, I am recording this, I have your faces on film now, and I know where some of you live’, at that moment he aggressively pushed the phone in someone’s face and then said ‘and if I hear that anything is said against the holy Prophet Muhammad, I will hunt you down.’ He then left the room and two members of the audience applauded.Rhaid oedd gohirio'r drafodaeth oherwydd nid oedd modd sicrhau diogelwch y bobl a oedd yno.
"The same man then began filming the faces of Society members in the foyer and threatening to hunt them down if anything was said about Muhammad, he added that he knew where they lived and would murder them and their families. On leaving the building, he joined a large group of men, seemingly there to support him. We were told by security to stay in the Lecture Theatre for our own safety. On arriving back in the room I became aware that the doors that opened to the outside were still open and that people were still coming in. Several eye witnesses reported that when I was in the foyer a group of men came through the open doors, causing a disruption and making it clear that the room could not be secured. Unfortunately, the lack of security in the lecture theatre meant we and the audience had to leave and a Union representative informed the security that as students’ lives had been threatened there was no way that the talk could go ahead.
"This event was supposed to be an opportunity for people of different religions and perspectives to debate, at a university that is supposed to be a beacon of free speech and debate. Only two complaints had been made to the Union prior to the event, and the majority of the Muslim students at the event were incredibly supportive of it going ahead. These threats were an aggressive assault on freedom of speech and the fact that they led to the cancellation of our talk was severely disappointing for all of the religious and non-religious students in the room who wanted to engage in debate."
Efallai fy mod yn unigryw yn hyn o beth, ond ers darllen am y digwyddiad yma'n gynharach heddiw rwyf wedi bod yn breuddwydio (neu'n ffantasïo) am yr hyn y buaswn i wedi hoffi ei ddweud neu ei wneud pe buaswn wedi digwydd bod yno fy hun. Rwy'n rhoi fy hun yn esgidiau pwy bynnag gafodd y camera yn eu gwyneb, ac rwy'n dychmygu syllu i mewn iddo'n bwyllog a dweud rhywbeth fel hyn: "you mean something like this? "Mohammed was just another medieval mystic and paedophile"".
Wrth gwrs, dim ond yn fy nychymyg fy hun y mae'r Dylan dewr ac arwrol yna'n bodoli. Gallaf eich sicrhau mai ymateb tebygol y Dylan go iawn fyddai llyncu poer yn ofnus a distaw, ac efallai llenwi trôns. Beth bynnag, mae'r dyn wedi hen ddangos eisoes ei fod yn boncyrs; ni fyddai'n syndod petai ganddo arf o rhyw fath wedi'i guddio'n rhywle, a chreadur digon tila ydwyf yn y bôn.
Fel y nodwyd, rhaid oedd penderfynu mai'r peth saffaf fyddai peidio trafod y pwnc o gwbl. Y pwynt trychinebus felly yw bod bwlio a chodi braw ar bobl yn gweithio. Mae'n dacteg effeithiol er diben tawelu beirniadaeth, a dyma pam mae angen gwawdio pawb sy'n ei defnyddio. Ni ddylid ildio na thawelu na rhoi unrhyw fai o gwbl ar y sawl sy'n beirniadu. Mae'n anfaddeuol felly mai ymateb cyntaf aelod o staff diogelwch y brifysgol oedd "If you will have these discussions, what do you expect?". Mae hynny'n dwyn i gof ymatebion tebyg ond rhy gyffredin o lawer yn ystod saga Salman Rushdie ym 1989 a'r cartwnau Danaidd yn 2005, gan gynnwys datganiadau o eiddo llywodraeth Prydain. Ymatebion llipa a phathetig o'r fath sy'n rhoi anogaeth i eithafwyr ddefnyddio trais a bygythiadau yn y lle cyntaf. Os mai osgoi gwylltio ac ypsétio pobl yw'r amcan, yna mae synnwyr yn dweud mai po fwyaf y mae'r bobl yna'n gwylltio ac ypsétio, po leiaf o bethau derbyniol y mae modd i bawb arall eu dweud. Mae hynny'n golygu bod gan radicaliaid crefyddol gymhelliad i fanteisio ar bob hanner-cyfle i wylltio, er mwyn sathru ar bob barn sy'n mynd yn groes. Mae gwirfoddoli i fod yn wystlon i sensitifrwydd y ffyliaid yma'n syniad uffernol.
