31/07/2014

Israel a Phalesteina

Am ba bynnag reswm, mae'r gwrthdaro beunyddiol rhwng Israel a therfysgwyr Palesteinaidd yn ennyn llawer iawn mwy o sylw, a theimladau llawer iawn iawn cryfach, nag ymladdfeydd eraill a geir yn y byd. Mae mwy o ladd yn digwydd ar hyn o bryd yn Syria, Irác, neu Weriniaeth Canolbarth Affrica, er enghraifft, ond Llain Gaza yw'r pwnc llosg. Efallai mai fi sydd ychydig yn od, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef nad yw fy marn am y sefyllfa hanner mor gryf â theimladau cymaint o'm cyfoedion; un enghraifft arall o wrthdaro o blith nifer yn y byd ydyw i mi. Eto i gyd, mae gen i farn amdano, a dyma hi.

Un elfen rwystredig yw greddf cymaint o bobl i fynnu dewis ochr. Mae rhai'n daer o blaid un garfan neu'r llall, ac mae mwy eto'n clirio'u llwnc trwy feirniadu un ochr yn frysiog cyn canolbwyntio ar gondemnio'r ochr arall 99% o'r amser. Fy safbwynt diflas i, fel mae'n siwr eich bod bellach wedi'i synhwyro, yw bod y ddwy ochr ar fai'n ddifrifol.

Fel rhywun sydd ar y 'chwith' yn wleidyddol, rwy'n cydymdeimlo ag awydd y traddodiad hwnnw i gefnogi'r underdog. Mae gan y chwith hanes (ar y cyfan) o gefnogi carfannau llai grymus yn erbyn rhai mwy pwerus, ac mae'n amlwg mai'r Palesteiniaid yw'r garfan honno fan hyn. Mewn achosion o'r fath, nid oes trywydd cyfansoddiadol a chonfensiynol ar gael, gan fod yr holl system yn ei chyfanrwydd yn eu cau allan. Felly, fe'u gorfodent i fabwysiadu dulliau mwy anarferol. Weithiau mae hyn yn golygu terfysgaeth. Gweler yr ANC yn Ne Affrica yn ystod apartheid, neu'r PKK yn y rhanbarth Dwrcaidd yng Nghwrdistan. Nid cyfiawnhau terfysg mo hyn o gwbl, eithr nodi bod modd rhyw hanner-ddeall y defnydd o drais, yn aml, o safbwynt strategol a gwleidyddol. Y gwir anffodus yw bod terfysgaeth yn gallu gweithio. Prin iawn oedd y sylw a roddwyd yn y gorllewin i sefyllfa Palesteiniaid cyn München 1972, er enghraifft.

Ond (ac mae'n 'ond' fawr), mae dulliau Hamas mor hurt mae'n deg gofyn a oes ganddynt strategaeth hir-dymor o gwbl. Yn syml iawn, rwy'n grediniol mai prif amcan Hamas wrth danio rocedau tuag at Israel (gweithred filwrol ofer, gan eu bod bron i gyd yn cael eu dinistrio gan yr Iron Dome bondigrybwyll), a gwneud hynny o safleoedd dwys eu poblogaeth, yw pryfocio Israel i ymateb a lladd Palesteiniaid di-niwed drachefn. Unig arf gwirioneddol Hamas yn y gwrthdaro yma yw lluniau o blant Palesteinaidd meirwon. Mae'r rhain yn bropaganda amhrisiadwy iddynt, ac o gofio'r modd y mae Hamas yn annog Palesteiniaid i aros yn eu tai pan mae taflegrau Israelaidd ar y ffordd, nid oes angen bod yn sinig llwyr i dybio bod annog mwy o farwolaethau yn dacteg fwriadol. Yn hyn o beth, mae Hamas o leiaf yr un mor elyniaethus a dirmygus tuag at y Palesteiniad cyffredin ag y mae Israel ei hun. Serch hynny, erys cefnogaeth Hamas o fewn Gaza'n bur gadarn.

Cofier mai nod cyfansoddiadol Hamas o hyd yw diddymu a dileu Israel yn gyfan gwbl ac i ladd "yr Iddewon". Felly hyd yn oed petai Israel yn cyfaddawdu'n sylweddol, mae'n annhebygol y byddai hynny'n meddalu awydd Hamas i ymosod arnynt. Heb sôn am fod yn hyll a barbaraidd, mae Hamas yn gwybod yn iawn bod yr amcan yn hollol anymarferol. Fel mae'n digwydd, nid wyf yn credu bod problem gyda dweud, ar un llaw, bod y modd y sefydlwyd Israel yn y lle cyntaf yn gamgymeriad dybryd, ac ar y llaw arall bod angen gwarchod ei hawl i fodoli heddiw. Yn anffodus, roedd gwledydd imperialaidd y gorffennol yn credu bod tynnu llinellau ar fap, heb fawr o ystyriaeth i'r bobl sydd eisoes yn byw yno, yn syniad doeth. Mae effeithiau andwyol hynny i'w gweld mewn mannau eraill hefyd, megis Irác a'r Congo. Ond yn amlwg yn achos Israel, saith degawd yn ddiweddarach, nid yw dad-wneud hynny'n opsiwn ymarferol na moesol.

