06/07/2014

Onid ydyn nhw'n gweld y tebygrwydd?

Y peth dwl am ragfarn Cristnogion ceidwadol yn erbyn mwslemiaid, gyda'r holl godi ofn paranoid am eithafwyr â'u bryd ar orfodi cyfraith Sharia arnom i gyd, yw eu bod mor debyg i'r union eithafwyr hynny mewn sawl ffordd. Mae'r naill garfan a'r llall yn lled-gytuno ar nifer fawr o faterion cymdeithasol. Mater o raddfa'n unig yw'r gwahaniaeth: er enghraifft, mae eithafwyr mwslemaidd eisiau lladd hoywon, ond mae Cristnogion adweithiol yn hapus i'w carcharu (neu i wadu hawliau sylfaenol iddynt). Mae rhywun yn cael yr argraff y buasai rhai Cristnogion Americanaidd yn hoffi mynd ymhellach petai hynny'n wleidyddol bosibl iddynt.

Mae'r lluniau isod yn ddigon dadlennol:

Mae un o'r rhain yn deisyfu uno'u crefydd a'u llywodraeth er mwyn sefydlu theocrataeth ormesol â'r bwriad o orfodi rheolau barbaraidd canol-oesol ar eraill, a'n hapus i chwifio arfau fel modd o fygwth unrhyw un sy'n anghytuno. Mae'r llall yn fwslem.

No comments:

Post a Comment