Dyma ddangos yn gwbl glir felly ei bod yn hanfodol nad oes unrhyw syniadaeth o gwbl yn cael ei rhoi ar bedestal: rhaid pwysleisio bod pob safbwynt yn darged dilys ar gyfer beirniadaeth. Mae hyn hefyd yn tanlinellu pam mae cymaint o angen cableddu a dychanu delwedd Mohammed. Pe na bai yna bobl yn bodoli sy'n mynnu'r hawl i orfodi pawb arall i gydymffurfio â rheolau twp eu crefydd, yna iawn, o'r gorau, hwyrach fe fyddai braidd yn od a di-angen gwneud hwyl am eu credoau i'r fath raddau. Mae'r ffaith bod pobl yn gwneud pethau fel yr uchod, fodd bynnag, yn ei wneud yn angenrheidiol. Hynny yw, yr ymateb gorau i unrhyw un sy'n bygwth ein hawl i ddweud pethau yw i ddweud y pethau hynny'n uwch. Nid oes angen cytuno â'r farn er mwyn dangos cefnogaeth yn hynny o beth. Er enghraifft, petai rhywun yn cael ei rwystro rhag llosgi baner Cymru, am ba bynnag reswm, byddai hynny'n reswm da i bawb sy'n caru rhyddid mynegiant amddiffyn ei hawliau trwy losgi baneri eu hunain er mwyn gwneud pwynt, hyd yn oed os yw'r weithred yn un na fyddent yn dychmygu ei wneud am eiliad fel arall.
O'm rhan i, ni fuaswn yn gweld angen galw Mohammed yn bidoffeil oni bai fy mod wedi cael fy mhryfocio'n gyntaf; er bod y ffaith yn berffaith wir, nid yw'n berthnasol lle mae athrawiaeth islamaidd yn y cwestiwn. Ond yr egwyddor pwysig yw bod gennyf berffaith hawl i ddweud pethau o'r fath heb orfod dioddef bygythiadau. Y rheol euraidd yw hyn: nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio gael eu hypsétio. Os yw geiriau angharedig am Mohammed yn eich brifo, peidiwch â chymryd sylw, neu defnyddiwch eich llais eich hunain er mwyn anghytuno. Ni ddylai tawelu'r siaradwr fod yn ddewis.
Y gobaith mawr yw bod rhywun o blith y gynulleidfa'n meddu ar feddwl chwim ac wedi gallu tynnu llun o'r bastard. Mae'n hanfodol ei garcharu; nid yw bygythiadau uniongyrchol a lloerig fel yma'n dderbyniol, wrth reswm. Mae unrhyw un sy'n methu â chondemnio'r coc oen yma'n hallt yn elyn i gymdeithas waraidd.
Ti'n blydi boncyrs, ond rwy'n cytuno'n llwyr â ti.
ReplyDeletePam ar wyneb ddaear mae bobl yn fodlon sleifio dan y garreg agosaf, pan fydd y bwli Islamaidd yn dechrau chwydu bygythiadau?
Does dim rhaid mynd allan o'n ffordd i ypsetio Mwslemiaid drwy ddweud fod Mohammed yn bidoffeil - dydy hynny ddim yn ein heffeithio ni, ta beth. Ond, mae'n rhaid siarad lan dros y rhai sy'n cael eu llusgo dan draed pob cyfundrefn anfoesol, gan gynnwys ffasgiaeth Islamaidd.
Diolch am dy sylwadau.
Boncyrs? Gobeithio ddim!
ReplyDeleteNi ddylai hyn fod yn ddadleuol o gwbl. Rhaid i'n cymdeithas gyfan sylweddoli bod ildio, a chytuno â'r eithafwyr ei bod yn annerbyniol mynegi rhai safbwyntiau'n gyhoeddus, yn gwneud y sefyllfa'n beryclach i ni gyd gan na fyddent byth yn fodlon. Mewn undod y mae nerth: rhaid i bawb wneud safiad. Mae ymatebion megis "ie, wel, roedd hynny'n ansensitif" yn anfoesol, afiach a llwfr.
Mae ymmdygiad gorffwyll o'r fath a ddisgrifiar yn y blog uchod yn nodweddiadol o lawer Mahomedan. Cangymeriad dybryd yw gadael iddynt gartrefu yn ei plith.
ReplyDeleteMae ymddygiad gorffwyll o'r fath a ddisgrifir yn y blog uchod yn nodweddiadol o lawer Mahomedan. Camgymeriad dybryd yw gadael iddynt gartrefu yn ein plith.
ReplyDeleteEr fy mod yn cytuno a'r rhan fwyaf o dy sylwadau uchod, haws dy alw'n Islamoffôb na thrafod! Yn yr un modd ag wyt ti'n taflu'r gair Homoffôb i bedwar gwynt y gwe heb drafod!
ReplyDeleteAlwyn, rwy'n dy herio i ganfod un enghraifft ohonof yn ymateb i ti trwy dy alw'n homoffôb a gadael y peth yn y fan yna.