Un broblem enfawr yn achos Israel yw'r arfer hollol lloerig o anfaddeuol o ddwyn tir Palesteinaidd. Mae Israel, yn arwynebol, yn wladwriaeth ddemocrataidd seciwlar 'orllewinol' ei naws, ac maent yn cymharu'n ffafriol â Hamas yn hynny o beth (sydd, wedi'r cyfan, yn grŵp adweithiol crefyddol sydd â safbwyntiau hyll iawn ar faterion cymdeithasol a chyfansoddiadol). Ond mae ymddygiad Israel yn y tiriogaethau a gipiwyd dros y blynyddoedd diwethaf yn wirioneddol gywilyddus. Yn aml, fe gyffelybir y sefyllfa yn y tiroedd a wladychwyd gydag apartheid yn Ne Affrica gynt. Ond fel y dywed Noam Chomsky, nid yw hynny'n hollol gywir. Nid oherwydd bod y gymhariaeth yn eithafol, ond oherwydd bod ymddygiad Israel hyd yn oed yn waeth na hynny

Y broblem anferth arall, wrth gwrs, yw'r gwarchae yn erbyn Gaza. Pan dynnodd Israel allan o Gaza yn 2005, mae modd dadlau i'r Palesteiniaid golli cyfle i adeiladu gwladwriaeth gall. Mae Jeffrey Goldberg yn eu cymharu'n anffafriol â Chwrdistan yn hyn o beth, gan ddadlau na sefydlwyd y gwarchae nes iddi ddod i'r amlwg mai casglu a pharatoi arfau oedd blaenoriaeth llywodraeth newydd Hamas yn hytrach na gwella isadeiledd ac economi Gaza. Mae eraill yn anghytuno. Beth bynnag yw'r gwir am hynny, erys y ffaith ei bod yn amhosibl i drigolion Gaza gyflawni fawr ddim o werth wrth iddynt barhau i gael eu mygu a'u llesteirio mewn modd mor affwysol.

Rwyf wedi beirniadu Hamas am herio Israel i ladd trigolion di-niwed Gaza. Wrth gwrs, byddai'n wirion bost peidio condemnio Israel ei hun yn chwyrnach fyth drachefn am lyncu'r abwyd a gwneud union hynny i'r fath raddau. Mae'r we'n llawn lluniau o'r hyn y mae taflegrau Israel yn ei gyflawni (rhybudd: lluniau o gyrff gwaedlyd), ac os nad yw bomio ysgol y CU yn drosedd ryfel, yna nid oes y fath beth yn bod â throseddau rhyfel. Mae strategaeth Israel yr un mor ddi-synnwyr fan hyn, yn enwedig gan eu bod bellach (fe ymddengys i mi, o leiaf) yn prysur golli'r frwydr PR rhyngwladol hyd yn oed wrth iddynt ennill y rhyfel filwrol ei hun (nid bod yr elfen filwrol yn arbennig o anodd iddynt, o gofio'r anghymesuredd grym).

Wrth gwrs, yr hyn sy'n gwneud datrys y gwrthdaro mor anodd yw rôl crefydd yn yr holl beth. Byddai'n hurt honni na fyddai rhyfeloedd yn digwydd pe gwaredid crefydd o'r byd. Ond nid oes dwywaith bod ffydd bod creawdwr y bydysawd yn eu cefnogi yn peri i'r ddwy ochr ymstyfnigo cymaint â hynny'n ffyrnicach. Mae gwladychwyr Iddewig Seionaidd yn mynnu bod ganddynt fandad duwiol i gipio'r tir. Gan fod iddewiaeth ffwndamentalaidd yn ffenomen gymharol brin, mae'n hawdd anghofio pa mor wirioneddol eithafol yw cymaint o'r setlwyr, sy'n credu mewn difrif ei bod yn ddyletswydd arnynt i orfodi mwslemiaid i adael yr ardal. Ar yr un pryd, mae llawer o'u cefnogaeth yn America yn dod o du ffwndamentalwyr Cristnogol sy'n credu bod dychweliad yr Iddewon i Israel yn ran o gynllun Duw a'n fodd o brysuro diwedd y byd (rhywbeth y maent yn deisyfu ei weld, oherwydd byddent yn cael esgyn i'r nefoedd, gan adael pawb arall ar ôl, gan gynnwys, yn eironig, yr Iddewon truain). Ac wedyn ar y llaw arall, wrth gwrs, dyna eithafiaeth afresymol ac ystyfnig Hamas, a drafodwyd eisoes.

