Mae Hannah Adewole yn fydwraig sydd wrthi'n ceisio ennill iawndal gan ysbyty am eu bod wedi mynnu bod rhaid iddi wisgo trowsus yn yr ystafell driniaeth yn hytrach na ffrog. Mae 'na resymau ymarferol digon call pam fod yr ysbyty'n gofyn hynny, ond yn ei barn hi mae'n mynd yn groes i Deutorenomiwm 22:5: "Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig". Tybed a yw'n dilyn yr holl gyfarwyddiadau gwirion eraill a restrir yng ngweddill Deutorenomiwm a Lefiticws? Dw i'n mawr obeithio nad yw ei dillad wedi'u gwneuthuro o fwy nag un gwahanol frethyn (Lefiticws 19:19)! Ta waeth, fel Cristion da, fe wrthododd wrando ar yr ysbyty a bu rhaid ei hanfon allan o'r ystafell.
Mae'r ateb yn ddigon syml, sef teitl y post yma. Mae'r un peth yn wir am y bobl hynny sy'n gweithio mewn fferyllfeydd ond sy'n gwrthod dosbarthu tabledi atalgenhedlu, neu yrrwyr bysus sy'n gwrthod gyrru bws sydd â neges o blaid anffyddiaeth wedi'i hysbysebu ar ei ochr. Does gen i ddim owns o gydymdeimlad â nhw; fy unig gyngor iddynt yw y dylent ail-ystyried eu gyrfa.
Does gan Adewole ddim gobaith o ennill hyd y gwela' i, ac mae ei hachos hi'n un digon rhyfedd. Go brin bod llawer iawn o'i chyd-Gristnogion yn cymryd fawr o sylw o'r adnod yna. Ond yr un egwyddor sy'n berthnasol, sef y byddai rheolau sy'n caniatáu eithriadau ar sail crefydd yn chwerthinllyd a mympwyol, a'n golygu y byddai'n amhosibl gwrthod union yr un eithriad i bobl fel Niko Alm. Os yw dehongliad Adewole o'i chrefydd yn ei hatal rhag cyflawni ei swydd yn gywir, ei phroblem hi yw hynny.
No comments:
Post a Comment