21/08/2011

Beio'r 60au am bopeth

Ymddiheuriadau am fod yn segur yn ddiweddar. Y rheswm pennaf yw fy mod wedi bod ar wyliau yn yr Alban, yn mwynhau mymryn o gomedi yng ngwyl y Fringe yng Nghaeredin ac yna'n crwydro ardal Fort William (neu An Gearasdan i chi a fi). Mae'r coesau dal i fod ychydig yn stiff ar ôl cerdded i fyny a lawr Beinn Nibheis, a dweud y gwir.

Ta waeth. Gair bach hwyr am rai o'r ymdrechion i esbonio'r helynt yn ninasoedd mawr Lloegr ddechrau'r mis. Does fawr o syniad bod llawer wedi manteisio ar y cyfle i geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, wrth i lawer ar y "chwith" feio polisïau'r "dde" a llawer ar y "dde" feio rhai'r "chwith" drachefn. Fel mae blogmenai'n esbonio'n huawdl, yr unig beth sy'n sicr mewn gwirionedd yw bod yr ateb yn llawer iawn cymhlethach na hynny.

Bron yn anochel, wrth gwrs, fe geir yn y sylwadau ar waelod post blogmenai enghreifftiau o'r union beth a feirniadwyd, sef neidio i mewn a phwyntio bys a defnyddio'r helynt er mwyn cyfiawnhau rhagfarnau syml a goleddir eisoes. Yn yr achos yma, y 1960au sy'n cael y bai. Rhywbeth i'w wneud â gwrth-awdurdodaeth a thranc Ysgolion Sul a duw a ballu, mae'n debyg. Mae'n siwr eich bod yn gwybod sut mae llithoedd o'r fath yn mynd. Diflas iawn.

Fel mae blogmenai ei hun yn ei ddweud mewn ymateb diweddarach, mae hyn yn chwerthinllyd (heb sôn am fod yn ddiog; rhaid gofyn a wnaethon nhw hyd yn oed ddarllen y blogiad?) oherwydd mae gan Loegr (a phob gwlad arall o ran hynny, gan gynnwys Cymru) draddodiad hir a chyfoethog o gymunedau'n dod at ei gilydd yn llon er mwyn torri ffenestri, rhoi pethau ar dân, lladrata, ymladd (ac efallai ymosod yn giaidd ar unigolion sy'n edrych yn wahanol i bawb arall), a thaflu pethau diddorol i gyfeiriad cyffredinol yr heddlu. Fel mae cipolwg ar y dudalen yma'n dangos yn eglur, mae'r traddodiad yma'n ymestyn yn ôl canrifoedd. Cafwyd terfysgoedd cyn y 1960au, ac fe geir rhai o hyd o bryd i'w gilydd. Yr unig beth sydd gan yr holl ddigwyddiadau yma'n gyffredin â'i gilydd yw bod ffactorau hollol wahanol ac unigryw'n gyfrifol am bob un. Yr unig bethau a gyflawnir trwy geisio defnyddio brwsh mawr trwchus er mwyn beio'r cwbl ar eich cas-bethau personol yw gwneud i chi edrych yn ddwl.

Roedd rhaid i mi wenu hefyd wrth ddarllen Wynford Ellis Owen yn perfformio gymnasteg gosgeiddig tu hwnt trwy ddefnyddio'r helynt er mwyn cael rant am y ddiod feddwol eto fyth. Mae'n debyg bod llawer o'r bobl a fu'n manteisio ar yr helynt er mwyn dwyn o siopau wedi cael eu dal ar gamerau CCTV yn gwneud bee-line tuag at y gwirodydd cryfion. I Mr Owen mae hyn yn symptom sy'n dangos bod cymdeithas yn gaeth i'r ddiod gadarn. I mi, mae'n f'atgoffa mai'r nwyddau yma, fel rheol, yw'r pethau drutaf o lawer ar y silffoedd mewn siopau o'r fath. Er mor eithriadol o dda yw cacennau Mr Kipling, er enghraifft, mae dipyn yn haws cario gwerth £80 o Smirnoff na £80 o bakewell tarts.

1 comment:

  1. Cweit - mae'r syniad bod alcohol yn rhan ganolog o ddigwyddiadau diweddar yn chwerthinllyd. Mae hefyd yn ffaith y byddai Wynff yn cymryd cwrw efo'i frecwast petai'n byw yn y gorffennol cymharol agos - roedd dwr yn berygl a 'doedd neb yn y gorllewin wedi meddwl y byddai'n syniad da i'w ferwi cyn ei yfed.

    Hefyd roedd yr Eglwys yn canmol alcohol i'r cymylau hyd yr ail ganrif ar bymtheg - er nad oeddynt yn argymell medd dod.

    ReplyDelete