Roeddwn ar Bwrw Golwg y bore 'ma (10:20 i mewn), yn trafod anffyddiaeth a'r blog. Y rheswm oedd canlyniadau arolwg a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos: mae'n debyg bod 42% o bobl y Deyrnas Gyfunol bellach yn dweud nad ydynt yn grefyddol, a bod 19% hyd yn oed yn cofleidio'r label 'anffyddiwr'. Mae'r ffigurau hyd yn oed yn uwch ar gyfer y genhedlaeth iau. Calonogol iawn, wrth gwrs.
Roeddwn yn hapus â'r sgwrs ar y cyfan, er fy mod yn gwybod yn iawn sut y gallaswn fod wedi gwella rhai o'r atebion. Yn arbennig, rwyf wedi bod yn gwingo, bron yn barhaus, ers i'r gair 'gwrywgydiaeth' lithro allan o'm ceg wrth recordio'r eitem. Mae'n air gwirion, ac nid oes gennyf syniad pam y'i dywedais. Fel un sydd wedi dweud droeon bod angen i bawb roi'r gorau i'w ddefnyddio, mae'n destun embaras. Buaswn yn pledio nerfusrwydd, ond mae'n esgus dila braidd. Ymddiheuriadau i bawb arall sy'n casáu'r gair.
Gwn mai'r ateb gwanaf oedd i'r cwestiwn ynghylch Cristnogion sy'n cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i arddel safbwyntiau digon blaengar. Mae'n amlwg bod hynny'n wir am lawer iawn o Gristnogion, fel y cydnabyddais. Ond byddai ymateb gwell wedi mynd ati i egluro mai problem crefydd fan hyn yw ei bod fel canfas gwag i raddau helaeth. F'argraff i yw y byddai Cristnogion blaengar yn arddel y safbwyntiau rhyddfrydol hynny beth bynnag, ffydd neu beidio. Cyfiawnhad post hoc yw'r ddiwinyddiaeth. Rwyf wedi cyffwrdd ar y pwnc hwn mewn cofnod blaenorol hefyd.
Dywedodd y Parchedig Pryderi Llwyd Jones rai pethau digon clên am y blog yn ei sgwrs ddilynol yntau, chwarae teg. Wrth gwrs, nid yw mor hoff o'm defnydd o ymadroddion fel 'ofergoeliaeth afresymegol' a 'fflwff diwinyddol ffug-ddwys'. F'amddiffyniad i yw fy mod yn ceisio egluro'n gymharol drylwyr pam fy mod yn credu bod y rhain yn ddisgrifiadau teg. Nid cyhuddiadau ffwrdd-a-hi mohonynt. Gwn nad yw eu defnyddio'n debygol iawn o arwain at berswadio Cristnogion bod eu fydd yn seiliedig ar gelwydd, ond, wel, mae hynny'n annhebygol iawn o ddigwydd doed a ddelo. Os oes gennyf obaith o ddenu unrhyw un i'r gorlan hon, yna pobl sydd ar hyn o bryd ar y ffens yw'r rheiny. Ond yn anad dim, mae'r disgrifiadau'n adlewyrchu fy marn, felly byddai'n anonest i mi'u hosgoi.
No comments:
Post a Comment