I abhor the appalling and moribund monkey language myself, which hasn’t had a new noun since the Middle Ages — hence pwdin is pudding, snwcer is snooker, tacsi is taxi and bocsio is boxing.Fel y dywedais, roeddwn ar fy ngwyliau ar y pryd ond fe sylwais ar hyn i gyd trwy gyfrwng fy ffôn symudol clyfar. Penderfynais y byddaf yn ysgrifennu mymryn am y peth ar ôl dod adref. Dyma eistedd lawr i'r perwyl hwnnw felly a sylwi bod Huw Prys Jones eisoes wedi dweud llawer o'r hyn oedd gen i mewn golwg mewn ysgrif craff ar Golwg 360.
Nid oes dwywaith bod yr adolygiad yn un hyll, a dylid ei gondemnio'n swnllyd a digyfaddawd. Nid oeddwn wedi clywed am Roger Lewis erioed o'r blaen (fe gymerodd eiliad neu ddwy cyn i mi sylweddoli mai Roger Lewis gwahanol oedd hwn, nid prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru), ac nid wyf wedi ffwdanu ei ymchwilio ymhellach, ond rwy'n ddigon cyfforddus yn seilio barn gynhwysfawr am y dyn ar sail yr un ysgrif yna ganddo. Sef ei fod yn goc oen afiach a thwp. Mae fwy neu lai'r cyfan o'r ymateb yn cytuno â mi, ac mae hynny'n dda ac iach.
Ond fel mae Huw Prys Jones yn ei ddweud, mae rhai wedi mynd yn rhy bell. Er enghraifft, mae aelod seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi cwyno wrth yr Ysgrifennydd Cartref a Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu. Does gen i ddim syniad beth yn union y mae'n disgwyl i Theresa May ei wneud am y peth. Ac a bod yn onest, mae meddwl am yr heddlu'n ymyrryd yn y mater yn gwbl wrthun i mi. Mae rhyddid barn yn egwyddor cwbl hanfodol yn fy marn i, dim ots pa mor wrthun y (rhag)farn honno. Mae Simon Brooks yn gwneud y sylw ar waelod yr erthygl Golwg 360 bod gelynion y Gymraeg yn gwneud defnydd o'r prosesau cwynion yma er mwyn ymosod ar ymgyrchwyr iaith. Mae hynny'n wir ac mae'r pwynt yn un teilwng, ond awgrymaf y dylem godi uwchlaw tactegau o'r fath. Hwyrach bod hyn yn idealistig ar fy rhan i, ond fel rwy'n pwysleisio hyd syrffed ar y blog yma, mae'r syniad o ddefnyddio grym y wladwriaeth er mwyn rhwystro pobl rhag mynegi barn yn un rwy'n ei ystyried yn afiach.
Go brin y daw unrhyw beth o unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu, ond yn ogystal â bod yn wrthun mae cwynion o'r fath yn gwneud i ni gyd edrych braidd yn hysteraidd. Dylid diystyru ceisio sensro pobl fel Mr Lewis fel ymateb synhwyrol felly. Mewn gwirionedd, tair dewis sydd gennym pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd: condemnio, yn flin a'n swnllyd; anwybyddu'r holl beth a pheidio rhoi ocsygen cyhoeddusrwydd i'r fath erthyglau; gwneud hwyl am ben y diawliaid dwl. Mae i bob un o'r opsiynau yma eu rhinweddau a'u ffaeleddau gwahanol, ac ni fanylaf ymhellach am hynny.
Hoffwn ddweud bod yna rai gwrth-ddadleuon penodol y dylid eu hosgoi'n gyfan gwbl, fodd bynnag. Bob tro y mae rhyw ffwl gwrth-Gymraeg yn dod i'r fei, ymateb llawer yw'r hen gliché hwnnw mai'r Gymraeg yw un o "ieithoedd hynaf Ewrop". Mae hwnna'n mynd ar fy nerfau'n llwyr. Nid yn unig y mae'n amherthnasol ond mae'n gwbl ddi-synnwyr a'n arddangos anwybodaeth lwyr am ieithyddiaeth. Ni welaf i sut mae awgrymu bod yr iaith Gymraeg wedi aros yn ei hunfan am amser hirach nag unrhyw iaith arall i fod i gefnogi'r ddadl drosti, hyd yn oed petai'r fath honiad yn wir yn y lle cyntaf. Mae pob iaith yn esblygu drwy'r amser, a chwbl oddrychol ac artiffisial yw'r ffiniau dychmygol hynny rhwng y Frythoneg, Hen Gymraeg a dyfodiad yr iaith a adwaenir heddiw fel "Cymraeg". Mae fel brolio bod eich teulu'n hŷn na theulu rhywun arall.
Yn ogystal, o bryd i'w gilydd fe gewch rhywun yn dadlau bod y Gymraeg ymysg ieithoedd harddaf y byd neu rhyw lol tebyg. Prin bod angen dweud bod hynny'n gwbl oddrychol. Mae pob iaith yn werthfawr a swynol yn ei ffordd ei hun. Hyd yn oed y Saesneg.
