04/12/2016

Dyneiddiaeth

Lansiwyd Dyneiddwyr Cymru, cangen o'r Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain, wythnos diwethaf, ac i gyd-fynd cafwyd arolwg barn newydd sy'n dangos bod 51% o Gymry bellach yn ystyried eu hunain yn anghrefyddol. Bûm yn trafod y canlyniadau hynny, a dyneiddiaeth yn gyffredinol, ar Taro'r Post (dechrau ar ôl 25:45).

Mae'n bwysig cofio'r caveats arferol wrth ystyried arolygon barn am bwnc mor bersonol a goddrychol. Mae diffiniad pobl o grefydd yn amrywio, ac mae'n debygol bod llawer o'r bobl hynny sy'n ystyried eu hunain yn 'anghrefyddol' yn parhau i gredu mewn rhyw fath o dduw. Vice versa, fe ddichon bod llawer hefyd yn galw'u hunain yn Gristnogion am resymau diwylliannol, er mai'r unig adegau maent yn meddwl am y pwnc yw pan mae rhywun o YouGov yn gofyn y cwestiwn. Eto i gyd, rwy'n credu bod y patrwm dros amser yn amlwg: mae crefydd, ar y cyfan, yn dirywio. Parhau i ddirywio fydd ei thynged, hefyd, gan fod yr 'anghrefyddol' yn llawer iawn mwy niferus ymysg y to ifanc. Mae hyn i gyd yn newyddion da iawn, wrth gwrs.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng anffyddiaeth a dyneiddiaeth, felly? Yn bersonol, rwy'n cofleidio'r ddwy label, a buaswn yn hapus i wneud y ddwy gyfystyr â'i gilydd yn llwyr. Gwn fod ambell un yn gwrthwynebu hynny: mae rhai anffyddwyr yn mynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw 'diffyg cred mewn duw', ac nad oes ganddi unrhyw beth i'w ddweud am y byd y tu hwnt i hynny. Fel rwyf wedi'i grybwyll sawl tro ar y blog, rwy'n credu bod hynny'n hurt.

Mae elfen o wirionedd i'r caricature o anffyddwyr fel pobl hunan-fodlon sy'n mwynhau galw pobl grefyddol yn dwp ar y we. Rwyf wedi gwneud hynny fy hun, ac mae'n gallu bod yn llawer o hwyl. Ond rwy'n gyndyn bod angen i anffyddiaeth olygu mwy na hynny. Mae goblygiadau anferthol i absenoldeb duw, a dylem eu hwynebu. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl i wrthwynebu crefydd heb wrthwynebu'r rhagfarnau hynny mae crefydd wedi gwneud cymaint i'w hyrwyddo. O'r herwydd, nid wyf yn gallu gwahanu gwerthoedd positif fel cydraddoldeb a hawliau sifil oddi wrth anffyddiaeth ei hun. Dyneiddiaeth yw'r label traddodiadol ar gyfer y casgliad hwnnw o werthoedd positif, ond dylai anffyddiaeth olygu'r un peth yn union yn fy marn i. Ysywaeth, mae'r ffaith i'r ymadrodd 'atheism plus' gael ei fathu rai blynyddoedd yn ôl i ddisgrifio'r fersiwn o anffyddiaeth rwy'n ei disgrifio fan hyn yn awgrymu ein bod wedi colli'r ddadl.

Mae'r anghrefyddol yn cofleidio nifer o labelau gwahanol: anffyddwyr, dyneiddwyr, freethinkers neu rationalists. I mi, maent i gyd yn gyfystyr, a llai dryslyd fyddai i ni gyd ddewis un. Fel yr awgrymais, buaswn i'n ffafrio 'anffyddiaeth' i gwmpasu'r cyfan. Eto i gyd, ac er nad yw anffyddiaeth geidwadol yn gwneud synnwyr fel cysyniad, rwy'n cydnabod bod pobl yn bodoli sy'n gwrthod bodolaeth duw ond sydd, am ba bynnag reswm, yn parhau i wrthwynebu syniadau fel ffeminyddiaeth. Petai rhaid i mi ddewis, byddai'n well gennyf Gristion blaengar ei gwleidyddiaeth nag 'anffyddiwr' fel yna sy'n gwadu bodolaeth duw heb wrthod y rhagfarn (er bod rhesymeg y ddau yr un mor od i mi). Mae cydraddoldeb a hawliau sifil yn bwysicach na labelau, ac, yn wir, yn bwysicach na materion diwinyddol.

1 comment:

  1. Llythyr yng nghylchrawn GOLWG 1 Rhagfyr 2016 yn cyfeirio at amser cyn-Wallace/Darwin "...Nid ydynt yn sylweddoli bod i bob un ohonom ddau ran, sef corff ac enaid. Dyma'r gwahaniaeth sydd rhwng dyn ac anifail. Gall neb gladdu enaid. Dyma'r rhan mae Duw yn awyddus i'w achub ar gyfer ei gynllluniau yn y bywyd tragwyddol, i bawb sy'n credu".

    Os byth y darllenais rwtsh, mae hynna ymhlith y gwaethaf erioed. Mae'r bonheddwr Gwilynm Jenkins o Dalybont, Ceredigion am droi'r cloc nôl ddwy ganrif a mwy ac anwybyddu'r hyn ryn ni'n gwybod am esblygiad. Y gobaith yw nad yw wyrion y bonwr Jenkins (os oes ganddo rai) yn cael eu trwytho yn y fath syniadau cyntefig. Byddai Jenkins wedi bod wrth ei fodd yng nghwmni "Soapy Sam", Esgob Caerwynt, yn y ddadl enwog yn Rhydychen ym 1860 a'i ymdrech, yn ôl Thomas Huxley, i guddio'r gwirionedd.

    ReplyDelete