ReplyDeleteMae'n ddigon posibl (ond nid wyf yn sicr) fy mod wedi ymateb i ti rhyw dro trwy egluro'n fanwl bod dy safbwynt yn anghywir cyn cloi trwy ddweud rhywbeth tebyg i "...a dyna pam mae dy safbwynt yn un homoffobig". Ond nid yr un peth mo hynny o gwbl.
Mae'n sicr yn deg fy ngalw'n wrth-islamaidd. Mae hynny oherwydd fy mod yn wrth-grefyddol yn gyffredinol, ac felly mae bod yn wrth-islamaidd yn un rhan annatod o hynny.
ReplyDeleteCroeso i ti fy ngalw'n islamaffobig os oes rhaid, ond fel rheol tueddir i neilltuo'r ansoddair hwnnw i ddisgrifio pobl baranoid a rhagfarnllyd, fel Anonymous uchod. Yn sicr nid wyf i'n paentio pob Mwslem gyda'r un brwsh, ac rwy'n ystyried safbwynt BNP-aidd y sylwebydd uchod yn afiach.
Un sgil-effaith anffodus bod yn anffyddiwr cyson ac equal-opportunity yw bod beirniadu islam yn aml yn ennyn cymeradwyaeth frwdfrydig gan hilgwn. Ond dyna ni.
Diolch i ti, Dylan,am ymateb i'm sylw byr uchod.
ReplyDeleteEr, dy wybodaeth, mae cysylltiad rhwng Natsiaeth a Mahometaniaeth. Roedd Mwffti Mawr Jerusalem, sef y diweddar Amin Al-Husseini'n cefnogi Hitler adeg yr Ail Ryfel Byd. Fe gymerodd Al-Husseini ran yn hil laddiad Armenia pan gafodd miliwn a hanner o Gristnogion eu lladd gan aelodau Mahometanaidd o fyddin Twrci adeg y Rhyfel Mawr. Roedd Al-Husseini wrth wraidd y casineb llofruddiol tuag at Iddewon dan Fandad Prydain ym Mhalestina yn 20au'r ganriff ddiwethaf. Roedd ef yn hoffi defnyddio ymosodiadau hunanleiddiol yn ei amryfal gyrchoedd yn erbyn ei elynion a mae'r dulliau hynny o weithredu yn dal i gael eu defnyddio gan Fahometaniaid hyd y dwthwn hwn. Roedd gan Al-Husseini gysylltiad go agos hefyd gyda Francois Genoud sef un o brif fancwyr y Drydedd Reich a barhaodd hyd 60au'r ganrif ddiwethaf. Al-Husseini a greodd yr adran Hanzard o 26 mil o filwyr Mahometanaidd a baffiodd o blaid Hitler yn Bosnia yn 1943 a'r adeg honno hefyd roedd yn bwriadu sefydlu gwersylloedd lladd Iddewon ym Mhalestina. Roedd Heinrich Himmler yn un o'i genogwyr ef a'i grefydd.
Casineb hiliol tuag at Iddewon yw'r llinyn arian sy'n cysylltu Natsiaeth ac Islam ac o'r Coran y daw'r casineb hwnnw'n wreiddiol.
Nid Natsi na hilydd mohonof. Dyna pam y dywedais mai camgymeriad yw gadael i Fahometaniaid gartrefu yn ein plith.
Ai bod yn wrth-grefyddol yw'r unig gyfiawnhad dros fod yn wrth-Islamaidd ? Wyt ti a dy farn yn fwy cyfartal na mi a'm sylwadau ar Fahometaniaeth ? Rwyt yn gwneud ensyniadau hyll yn fy erbyn. Onid ffordd o roi taw arnaf yw hynny ?
Mae hynny'n berffaith wir am y cysylltiad rhwng rhai mwslemiaid a natsïaeth. Mae hefyd yn wir bod perthynas digon clós wedi bod rhwng rhai Cristnogion a ffasgaeth (er enghraifft, yr eglwys Babyddol a Mussolini neu Franco). Mae dy bwynt yn aneglur.
ReplyDeleteWyt ti wir yn defnyddio rhai achosion o radicaliaid islamaidd yn ymddwyn yn warthus fel modd o gyfiawnhau gwahardd mwslemiaid o'r wlad? Nid oes gennyf lawer o bethau da i'w dweud am islam, ond mae hynny'n wallgof.
Na, nid ffordd o roi taw arnat mo dy alw'n ragfarnllyd. Nid oes gennyf fwriad i dy sensro o gwbl. Dim ond anghytuno â thi.
Dafydd, ie? Rwy'n croesawu pob sylw, ac rwyf bellach yn caniatáu sylwadau gan gyfranwyr sydd heb gofrestru â Blogger, ond hoffwn ofyn yn garedig i bawb gynnig rhyw fath o enw. Mae trafodaethau'n gallu mynd yn ddryslyd os oes mwy nag un person o'r enw "Anonymous" yn cyfrannu! Diolch :*)
Rwy'n drysu "mae fy marn yn homoffobig" ond er gwaethaf mynegi'r farn honno nid ydwyf yn "homoffôb!".
