01/02/2017

Blogio am anffyddiaeth tra mae'r byd yn mynd i'r gwellt

Blog am anffyddiaeth yw hwn. Gan fod y pwnc hwnnw'n eang iawn, mae'n caniatáu i mi drafod gwleidyddiaeth yn fynych. Yn wir, rwyf wedi dweud droeon nad yw gwrthwynebu crefydd heb drafod gwleidyddiaeth yn gwneud synnwyr. Mae hyrwyddo hawliau sifil, cydraddoldeb, democratiaeth a rhyddid yn ran annatod o anffyddiaeth; yn hanesyddol, crefydd sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am amharu ar y pethau da hynny.

Yn anffodus, mae fy mlogiadau wedi mynd ychydig yn llai rheolaidd yn ddiweddar, ac er bod hynny i raddau helaeth oherwydd y ffaith bod gennyf fabi, rwy'n rhoi llawer o'r bai ar Donald Trump. Pan rwyf wedi blogio tros y flwyddyn ddiwethaf, y ffasgydd twp oren oedd y pwnc yn amlach na pheidio. Ers iddo gyhoeddi'i fwriad i sefyll, mae twf Trumpaeth wedi datblygu'n dipyn o obsesiwn i mi. Rwy'n treulio llawer mwy o amser nag sy'n iach yn darllen am yr hyn sy'n digwydd yn America, a'n colli gobaith yn gyffredinol am gyfeiriad y byd yn ehangach. Ni fynnaf ddiflasu'r ychydig ddarllenwyr sydd gennyf, fodd bynnag, a chan fod Trump ymhob man yn barod, rwy'n ceisio osgoi swnio fel tôn gron am y peth fan hyn (mae fy ffrwd Twitter yn fater arall).

Mae'n wir hefyd bod rôl crefydd yn yr hyn sy'n digwydd yn gymhleth. Petai rhywun wedi dweud wrthyf ddegawd yn ôl y byddai'r dde eithafol yn cipio grym yn America, buasai wedi bod yn rhesymol i mi dybio mai ffwndamentaliaid Cristnogol fyddai wrthi. Ond fel y digwyddodd pethau, nid yw Trumpaeth mor syml â hynny. Mae llawer iawn o bleidleisiwyr Trump yn ffitio'r disgrifiad hwnnw, wrth reswm, ond go brin bod y ffasgydd twp oren ei hun yn gwneud. Nid yw Trump yn ddigon deallus i ffurfio safbwyntiau diwinyddol y naill ffordd na'r llall, ond nid oes cysur yn hynny, gan y bydd yn berffaith hapus i daflu cig coch at y ffwndamentaliaid er mwyn cadw'u cefnogaeth. Hiliaeth a misogynistiaeth - panig ynghylch tranc arfaethedig statws goruchafol y dyn gwyn - yw craidd Trumpaeth mewn gwirionedd, ac er bod crefydd yn chwarae rhan fawr yn hynny, rwy'n gorfod derbyn nad dyna lle mae'r bai i gyd. Ysywaeth, mae llawer o'r 'alt-right', yn enwedig y rhai ifainc, yn ddigon seciwlar.

Efallai bod fy mlaenoriaethau yn newid, felly. Nid yw fy safbwyntiau yngylch crefydd wedi newid o gwbl: lol yw'r cwbl o hyd. Ond yr hyn sy'n fy mhryderu fwy na dim yn y byd erbyn hyn yw dirywiad democratiaeth a thwf y dde adweithiol. Awtocrat yw Trump, ac mae'r difrod a gyflawnodd yn ei wythnos gyntaf, heb sôn am beth sy'n mynd i ddigwydd dros bedair blynedd, yn frawychus. Nid dim ond America sy'n wynebu'r broblem hon, wrth gwrs. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae democratiaeth wedi cilio yn Rwsia, Twrci, Gwlad Thai, a'r Ffilipinau. Mae hyd yn oed gwledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, fel Hwngari, Gwlad Pwyl, Slofacia a'r Weriniaeth Siec wedi dechrau dilyn trywydd awtocrataidd, ac mae'r dde senoffobig ar gynnydd mewn sawl gwlad orllewinol arall, gan gynnwys Prydain. Ar ben hynny, mae gwledydd nad oedd hyd yn oed yn ddemocrataidd o gwbl yn y lle cyntaf, fel China, wedi dechrau canoli a thynhau grym drachefn yn hytrach na chymryd camau i'r cyfeiriad arall. Mae pethau'n edrych yn dduach o lawer nag yr oeddent ddegawd yn ôl.

Rwyf o hyd wedi gwrthod y syniad bod democratiaeth a rhyddid yn anochel o gynyddu gydag amser, ac rwy'n gofidio bod y degawd presennol yn fy mhrofi'n gywir. Mae gobaith mai blip dros dro - ochenaid olaf yr hen ddyn gwyn blin cyn i rymoedd demograffig ei drechu - yw hyn. Gallaf ddeall y demtasiwn i obeithio y bydd popeth yn gwella ar ôl i'r baby boomers hunanol farw allan ymhen degawd neu ddau. Ond gochelwn rhag disgwyl yn ddiog i'r gwellhad hwnnw ddigwydd yn awtomatig. Mae am fod yn frwydr, ac yn hynny o beth, mae llawer o grefyddwyr rhyddfrydol am fod ar yr un ochr â mi.

1 comment:

  1. Llinell sy'n wedi mynd i'm cof ...
    "Gobaith fo'n meistr : rhoed Amser inni'n was" :-)

    ReplyDelete