Efallai eich bod wedi gweld y mapiau hyn eisoes:

Nid yw gorfodi Palesteiniaid i fyw mewn getos crebachlyd yn gynaliadwy. Mae'n amhosibl dychmygu heddwch heb i'r coloneiddio haerllug yma ddarfod ar unwaith ac i ffiniau 1967 gael eu hail-sefydlu. Mae'n hanfodol dymchwel y wal yn y Lan Orllewinol hefyd. Ar yr un pryd, mae rhaid i Hamas roi'r gorau i danio rocedau i gyfeiriad cyffredinol Israel ac mae'n rhaid iddynt dderbyn bod gan Israel hawl i fodoli. Nid yw'r rhain yn awgrymiadau ysgytwol iawn, ond nid oes ffordd arall. Mae'n edrych yn anobeithiol, ond eto i gyd mae hanes yn llawn sawl sefyllfa ymddangosiadol annatrysadwy sydd, yn y pen draw, wedi gwella i raddau. Byddai cytundeb Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon wedi ymddangos yn freuddwyd gwrach ychydig flynyddoedd yng nghynt, ond fe ddaeth yn y diwedd ac rydym bellach yn cael gweld Martin McGuinness o bawb yn cyfarch Elizabeth Windsor. Y gwir yw y bydd yr un peth yn digwydd yn Israel a Phalesteina'n hwyr neu'n hwyrach. Bydd yr ymladd presennol yn dod i ben ar ryw bwynt, ac er ei bod yn debygol y bydd yr un peth yn digwydd eto ymhen ychydig, ac efallai eto wedyn, mae'n rhaid credu y daw'r dydd pan fydd y ddwy ochr yn callio.

2 comments:

  1. Blog da iawn. Braf gweld mymryn o falans. Dwi'm yn rhagweld y bydd Hamas yn newid eu cyfanosiddad. Dwi ddim yn siwr os ydi cymharu'r trafferthion yng Ngogledd Iwerddon gyda'r rhai yma yn gweithio'n llwyr. Ia, crefydd oedd wrth galon y terfysgoedd rheini, ond crefydd oedd wedi ei seciwlareiddio, i raddau helaeth. Diwylliannol ac nid diwynyddol oedd y gwahaniaethau yno.

    Nid felly Gaza. Mae Hamas yn cael eu hysbrydoli gan ddysgeidiaeth archaic; gan grefydd sydd heb ei seciwlareiddio. Ond mae dy bwynt yn ddilys: rhaid i Hamas stopio tanio rocedau, a derbyn bod gan Israel yr hawl i fodoli.

    Mae Sam Harris yn gofyn cwestiwn pwysig: beth pe bai'r esgid ar y droed arall? Mae gan Israel y grym i ddinistrio Gaza'n gyfangwbwl; i ladd pob peth byw sydd yno. Beth pe byddai Hamas gyda'r grym hwnnw, ac Israel ond yn geto bach diflas? Pa mor hir y byddai Israel yn para? Nid yw hynny'n wrth gwrs, yn cyfiawnhau pob gweithred a ddaw o gyfeiriad Tel Aviv.

    Ac mewn gwirionedd, fel y dywedais, pe bai Hamas yn stopio tanio rocedau i mewn i Israel yn ddyddiol - ac mae nhw wedi gwneud hynny erioed - ac yn trafod, byddai materion yn Gaza yn gallu cael eu trafod. Wrth gwrs, mae'r Lan Orllewinnol yn fater arall, ac rydwi'n cytuno efo ti: dylai'r setlo stopio.

    Dyfed

    ReplyDelete
  2. Diolch. Cytuno â hynny i gyd.

    Rhaid dweud fy mod yn ffieiddio fwy a mwy â'r hyn y mae Israel yn ei wneud. Rwy'n credu ei bod yn od, o safbwynt strategol os dim byd arall, nad ydynt yn gwneud unrhyw fath o ymdrech i hawlio'r tir uchel moesol. Byddai rhoi'r gorau i ymateb i rocedau Hamas (sydd, wedi'r cyfan, bron i gyd yn cael eu dinistrio heb daro unrhyw beth) yn syniad gwerth chweil, efallai o safbwynt diogelwch yn ogystal ag fel modd o ad-ennill mantais PR. Ond ymddengys nad yw llywodraeth Israel yn poeni fawr ddim am ennill cydymdeimlad rhyngwladol. Yn wir, mae cryn alw o fewn Israel ei hun am roi'r gorau i'r cymorth ariannol maent yn ei dderbyn gan America, er mwyn lleihau gallu Obama i ddwyn pwysau arnynt i bwyllo. Llanast!

    ReplyDelete