Mae'r erthygl yma o eiddo Mehdi Hasan yn esbonio beth yn union mae'r ympryd yn ystod Ramadan yn ei olygu a'n ceisio chwalu rhai "mythau" ynghylch y ddefod.
Fel y dywed, rhwng y wawr a'r machlud y mae'r gwaharddiad ar fwyd a diod (byddwn yn synnu'n fawr pe bai unrhyw un o'r darllenwyr o dan yr argraff ei fod yn golygu mynd heb fwyd na diod am fis solet). Mae hynny'n golygu codi'n gynnar iawn ar gyfer brecwast mawr cyn mynd yn ôl i'r gwely, ac yna gwledd fawr unwaith i'r haul ddiflannu gyda'r hwyr.
Mae Ramadan yn symud o flwyddyn i flwyddyn oherwydd nad yw mis y lleuad yn cyfateb yn union â mis ein calendr ni. Gall ddigwydd yn y gaeaf, ond eleni fe ddechreuodd ychydig ddyddiau yn ôl, sef yng nghanol haf yn hemisffêr y gogledd. Mae hynny'n gwneud y peth gymaint â hynny'n anos, oherwydd y gwres a'r ffaith bod y dyddiau gymaint yn hirach (wrth gwrs mae'r gwahaniaeth yma'n lleihau wrth i chi agosáu tua'r cyhydedd, ond mae'n arwyddocaol ym Mhrydain).
Ni fydd o unrhyw syndod i chi, mae'n siwr, fy mod yn ystyried y ddefod yn ofergoeledd cwbl hurt, di-angen ac anghyfrifol. Ni welaf unrhyw fath o urddas yn perthyn i'r weithred o wrthod dwr ar brynhawn crasboeth o Awst; gall fod yn beryglus, ac mae'n sicr yn beth od i'w wneud heb reswm call. Mae 'na awgrym bod babanod merched Mwslemaidd sy'n cael eu geni'n ystod neu'n fuan ar ôl Ramadan yn dioddef problemau iechyd. Dylid nodi nad yw'r dystiolaeth yn hollol gadarn eto, ac mae Mr Hasan yn esbonio bod modd eithrio gwragedd beichiog (a dw i'n mawr hyderu bod yr holl beth yn cael ei anghofio yn y campiau ffoaduriaid yn Somalia a gwledydd cyfagos ar hyn o bryd!), ond mae'n rhywbeth sy'n werth ei astudio ymhellach.
Mae'r holl beth yn ofergoeledd rhyfedd, felly, ond rwyf am ofyn cwpl o gwestiynau sy'n erfyn am esboniad gan theolegwyr Mwslemaidd. Beth os ydych yn byw yn weddol agos i begwn y gogledd neu'r de, megis gogledd Norwy, lle mae'r haul yn gallu gwrthod syrthio'n styfnig ddigon am fisoedd ar y tro? A'n bwysicach byth, beth ddylai astronotiaid Mwslemaidd ei wneud? Yn y gofod, gall yr haul fod o fewn golwg fwy neu lai'n barhaol ac mae "gwawr" a "machlud" yn colli'u hystyr.
Fel mae'n digwydd, mae yna Fwslemiaid yn byw yng ngogledd Norwy ac yn ôl yr hyn a ddeallaf maent yn tueddu i ddilyn patrymau Mecca yn hytrach na llwgu am bedwar mis. Dyna ddatrys hynny felly. Ond mae hynny'n fy nharo i fel datrysiad diog, braidd. O wel!
I'd have preferred to read a comment of someone who really knows what Ramadan is about but I fear you were not well informed. In addition, whether you are Muslim, Christian, Orthodox, Budhist or even atheist, it's common to respect the beliefs of others. The term "stupid" cannot be uttered.
ReplyDeleteThe month of Ramadan = spiritual reflection, prayer+ recitation of the Quran + prayers +endurance and self-discipline. It is a month of training both the soul and body to make oneself a better person. Now fasting in this month is tied with rules and regulations and there are categories of people who are exempt from fasting like pregnant women, sick persons and travellers.
There are benefits from this month that are more rich to be ignored or ridiculed. Gaining spiritual self purification isn't the only goal in this month. To forbid oneself from eating food, you get the motivation to forbid yourself from doing what is prohibited to be done as gambling, cheating, etc.
Fasting in August will make you feel thirsty and hungry and feel closer to the poor, this will make you more generous in your donations.
There are other benefits but all you state above is very superficial I fear.
"In addition, whether you are Muslim, Christian, Orthodox, Budhist or even atheist, it's common to respect the beliefs of others. The term "stupid" cannot be uttered."
ReplyDeleteYes it can.
I wouldn't just march up unprovoked to a Muslim in the street and tell them how deluded they are; that would be silly and rude. But this is a blog that people have to go out of their way to read, so I can say what I like. And my opinion is that Islam, like all other religions, is weird and wrong.
It was a superficial post, but it didn't need to be anything deeper because "spirituality" is a load of nonsense in the first place. I don't doubt that many people gain a fair bit of satisfaction and contentment from doing things like this but that doesn't make the religion and its associated dogmas any more true. And truth is what I care about.
Thanks for the comment though! Out of curiosity, how did you find me?