Mae'n anodd dychmygu eitem deledu llai apelgar na Piers Morgan yn dadlau gyda Nigel Farage am sylwadau ffiaidd gan Ann Widdecombe. Pwy ddychmygodd y byddai'r canlyniad mor affwysol o dwp?
Mae gan Widdecombe hen hanes o ddweud pethau hyll am gyfunrywioldeb. Yn ddiweddar, fe ategodd y syniad y bydd modd i wyddoniaeth 'wella' hoywon. Daeth Farage i'w hamddiffyn, ar y sail 'that devout Christians should be allowed to have their opinion'.
Wrth gwrs, nid yw'r ateb yna'n amddiffyniad o fath yn y byd. Mae'n ddi-sylwedd a phathetig am nifer o resymau. Yn un peth, os mai'r peth gorau y mae modd ei ddweud am sylwadau Widdecombe yw nad yw'n anghyfreithlon iddi eu dweud, dyna gliw eithaf amlwg nad oes amddiffyniad call ar gael.
Boed oherwydd ei fod yn anonest neu'n ddwl, neu gyfuniad o'r ddau, mae Farage yn ceisio dadlau mai ystyr rhyddid mynegiant yw cael dweud pethau hurt a hyll heb i unrhyw un arall gael herio'n ôl. Yn hytrach, holl bwynt rhyddid mynegiant yw bod sylwadau atgas yn ennyn gwawd pawb arall. Yn yr un modd, nid goddefgarwch yw goddef anoddefgarwch.
Syniad dwl arall fan hyn yw bod dweud pethau rhagfarnllyd yn dderbyniol cyn belled bod y siaradwr wir yn eu credu ag arddeliad, yn enwedig os ydynt wedi'u seilio ar ffydd grefyddol. O, mae hi'n daer a diffuant wrth fynnu bod rhywbeth yn bod ar hoywon? Wel dyna ni, popeth yn iawn felly! Nid yw'n hawdd canfod y geiriau i fynegi pa mor blentynnaidd yw'r ffordd yma o feddwl. Yn yr un modd, os oes miliynau o babyddion yn credu'r hyn y mae Widdecombe yn ei gredu, nid yw hynny'n gwneud y safbwynt yn dderbyniol. Mae'n golygu bod y miliynau hynny i gyd yn rhagfarnllyd hefyd. Ni ddylai hyn fod yn anodd.
No comments:
Post a Comment