ReplyDeleteMegis dweud bod dy farn yn hereticaidd ond na ddylid dy losgi wrth y styanc am dy farn hereticaidd braidd!
Mae dweud mai dim ond osgoi cyfrifoldeb a wna hoywon yn farn ryfeddol a homoffobig. O'r herwydd, ni allet synnu pan mae pobl yn cyrraedd y casgliad dy fod yn homoffobig. Dyna'r cyfan. Nid yw'r ffaith nad ydwyt o blaid atal hawliau hoywon yn berthnasol yn hynny o beth. Unwaith eto, rwy'n falch dy fod o blaid cydraddoldeb ond nid yw hynny'n esgusodi galw hoywon yn ddiog a llwfr (a dyna'n union beth yw eu cyhuddo o osgoi ysgwyddo cyfrifoldeb). Dyna'n union pam mae dy safbwynt yn un mor od.
ReplyDeleteRwyf yn ychwanegu'r sylw hwn at fy rhai blaenorol ar sail cwrteisi'n unig er mwyn bodloni dy chwilfrydedd. Ie, myfi, Dafydd. biau'r geiriau dan yr enw ' Anonymous ' ymhlith y postion uchod. Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf na wnes hynny'n glir o'r cychwyn. Os oes arnat eisiau gwybod ychydig mwy amdanaf yna chwilia am fy enw, sef Dafydd Jones, ar Gweplyfr (' Facebook ') ac wedi hynny, os wyt ti'n dymuno, fe gei di ychwanegu fy enw at y rhestr o ffrindiau sydd gennyt ti ar y wefan honno. Hwyl i ti am y tro. Dafydd Jones o Lanrwst.
ReplyDeleteDim problem. Mae'n gallu mynd ychdyig yn anodd dilyn pethau pan mae mwy nag un Anonymous yn gwneud sylwadau, dyna i gyd.
ReplyDeleteTa waeth: dyma erthygl ragorol
Ac un arall am "islamoffobia"
ReplyDeleteDafydd Porthor, drwg gennyf am golli dy gyfeiriad a dy rif ffon newydd! Danfona nhw eto!
ReplyDeleteDiolch i ti am y dolennau cyswllt. Roeddwn eisoes yn gyfarwydd gydag erthygl Joan Smith yn rhifyn ddydd Sul o " The Independent " ar Fahometaniaeth a hefyd sylwadau Kenan Malik ar yr un pwn sydd wastad yn rhai hynod o dreiddgar – rwyf yn un o’i edmygwyr ef !
ReplyDeleteMae dy sylwadau dithau hefyd yn dreiddgar a dy ddadleuon yr un mor rymus â rhai Malik a mae dy flog " Anffyddiaeth " yn hynod ddiddorol ei chynnwys – nid yw mor fewnblyg â llawer o rhai eraill yn Gymraeg ar y we. Wyt ti wedi ystyried sgwennu llyfr yn Gymraeg ar Fahometaniaeth o gwbl ? Mae mawr angen un o’r fath arnom ni’r Cymry a fedra’i ddim meddwl am neb gwell na ti i sgennu llyfr o’r fath. Dyna i ti gymeradwyaeth annisgwyl, yntê ?
Nid adar o’r un lliw yw pob Mahometan, wrth reswm, a dydw i ddim yn casáu pawb sy’n proffesu’r ffydd arbennig honno eithr y mae Islam – sy’n seiliedig mewn rhan ar y Corân – yn achosi pryder i mi yn enwedig Islam yn yr oes sydd ohoni.
Yn gyffredinol, mae ein dyled ni yng ngwledydd y gorllewin yn un mawr iawn i Islam am ddiogelu ac adeiladu ar addysg Helenistaidd yn ystod ein Hoesoedd Tywyll ni ond y mae Oes Aur yr Islam hwnnw bellach wedi mynd heibio a mae eithafwyr wedi ennill llawer o rym o fewn y grefydd.
Bellach, ymhob glwad yn Ewrop lle mae Mahometaniaid wedi cartrefu’n ddilyffethair, mae llawer ohonynt wedi creu problemau di-rif mewn termau diogelwch presonol hysbys i frodorion cynhenid y gwledydd hynny heb sôn am broblemau eraill cymdeithasol megis y gwario arian arnynt ar bethau megis, er enghraifft, budd-daliadau, addysg, tai, gofal iechyd ac yn y blaen. Yn fy marn i fe ddylem gofio bod rhai wrth lwy hir i fwyta gyda’r diafol !
Dafydd Jone o Lanrwst.