13/07/2011

Cardiau adnabod, traddodiadau crefyddol gwirion, a'r Bwystfil Sbageti Ehedog

Llongyfarchiadau mawr i Niko Alm o Awstria am lwyddo yn ei frwydr i gael gwisgo hidlydd ar ei ben yn y llun ar ei drwydded yrru. Mae Awstria, fel pob gwlad arall hyd y gwn i, yn mynnu bod cardiau adnabod megis trwydded yrru yn cynnwys llun clir o'ch gwyneb. Mae hynny'n golygu dim hetiau neu unrhyw beth sy'n gorchuddio'ch pen. Fodd bynnag, maent yn caniatáu eithriadau i'r rheol yma os yw eich crefydd yn mynnu hynny.

Mae Mr Alm yn anffyddiwr a'n gweld hynny'n od. Wrth reswm, dw i'n cytuno. Fel mae'r erthygl yn ei ddangos, mae wedi llwyddo i ddangos pa mor ddwl a mympwyol yw'r eithriad.

Mae'n aelod o eglwys y Bwystfil Sbageti Ehedog sef crefydd dychanol (gelwir ei selogion yn Pastaffarians). Mae'n lot o hwyl, ond mae'n gwneud pwynt eithriadol o bwysig, gan fod union yr un faint o dystiolaeth i gefnogi bodolaeth y Bwystfil ag sydd o blaid unrhyw grefydd arall, sef dim (ymddiheuriadau trist i'r Bwystfil am y fath gabledd). Mae i'r crefydd hwn ei fytholeg a'i fframwaith ei hun, a'r pwynt a wneir yw hyn: os yw crefyddau eraill am barhau i gael bri a statws yn ein cymdeithas, nid oes modd i'r awdurdodau wadu union yr un peth i'r Pastaffarians. Byddai gwadu'r un breintiau iddynt yn anghyson. Mae safiad fel un Mr Alm yn ffordd wych o herio'r dybiaeth bod rhaid gosod crefydd ar bedestal (mae'r ymgyrch i gael "Jedi" wedi'i gydnabod fel crefydd ym Mhrydain yn chwarae rôl tebyg).

Felly, trwy eithrio merched Mwslemaidd (er enghraifft) sydd eisiau gorchuddio'u gwynebau am resymau crefyddol, byddai gwladwriaeth Awstria'n gwahaniaethu'n fympwyol pe na byddent yn caniatáu i Alm wisgo dilledyn traddodiadol ei grefydd yntau. Fel arall, byddai rhaid i wladwriaeth Awstria ddechrau dyfarnu beth sy'n cyfri fel "crefydd go iawn" a beth sydd ddim. A byddai hynny'n gallu mynd yn flêr iawn. Mae'r stori'n ymddangos yn ddwl ar yr olwg gyntaf, ond yr hyn sy'n ddwl mewn gwirionedd yw eithriadau ar sail crefydd. Dylai'r rheol effeithio pawb neu neb o gwbl; mae malu awyr fel hyn yn gwahodd embaras fel y stori yma.

No comments:

Post a Comment