07/07/2011

Y sgript y mae'n ofynnol i ferched sydd wedi'u treisio ei ddilyn

Rhaid i mi argymell yr erthygl ragorol yma, "When Rape Victims Lie". Yng ngoleuni'r datblygiadau diweddar yn yr achos yn erbyn Dominique Straus-Kahn, lle mae honiadau bod y ddynes y mae wedi'i gyhuddo o'i threisio wedi dweud ambell i gelwydd (ac mae hynny wedi cynnig achubiaeth i DSK), mae'n gwneud y pwynt pwysig bod ein diwylliant yn mynnu bod rhaid i ferched sydd wedi'u treisio fodloni safonau arbennig. Mae'r rhai sy'n methu byhafio yn y ffordd rydym yn disgwyl i ddioddefwyr trais wneud yn cael eu dirmygu, eu hamau, neu'n haeddu'r cwbl. Mae'n erthygl wych.

No comments:

Post a Comment