Mae'n newyddion gwych a chalonogol bod Dr Kent Brantly bellach wedi gwella ar ôl cael ei heintio â feirws ebola yn Liberia. Roedd yn ddoctor gyda grŵp cristnogol o'r enw Samaritan's Purse, ac er ei bod yn biti eu bod yn mynnu cenhadu a lledaenu'r efengyl wrth wneud, mae pobl fel Dr Brantly'n haeddu canmoliaeth a pharch am roi help gwirioneddol i ddioddefwyr a chleifion mewn amgylchiadau anodd a pheryglus. Defnyddiwyd cyffur newydd arbrofol wrth ei drin, ac er bod rhai cleifion eraill wedi marw er iddynt dderbyn yr un triniaeth, mae'n bosibl bod yma ddatblygiad addawol.
Rwy'n siwr bod ei galon yn y lle iawn, ond roedd ei ddatganiad yn anghynnes ac od mewn sawl ffordd. Gallwch wylio neu ddarllen ei eiriau trwy glicio ar y ddolen uchod, ond dyma grynodeb: "Above all, I am forever thankful to God for sparing my life".
Mae geiriau fel hyn yn gyfarwydd iawn, wrth gwrs, i'r graddau ein bod efallai wedi hen roi'r gorau i ystyried eu goblygiadau petaent yn wir. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny, fodd bynnag. Mewn gwirionedd, mae datganiadau o'r math yma, sydd i fod i gyfleu gwyleidd-dra, yn adlewyrchu'r gwrthwyneb llwyr. Y bwriad, mae'n siwr, yw cyferbynnu di-nodedd y siaradwr â mawredd y creawdwr. Ond yr hyn yr wyf i'n ei weld yw dyn yn honni bod duw hollalluog, pennaeth y bydysawd, wedi dewis ei achub ef, yn benodol, ond wedi bod yn hapus i adael i gannoedd o Affricaniaid farw o'r clefyd (dyna dinc o hiliaeth anffodus hefyd). Efallai mai mynegi gostyngeiddrwydd yw'r amcan, ond y gwir yw ei bod yn anodd dychmygu haeriad mwy egotistaidd.
Mae diolch i dduw fel hyn yn hurt pan mae athletwyr yn ei wneud; pan mae pêl-droediwr yn diolch i Dduw ar ôl sgorio gôl fuddugol, yr awgrym annatod yw bod y creawdwr yn ffafrio ei dîm ef ar draul y llall (hyd yn oed os oes Cristion yr un mor daer ar yr ochr arall yn gweddïo am fuddugoliaeth debyg ar yr un pryd). Mae Brantly'n bod yr un mor hurt yn union. Os rywbeth, mae ei achos ef yn waeth. Chwerthinllyd yw'r awgrym bod creawdwr y bydysawd yn poeni'r naill ffordd neu'r llall am gêm bitw o gicio pêl, ond mae dweud ei fod wedi dewis person penodol i fyw (ac felly eraill i farw) yn sarhad hyll ar ben hynny.
Hyd yn oed wedyn, beth sydd ganddo i ddiolch amdano? Derbrynwn er lles dadl bod cristnogaeth yn gywir. A yw'r dyn wedi anghofio'n llwyr mai Duw felly roddodd ebola iddo yn y lle cyntaf? Pam diolch am orfod dioddef clefyd cas a dod yn agos at farw? Mae fel diolch o galon i rywun am dorri eich coesau a'ch breichiau, a bygwth eich gwddf gyda chyllell, ond am beidio cymryd yr un cam olaf yna a'ch lladd. Mae rhywbeth brawychus o lwfr am y fath agwedd tuag at dduw sydd, yn ôl y ffordd yma o feddwl, yn anghenfil seicotig. Diolch? Buaswn i'n lloerig ag ef am feiddio fy ngwneud yn sâl o gwbl. Rwy'n ddiolchgar nad oes tystiolaeth bod y fath fwystfil yn bod.
Yn olaf, mae diolch i'w dduw yn arddangos anniolchgarwch tuag at y bobl sydd wir yn haeddu'r clod. Do, fe ddiolchodd i'r doctoriaid wrth fynd heibio, ond mae'n neilltuo'r diolch mwyaf - 'above all' cofier - i 'gyfaill' dychmygol. Mewn gwirionedd, y staff meddygol sy'n haeddu'r diolch i gyd.
Dyma enghraifft glir o'r ffordd y mae crefydd yn gwyrdroi meddyliau pobl berffaith ddeallus. Petai person cyffredin yn ymddwyn yn y ffordd y mae Brantly'n credu y mae Duw'n mynd o gwmpas ei bethau, byddai pawb yn ffieiddio tuag ato neu hi. Am ryw reswm, mae Duw'n ennyn edmygedd a mawl. Efallai mai parchedig ofn pur sydd ar waith, fel trigolion rhyw fath o Ogledd Corea ddwyfol sy'n gorfod gwneud sioe o eilunaddoli'u gormeswr er mwyn gwarchod eu hunain. Ond mae pobl fel Brantly'n swnio'n hollol ddiffuant. Mae hynny'n ddirgelwch anferthol i mi.
No comments:
Post a Comment