28/06/2019

Malu cachu fel arf wleidyddol

Mae'n werth darllen stori Jeremy Vine am arddull areithio Boris Johnson mewn seremonïau gwobrwyo. Ie, act, i raddau helaeth, yw'r persona shambolaidd a gwallgof. Mae'n portreadu ei hun, yn fwriadol a gofalus, fel person blêr a byrfyfyr (mae'n hysbys ei fod yn gwneud pwynt o rwbio'i wallt cyn ymddangos yn gyhoeddus, er enghraifft). Am ryw reswm, mae llawer iawn o bobl yn mwynhau'r persona.

Mae stori Vine yn fy nghorddi. Mae'n wirion bod y cymeriad 'Boris' mor boblogaidd yn y lle cyntaf, ond fe ddylai fod wedi bod yn amlwg, gan gynnwys i Vine ei hun, ei fod yn greadigaeth bwriadol. Nid yw Vine yn sôn am hyn, ond rwy'n credu'n gryf bod rhaid i raglenni dychan ysgafn fel Have I Got News For You? ysgwyddo llawer iawn o'r bai am y grym gwleidyddol sydd gan Johnson a'i debyg heddiw. Tric Johnson oedd gosod ei hun fel antedôt i sbin slic proffesiynnol Llafur Newydd, er ei fod yntau'n paratoi'r un mor drylwyr yn ei ffordd ei hun.

Yng ngoleuni stori Vine (nad yw'n unigryw), mae'n amhosibl credu'r nonsens a raffodd Johnson wrth ateb cwestiwn am ei amser hamdden. Mae'n berffaith amlwg ei fod yn siarad shit llwyr.

A dyna'r pwynt. Mae bron yn sicr mai dyma ein prif weinidog nesaf. Gall Boris Johnson ddweud beth bynnag ddiawl y myn. Fe ddywedodd Donald Trump y gallai saethu rhywun ar Fifth Avenue heb golli cefnogaeth, ac roedd yn berffaith iawn (yn wir, dyna un o'r ychydig ddatganiadau ffeithiol gywir i ddod o enau Trump erioed), ac mae Boris Johnson yn gwybod yn iawn bod rhywbeth tebyg yn wir amdano yntau hefyd.

Pan mae gwleidydd yn gallu siarad shit, malu cachu, am bethau sy'n amlwg yn ffrwyth ei ddychymyh, heb niweidio'i sefyllfa o gwbl, mae'n arwydd clir bod democratiaeth mewn trafferth a'n dadfeilio. Os rywbeth, cynyddu ei bŵer mae Johnson wrth ddweud y fath bethau. Mynegiant o rym gwleidyddol amrwd yw arddangos eich gallu i raffu rybish llwyr a throlio'n ddi-hid fel hyn. Dyma'r gwahaniaeth rhwng celwydd cyffredin a bwlshit, fel y disgrifiodd Harry Frankfurt yn ei lyfryn enwog. Rwy'n siwr ei fod yn cael cryn fwynhad o weld sylwebyddion parchus yn  ceisio dadansoddi'i stori dwp. Mae ymateb i'r fath rybish o gwbl yn ein is-raddio ni i gyd, er nad yw anwybyddu ein darpar brif weinidog yn opsiwn chwaith. Mae stori Johnson yn nonsens, mae'r newyddiadurwyr yn gwybod bod y stori'n nonsens, ac mae Johnson yn gwybod bod y newyddiadurwyr yn gwybod bod y stori'n nonsens, ond, ysywaeth, nid oes ots. Gêm yw hyn i Johnson.

Mae Vladimir Putin yn gwneud rhywbeth tebyg drwy'r amser, am bynciau mwy difrifol. Po amlycaf a rhyfeddaf y celwydd, y gorau. Mae gorfodi ei gefnogwyr i amddiffyn sylwadau sy'n amlwg yn anghywir yn fodd o arddangos ei bŵer drostynt, a thros y syniad o realiti ei hun. Yr union ddeinameg yma sydd ar waith mewn cwltiau crefyddol, fel mae'n digwydd.

Dylid pwysleisio nad yw hyn yn golygu bod Johnson yn athrylith o fath yn y byd. Nid yw pob un dim a wna wedi'i gynllunio'n ofalus; ystyrier ffars ei ymgais i olynu David Cameron yn 2016. Ond nid oes rhaid iddo fod. Nid yw torri system wleidyddol yn arbennig o anodd, cyn belled nad ydych yn berson sy'n teimlo embaras. Nid yw'n gymeriad hollol ffug chwaith; mae cnewyllyn o wirionedd i'r shambls. Ond mae'n sicr wedi deall sut i fanteisio ar y cnewyllyn hwnnw, a'i or-ddweud i eithafion.

Mae Johnson, Trump a Putin yn bobl wahanol, ond mae ganddynt yn gyffredin y gallu yma i fynd i hwyl tra'n datgymalu'r cysyniad o wirionedd. Nid oes modd gor-bwysleisio pa mor beryglus yw hyn, yn fy marn i. Rydym yn llithro i le tywyll dros ben.

No comments:

Post a Comment