Diffyg hunan-ymwybyddiaeth llwyr, siwr o fod, sydd i gyfrif am y modd y mae Alwyn yn cyfystyru fy niffyg amynedd ag o'n benodol gydag "anoddefgarwch" yn erbyn pawb sy'n anghytuno â mi'n gyffredinol. Nid yw Alwyn yn cynrychioli pawb sy'n anghydweld â'r blog hwn, diolch byth. Rwy'n hapus i drafod ac anghytuno ag unrhyw un sy'n meddu ar y gallu i ddarllen a deall, ac rwyf wedi gwneud hynny. Nid yw Alwyn ymhlith y fath bobl, dyna i gyd.Mae 'na gwirionedd yn yr hen ddweud "y rhai sy'n curo sy'n caru". I gasáu rhywbeth mae'n rhaid buddsoddi rhywfaint o emosiwn a theimlad iddi, yn yr un modd a mae'n rhaid buddsoddi mewn cariad.
Tybiwn bod 90% o "anghredinwyr" jyst dim yn credu a dyna fo; nid oes gyda nhw barn am grefydd gan bod crefydd yn dibwys iddynt; dydy o ddim yn effeithio ar eu bywydau, dydy o ddim yn bwysig, prin ei fod yn croesi eu meddyliau. Mae nhw'n mynd i gapel neu eglwys i ddathlu bedydd, priodas neu i goffa er mwyn parch i'r teulu heb malio dim am y geiriau na'r defod.
Yr wyt ti, ar y llaw arall, wedi postio tua 5 post y mis am 4 mlynedd yn gwrthwynebu crefydd, yr wyt ti'n buddsoddi emosiwn i fewn i dy anffyddiaeth, difyr byddid gwybod be sy'n gyfrifol am y fath buddsoddiad!
Rwy'n gwybod bydd y sylw yma'n cael ei ddileu, fel mae sylwadau pawb sy'n anghytuno a thi wedi eu dileu. Peth difyr ynddo'i hyn. Pam dy fod mor ansicr o dy ymrwymiad emosiynol i anffyddiaeth, dy fod yn methu goddef gwrthwynebiad iddi?
Nid oes angen i mi gyfiawnhau fy mlogio iddo nac i neb arall, ac rwyf wedi amlinellu fy nghymhelliad o'r blaen, ond waeth i mi egluro eto. Yn gyntaf, diddordeb pur. Yn syml iawn, rwy'n ymddiddori yn y dadleuon athronyddol, gwyddonol a hanesyddol ynghylch absenoldeb duw. Ond hobi deallusol pur fyddai hynny pe na bai crefydd yn mynnu sathru ar draed pawb arall. Mae'n bur debyg na fuaswn i'n blogio am y stwff yma oni bai am y ffordd y mae crefydd yn ymyrryd â'n hawliau. Lle mae dadlau ynghylch unrhyw fater cymdeithasol, gallwch fentro bod crefydd yn flaenllaw iawn ar yr ochr anghywir. Mae'r rhestr yn faith: yr hawl i farw, rheolaeth menywod dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain, hawliau pobl hoyw, yr hawl i ymarfer rhyddid mynegiant trwy ddychan ac yn y blaen ac yn y blaen hyd syrffed. Nid yw'r rhan fwyaf o'r rhain yn effeithio arnaf yn uniongyrchol; nid wyf yn fenyw na'n hoyw nac, ar hyn o bryd o leiaf, yn dioddef o afiechyd annioddefol. Ond rwy'n dadlau'n chwyrn o'u plaid oherwydd rwy'n gyndyn mai dyna'r peth moesol i'w wneud. Rwy'n arddel safbwyntiau cymdeithasol rhyddfrydol cryfion, ac ym mron pob achos, crefydd yw'r gelyn pennaf. Er mwyn hyrwyddo safbwyntiau cymdeithasol moesol, mae rhaid trechu'r hyn sy'n sefyll yn eu ffordd, a'r ffordd orau o wneud hynny yw trwy herio crefydd yn ei chyfanrwydd.
Nid gwahoddiad i drafod ymhellach mo hyn gyda llaw, Alwyn. Does dim byd mwy i'w ddweud. Hwyl.
No comments:
Post a Comment