Annwyl garedigion y Gymraeg: osgowch y dadleuon yma, os gwelwch yn dda!
Yr hyn sydd yn amlygu'i hun yn ddi-eithriad yn achos ffyliaid fel Roger Lewis yw eu hanwybodaeth am eu hiaith eu hunain. Maent yn hoff iawn o wneud hwyl o eiriau Cymraeg fel "tacsi". Mae hynny'n arddangos diffyg hunan-ymwybyddiaeth chwerthinllyd, oherwydd wrth gwrs yr iaith Saesneg yw'r mwngrel pennaf un. Dydyn nhw wir heb ystyried mai geiriau yn deillio o'r un tarddiad Groegeg yw "tacsi" a "taxi" fel ei gilydd. Iddyn nhw, mae'r benthyciad Saesneg yn normal a'r un Cymraeg yn rhyfedd; yn wir, mae'n debygol nad yw'r posibilrwydd mai gair benthyg yw "taxi" wedi croesi eu meddyliau o gwbl. Fel mae'n digwydd, nid oes unrhyw dystiolaeth bod George Bush erioed wedi dweud "the problem with the French is that they don't have a word for entrepreneur", ond cyfeiriaf at y ffug-ddyfyniad hwnnw yma oherwydd mae'r un mor ddoniol a dwl â'r hyn y mae Mr Lewis wedi ei ddweud go iawn.
As Kingsley Amis, who lived in Swansea for many years, once said, can it be true that there are Welshmen who are genuinely puzzled by the letter x? Incidentally, pys is not what you’d think. It’s peas.Druan ar Mr Lewis, a Kingsley Amis gynt, yn methu'n lân a deall bod ieithoedd gwahanol yn...wahanol. Digri dychmygu'r penbleth ar wyneb Mr Lewis pe byddech yn ceisio esbonio wrtho (gyda chymorth crayons, os oes angen) y byddai modd i Almaenwr ystyried siaradwyr Saesneg yr un mor od am fethu â deall y llythyren ß. Ac mae'n siwr mai ofer fyddai ceisio egluro bod "pys", "peas" a "pois" (Ffrangeg) i gyd yn deillio o'r Roegeg "pison" via'r Lladin "pisum". Fel mae blogmenai yn ei ddweud:
Yn ôl astudiaeth gan Thomas Finkenstaedt and Dieter Wolff (1973) mae 28.3% o eiriau Saesneg yn dod o'r Ffrangeg, 28.2% o'r Lladin, 25% o amrywiaeth o ieithoedd Germanaidd (gan gynnwys Hen Saesneg), 5% o'r Groegaidd, 4% o gefndir ansicr, 3% o enwau priod a 1% o ieithoedd eraill.Felly yn hytrach na rhamantu'n wirion am "hynafiaeth" neu brydferthwch ein hiaith, beth sydd angen ei bwysleisio yw pa mor dwp ac anwybodus yw'r deinosoriaid yma. Trwy ddangos cyn waethed eu dealltwriaeth o'u hiaith eu hunain, amlygir cyn lleied o hygrededd sydd ganddynt pan ddaw'n fater o draethu am ieithoedd eraill.
"Go brin y daw unrhyw beth o unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu, ond yn ogystal â bod yn wrthun mae cwynion o'r fath yn gwneud i ni gyd edrych braidd yn hysteraidd. Dylid diystyru ceisio sensro pobl fel Mr Lewis fel ymateb synhwyrol felly."
ReplyDeleteEfallai rwyt yn iawn.
Ond beth am Liam Stacey?? Mae'r awdurdodau wedi penderfynu dod i lawr arno'n galed ofnadwy am ei sylwadau hyll tuag at ddyn du. Tasa Liam wedi taflu ei gasineb tuag at siaradwr Cymraeg, fe fydda ei gyrfa coleg yn mynd ymlaen heb ymyrraeth. Ond beth yw'r gwahaniaeth?? Pam yw'r awdurdodau mor awyddus i amddiffyn teimladau pobol du ond does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn gwrth-Cymreictod? A yw'r ateb ein bod ni rhy ofn dangos ein hunan "yn hysteraidd" i godi stŵr?
http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/73572-myfyriwr-yn-ymddiheuro-am-sylwadau-am-bel-droediwr
Diolch am dy sylw!
ReplyDeleteRwyt yn llygad dy le bod safonau dwbl ar waith.
Rwyf wedi ysgrifennu am achos Liam Stacey: roedd ei ddedfryd yn warthus yn fy marn i, er mor fochedd oedd yr hyn a ddywedodd.
Mae angen cael gwared ar yr anghysondeb, mae'n wir, ond dylid gwneud hynny trwy wella rhyddid mynegiant ym mhob achos yn hytrach na'i erydu ymhellach.