Daeth y dydd. Mae Donald Trump bellach yn arlywydd Unol Daleithiau America. Fe ddywedais drannoeth yr etholiad fy mod yn anobeithio am gyflwr y byd; nid oes unrhyw beth wedi digwydd ers hynny i godi fy nghalon. Os rywbeth, rwy'n argyhoeddedig bod pethau hyd yn oed yn fwy trychinebus nag mae llawer o bobl yn ei sylweddoli. Os oedd unrhyw un dal i gydio yn y ffantasi bod Arlywydd Trump yn mynd i fod yn greadur gwahanol i'r ymgyrchydd Trump, dylai heddiw ddryllio hynny: mae'r dyn wedi bod yn obsesiynu am faint y dorf wrth iddo dyngu llw ddoe, gan gyhuddo'r cyfryngau o ddweud celwydd er ein bod i gyd wedi gweld y lluniau. Mae'r ffaith bod y mater yma mor bitw'n rybudd difrifol ynddo'i hun: os yw'n fodlon neilltuo bron diwrnod cyfan i falu cachu yn gelwyddog am bethau di-nod, mae'n ddychrynllyd meddwl sut fydd pethau pan ddaw materion sylweddol ar yr agenda.
Heb ail-adrodd fy hun yn ormodol, mae'r dyn yn fwli hollol dwp, ansefydlog, narsisitig, llwgr a rhagfarnllyd. Os oes llygedyn o obaith o gwbl, yna hwnnw yw bod ei weinyddiaeth am fod yn eithriadol o ddi-glem a bod eu diffyg crebwyll am eu rhwystro rhag cyflawni llawer o'u hagenda. Nid yw hynny'n gysur i gyd, fodd bynnag, oherwydd mae'r cyfuniad hwnnw o ddiffyg gallu, ar y naill law, a hyder haerllug ar y llaw arall, yn debygol o niwieidio hygrededd sefydliadau a strwythurau sifil y wlad (a'r byd, o ran hynny). Yn wir, mae creu llanast a dryswch yn un o'u prif amcanion.
Ar lawr gwlad, mae Arlywydd Trump am gael effaith anferth ar un maes yn arbennig heb orfod gwneud unrhyw beth: heddlua. Mae adrannau heddlu America eisoes yn hynod asgell-dde, ac mae eisoes yn amlwg bod hiliaeth yn eu mysg yn broblem anferth. Yn fuan iawn, rhywle yn America, mae swyddog heddlu yn mynd i saethu dyn ifanc croenddu di-euog yn farw. Mae hynny wrth gwrs eisoes wedi digwydd sawl tro dros y blynyddoedd diwethaf. Yn yr hinsawdd wleidyddol newydd, fodd bynnag, rwy'n credu ei fod hyd yn oed yn fwy tebygol, a diolch i'r ffŵl yn y Tŷ Gwyn mae'r ymateb i'r protestio anochel fydd yn dilyn yn sicr o fod yn llanast. Mae'n hawdd dychmygu Trump yn troi'r sefyllfa yn greisis, boed yn fwriadol neu trwy dwpdra, gan beryglu hawliau sifil a lleiafrifoedd ethnig ymhellach eto.
Rhywbeth arall sydd bron yn sicr o ddigwydd yn fuan yw ymosodiad terfysgol gan y Wladwriaeth Islamaidd. Buaswn i'n tybio bod hyn yn flaenoriaeth strategol i IS, gan fod ymateb twp anochel Trump - sef ymosod ar fwslemiaid a datgymalu hawliau sifil - yn sicr o fod yn fuddiol iddynt. Byddaf yn synnu'n fawr os na fydd ymosodiad, neu ymdrech amlwg i gyflawni un, ar dir mawr America erbyn yr haf.
Dyma pam rwy'n sicr bod Trump am fod hyn yn oed yn waeth na'r disgwyl. Mae heddiw - ei ddiwrnod llawn cyntaf, ei fis mêl, heb unrhyw ddigwyddiad cas iddo orfod ymateb iddo - wedi bod yn drychinebus. Dychmygwch, mewn difrif, ei greisis cyntaf. Ac wedyn dychmygwch ei ugeinfed. Doed a ddelo, mae pethau anffodus yn mynd i ddigwydd. Ym mhob un senario rwy'n gallu'i ddychmygu, mae Trump am eu gwneud yn waeth.
Ar ben hynny, wrth gwrs, mae Trump yn mynd i lenwi o leiaf un sedd wag ar Oruchaf Lys America, wedi i'r Gweriniaethwyr, heb gywilydd yn y byd, wrthod gadael i Obama wneud am bron i flwyddyn gyfan. Mae Trump yn sicr o ddefnyddio'r cyfle yma i daflu cig coch at y ffwndamentalwyr eithafol ymysg ei gefnogwyr. Mae'n dweud cyfrolau na fuaswn yn synnu o gwbl petai'n enwebu rhywun fel Roy Moore, ffasgydd theocrataidd o'r iawn ryw.
Cefais fy ngeni ym 1984. Am y tro cyntaf erioed, rwyf wedi dechrau dychmygu fy marwolaeth fy hun mewn rhyfel niwclear. Mae'n annhebygol iawn o hyd, wrth reswm, ond mae'r posibilrwydd wedi rhoi'r gorau i fod yn chwerthinllyd. Mae Rwsia a China ill dau'n fwy tebygol o geisio manteisio a gwthio'u lwc yn y gêm fawr geopoliticaidd, ac mae sawl senario trychinebus, a fu gynt fwy neu lai'n amhosibl diolch i gytundebau amlochrog y mae Trump yn ddirmygus iawn ohonynt, bellach yn gredadwy. Mae Wcraniaid, a hyd yn oed Latfiaid, yn teimlo'n nerfus, ac mae ganddynt resymau i wneud. Mae dyfodol NATO a'r Undeb Ewropeaidd yn edrych yn ddu, ac af mor bell ag awgrymu bod obsesiwn macho Trump â delio â phobl mano a mano, ar draul trafodaethau amlochrog pwyllog a gofalus, yn mynd i beryglu'r Cenhedloedd Unedig hefyd. Mae ei gefnogwyr craidd, wedi'r cyfan, yn casáu'r sefydliad hwnnw â chas perffaith. Pwy a ŵyr?
Dim ond crafu'r wyneb yw hyn. Mae trychinebau ar y gorwel, i bob cyfeiriad. Rwy'n besimistig dros ben.
No comments:
Post a Comment