08/03/2017

Osgoi'r demtasiwn i ystyried ein gelynion gwleidyddol yn athrylithwyr strategol

Fel rwyf wedi'i ddweud droeon, mae yna esboniad syml a chyffredinol sy'n esbonio popeth am Donald Trump: mae'n ddyn eithriadol o dwp. Am y rheswm hwnnw, mae angen i bawb stopio dweud bod popeth sy'n tasgu o'i geg neu'i fysedd yn ymgais fwriadol i dynnu'n sylw oddi ar faterion eraill. Y cyfan sydd ei angen er mwyn deall beth sy'n digwydd yw i ni gydnabod bod arlywydd newydd America'n blentyn 70 oed hollol anwybodus a chroen-denau heb ronyn o hunan-ddisgyblaeth. Wedi i ni werthfawrogi hynny, nid oes angen cyflwyno unrhyw hypotheses ychwanegol.

Mae modd deall pam mae cynifer yn parhau i lynu wrth y syniad bod rhaid meddu ar hyn a hyn o ddeallusrwydd a dawn strategol er mwyn cyrraedd y Tŷ Gwyn, ac felly mae'n rhaid bod rhyw fath o method in the madness. Wedi'r cyfan, mae ymgyrchu gwleidyddol, yn enwedig ar lefel arlywyddol, i fod yn hynod anodd. Ond yn achos Trump: nagoedd. Roedd Trump yn ffodus i ddewis amser lle roedd ymddiriedaeth Americanwyr yn eu system wleidyddol wedi plymio i'r fath ddyfnderoedd, felly roedd bwlch yn y farchnad ar gyfer ymgeisydd anghonfensiynol. Ond wedi hynny, y cyfan yr oedd ei angen arno oedd y math o ddiffyg cywilydd sydd ond yn bosibl mewn twpsyn. Yn wir, byddai unrhyw un llai anwybodus wedi methu rhedeg ymgyrch fel ei un ef; byddai'r embaras o ddweud y fath bethau yn y fath ffordd wedi bod yn drech na hwy. Yn yr un modd, nid yw dinistrio system ddemocrataidd a'i throi'n awtocrataeth o reidrwydd yn anodd. Os rywbeth, mae bod yn dwp yn help. Mae yna lawer iawn mwy o ffyrdd o dorri rhywbeth nag o'i gadw'n gyfan.

Temtasiwn gyffredin yw tybio bod ein gelynion gwleidyddol yn fwy deallus nag ydynt mewn gwirionedd. Diffyg parodrwydd i dderbyn bod modd i ynfytyn gael ei afael ar awennau gwlad fel America (a'i sefydliadau gwydn, honedig) sydd i gyfrif yn bennaf am hynny. Efallai hefyd bod yna reddf siwdo-grefyddol debyg i'r hyn sydd ar waith yn achos theorïau cynllwyn, sef dyhead i feddwl bod pethau'n digwydd am resymau pwrpasol. I lawer, mae'r syniad bod polisïau America'n cael eu llywio gan y rhechfeydd hap a damwain sy'n digwydd chwythu trwy feddwl Trump o funud i funud hyd yn oed yn fwy hunllefus na'r syniad bod ganddo gynllun bwriadol, hyd yn oed os yw'r cynllun hwnnw'n ddieflig.

Am resymau tebyg, rwy'n amheus o'r syniad bod popeth mae Trump yn ei wneud yn cael ei lywio gan Vladimir Putin. Mae'r syniad mai prosiect cyfrwys hir-dymor o eiddo Rwsia oedd hwn o'r dechrau'n deg yn gofyn i ni gredu bod Putin yn mastermind. Mae llawer yn credu hynny, am wn i, ond mae'n debygol iawn mai myth ydyw mewn gwirionedd. Fel mae Masha Gessen (y sylwebydd doethaf, yn fy marn i, ar faterion Trump, Putin a'u cysylltiadau honedig) wedi'i ddweud, mae Putin ei hun yn ddyn digon symol ac analluog yn y pen draw. Mae'n graffach na Trump, yn sicr (mae hynny'n wir am bawb), ond dylem osgoi'r demtasiwn i'w ystyried yn ddihiryn cartŵn hollalluog (er ei fod, wrth gwrs, yn ddihiryn). Bu Rwsia'n ymyrryd yn yr etholiad, do, mewn ymdrech i ddirywio hygrededd democratiaeth ryddfrydol, ond hwyluso proses oedd eisoes ar waith oedd hynny. Nid yw'n amhosibl chwaith bod Rwsia'n blacmêlio Trump mewn rhyw ffordd, ond y pwynt yw nad oes angen i hynny fod yn wir er mwyn esbonio beth sy'n digwydd. Nid bod hynny'n gysur o fath yn y byd.

No comments:

Post a Comment