14/02/2015

Mwy fyth o ladd

Y tro hwn mewn seminar - am ryddid mynegiant! - yng Nghopenagen, gyda chartwnydd sydd, yn y gorffennol, wedi cynhyrchu cartwnau o Fohamed. 'Dim ond' un person yn y gynulleidfa a lofruddwyd, diolch byth, ond anafwyd tri arall.

Yn anffodus, nid oes gwobr i bwy bynnag all ddyfalu pa grefydd y mae'r terfysgwyr yn ei dilyn.

Rwy'n gobeithio bydd condemniad pawb yn ddi-amwys y tro hwn, heb 'ond'. Cawn weld.

Rwyf hefyd yn cydymdeimlo'n daer gyda'r mwyafrif anferth o fwslemiaid call sydd, wrth reswm, yn digaloni pob tro y cyflawnir gweithredoedd treisgar fel hyn yn enw'u ffydd. Pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae fel petai bod gofyn i bob mwslem unigol ddatgan eu gwrthwynebiad i'r syniad o ladd. Gallaf ddychmygu bod gorfod gwneud hynny (yn wythnosol, bron) yn waith syrffedus dros ben.

Eto i gyd, dylai pawb dderbyn bod hyn yn edrych fel problem arbennig yn achos islam. Mae'r nonsens yma'n teimlo'n ddi-ddiwedd yn ddiweddar.

2 comments:

  1. Falch i weld blog mewn Cymraeg ynglyn ac anffyddiaeth. Roeddwn i'n gwrando ar Fwrw Golwg y bore ma pan glwyais am y blog. Daliwch ati.

    ReplyDelete