04/08/2014

Esblygiad a ffydd

Via Morfa Dulas, gwelais yr erthygl yma gan rywun o'r enw Rodney J Scott o'r sefydliad BioLogos. Byrdwn yr ysgrif yw nad oes angen dewis rhwng arddel ffydd Gristnogol a derbyn y ffaith bod bywyd ar y ddaear wedi esblygu dros gyfnod o sawl biliwn o flynddoedd. Hynny yw, mae modd credu yn y ddau beth ac nid ydynt yn gwrthdaro. Nid yw hynny'n syndod, gan mai hyrwyddo negeseuon fel hyn yw holl amcan BioLogos, a sefydlwyd gan Francis Collins. Mae Collins yn fiolegydd uchel iawn ei barch, a'n haeddiannol felly. Ef oedd cydlynydd Prosiect y Genom Dynol, ac mae wedi gwneud llawer o waith arwyddocaol. Mae hefyd yn Gristion efengylol sy'n credu'n daer bod ei ffydd yn gydnaws â gwyddoniaeth.

Mae BioLogos yn ddidwyll yn hyn o beth, ond mae'r safiad hwnnw'n gam strategol call hefyd. Yn amlwg, byddai gorfodi pobl i ddewis yn golygu y byddai rhai, sy'n derbyn yr hyn sydd gan wyddoniaeth i'w ddweud am bynciau fel amrywiaeth bywyd ar y ddaear, yn rhoi'r gorau i'w ffydd. Gwell yw eu darbwyllo bod modd ei chael hi'r ddwy ffordd. Mae'r un peth yn wir y ffordd arall: mae llawer o fiolegwyr esblygiadol, hyd yn oed os nad ydynt yn grefyddol eu hunain, yn dweud nad oes gwrthdaro rhwng syniadau Darwin a chrefydd. Dyna oedd safbwynt y diweddar Stephen Jay Gould, er enghraifft. Petaem yn edrych ar yr ymdrech i ddarbwyllo mwy o bobl i dderbyn theori esblygiad o bersbectif strategol pur, mae'n amlwg mai dyma fyddai'r ffordd gallaf o fynd o'i chwmpas hi.

Ond nid wyf yn credu bod modd credu mewn duw a derbyn a deall esblygiad ar yr un pryd. Efallai wir bod mynnu hyn yn debygol o wthio pobl i ffwrdd yn hytrach na'u denu, ond mae angen dewis. Wrth gwrs mae llawer o bobl yn derbyn y ddau beth, felly oes mae 'modd' gwneud mewn ffordd ddibwys o amlwg. Ond yn fy marn i, mae credu bod Duw wedi'n creu yn fwriadol trwy gyfrwng esblygiad - hynny yw, ei fod wedi llywio'r broses o'r dechrau'n deg, gan ei harwain yn anochel er mwyn ein cynhyrchu ni yn y pen draw - yn methu'r pwynt yn llwyr. Gwers fawr theori esblygiad yw bod y broses yn ddall, ac nad yw'r canlyniadau'n anochel. Petai modd chwarae'r tâp yn ôl ac ail-adrodd datblygiad bywyd o'r gell gyntaf hyd heddiw, byddai'r hyn a welwn yn hollol hollol wahanol. Yn sicr, nid oes rheswm yn y byd i dybio y byddai unrhyw beth tebyg i ni'n ail-ymddangos.

Nid pwynt distadl mo hyn. Os ydych yn credu bod esblygiad yn fodd o gyrraedd pwynt penodol sydd wedi'i benderfynu'n barod, nid wyf yn derbyn eich bod yn deall y theori wedi'r cyfan. Nid yw esblygiad yn gwneud synnwyr oni bai bod duwiau fel yr un Cristnogol yn absennol.

No comments:

Post a Comment