31/03/2017

Pwy sy'n nawddoglyd?

Mae pawb sy'n cefnogi Donald Trump yn hiliol. Pawb, yn ddi-eithriad.

Mae'r datganiad uchod yn aml yn ennyn ymateb chwyrn, a hynny gan lawer o ryddfrydwyr yn ogystal â chefnogwyr y ffasgydd oren twp. Efallai mai'r mwyaf cyffredin yw gofyn yn rhethregol 'felly mae bron hanner poblogaeth America'n hiliol?' fel petai'r cwestiwn ei hun yn abswrd a bod ateb yn gadarnhaol yn golygu colli hygrededd yn anorfod. Ond 'ydyn' yw'r ateb yr un fath. Nid yw'r ffaith bod canran sylweddol o'r boblogaeth yn arddel daliadau hiliol yn gwneud y daliadau hynny'n llai hiliol.

Rwy'n credu bod llawer hefyd yn camddeall y cyhuddiad. Nid yw dweud bod rhywun yn hiliol o reidrwydd yn golygu eu bod yn casáu pawb â chroen tywyll. Mae hiliaeth yn ffenomen gynilach na hynny (er mae'n llai cynnil bellach nag yr oedd flwyddyn yn ôl, gan fod buddugoliaeth Trump wedi rhoi 'caniatâd' i bobl arddel eu hiliaeth yn fwy agored yn hytrach na chadw'n dawel).

Fel rheol, mynnir mai dadrithiad economaidd oedd yn bennaf gyfrifol am ganlyniad yr etholiad. Nid yw hynny'n hollol anghywir, o reidrwydd; fe chwaraeodd ran, yn enwedig mewn taleithiau ôl-ddiwydiannol fel Michigan ac Ohio. Ond mae'n anghyflawn, a hefyd yn gamarweiniol o gofio bod cefnogwyr Trump, ar gyfartaledd, yn gyfoethocach na rhai Clinton. Y gwir plaen yw bod arolygon academaidd wedi dangos dro ar ôl tro mai'r hyn sy'n esbonio'r canlyniad orau yw 'pryderon' ynghylch amrywiaeth ethnig. Os oes un peth sy'n rhagweld cefnogaeth unigolyn tuag at Trump, yna'u safbwyntiau am hil yw hwnnw. Mae'r patrwm yn hollol glir.

Nid yw'r syniad bod cyni economaidd yn troi pobl yn hiliol yn dal dŵr beth bynnag. Fe all wneud y rhagfarn sydd eisoes yn llechu ynddynt yn fwy amrwd, am wn i, ond mae hynny'n amlwg yn golygu bod yr hiliaeth yn bodoli'n dawel yn barod. Yn ogystal, roedd ymgyrch Trump ei hun mor amrwd hiliol, mae'n berffaith synhwyrol dweud bod pawb oedd yn fodlon anwybyddu hynny'n hiliol hefyd, hyd yn oed os oedd ganddynt flaenoriaethau eraill.

Cwyn cyffredin yw bod galw cefnogwyr Trump i gyd yn hiliol yn nawddoglyd. Mae'n anodd gwadu hynny mewn gwirionedd. Mae hiliaeth yn dwp, felly mae'n dilyn bod galw pobl yn hiliol gyfystyr â'u galw'n dwp. Ni wadaf chwaith fy mod yn llawn dirmyg tuag at gefnogwyr Trump i gyd, er fy mod ar yr un pryd yn cydymdeimlo i raddau helaeth â syniadau Chris Arnade ynghylch y 'rhes flaen' a'r 'rhes gefn'. Mae Arnade yn dadlau'n gryf yn erbyn datganiadau fel yr un sy'n agor y blogiad hwn. Ond onid yw dadansoddi ymddygiad cefnogwyr Trump mewn termau anthropolegol a sosio-economaidd hefyd yn nawddoglyd, os nad hyd yn oed yn fwy felly? Fel petaem ni bobl addysgiedig yn deall y trueiniaid hyn yn well na hwy eu hunain. Rwy'n credu ei bod yn amhosibl osgoi bod yn nawddoglyd y naill ffordd na'r llall fan hyn. Weithiau mae'r gwir ei hun yn nawddoglyd.

Cwyn arall yw bod galw cefnogwyr Trump yn hiliol yn annhebygol iawn o'u darbwyllo i droi'u cefnau arno a throi'n rhyddfrydwyr da. Mae'n siwr bod hynny'n gywir (er yn achos y rhan fwyaf ohonynt, rhaid gofyn a oes unrhyw beth all newid eu meddyliau?). Eto i gyd, erys y ffaith eu bod yn hiliol, ac mae anwybyddu hynny'n beryglus. Yr hiliaeth ei hun yw'r broblem. Mae mynd i'r afael â dirywiad sosio-economaidd yn orchwyl hanfodol ynddi'i hun, ond mater ar wahan yw hwnnw (a Trump yw'r person gwaethaf un i ddatrys y broblem honno beth bynnag).

Os mai'r nod yw newid meddyliau cefnogwyr Trump, mae angen osgoi eu galw'n hilgwn er mai dyna ydynt mewn gwirionedd (fel y dysgodd Clinton wedi helynt y 'basket of deplorables'). Y broblem felly yw bod dweud y gwir weithiau'n strategaeth annoeth. Nid yw hynny'n sefyllfa anghyffredin. Er enghraifft, wrth drafod â chreadyddion, mae nifer o anffyddwyr yn awgrymu nad oes rhaid ymwrthod â Duw er mwyn credu mewn esblygiad. Mae rhai o'r anffyddwyr yn credu hynny'n ddidwyll, ond diau mai strategaeth sydd ar feddwl y rhan fwyaf. Mae'n hynod annhebygol bod ffwndamentalwyr Cristnogol yn mynd i droi'n anffyddwyr mewn chwinciad, felly mae'n gwneud synnwyr i geisio'u darbwyllo bod modd iddynt ddal eu gafael ar ryw fath o dduw tra'n diosg rhai o'u hathrawiaethau mwy eithafol. Ond y gwir yw nad yw esblygiad theistaidd yn gwneud y mymryn lleiaf o synnwyr mewn gwirionedd, ac mae rhaid dewis: Duw ynteu esblygiad. Rwy'n cael trafferth cyfaddawdu â'r gwirionedd am resymau strategol, a hynny'n rhannol oherwydd ei fod yn...nawddoglyd. Dyna reswm arall, am wn i, na allwn i fod yn wleidydd.

No comments:

Post a Comment