18/07/2011

Björk - Biophilia

Cefais y fraint o weld un o'm hoff gerddorion mewn cyngerdd ym Manceinion nos Sadwrn. Biophilia yw enw prosiect diweddaraf Björk (dw i fel arfer yn gwingo wrth weld y gair "prosiect" yn cael ei ddefnyddio gan sêr pop, ond rhaid cyfaddef mai dyna'r gair mwyaf addas yn yr achos yma). Mae'r enw Biophilia yn deillio o waith y biolegwr EO Wilson, a'n golygu "cariad at bethau byw". A dyna'n union yw thema ei chynnyrch newydd. Mae hi wedi cyfansoddi caneuon newydd gydag enwau fel "Virus" a "DNA", er enghraifft, yn ogystal â rhai sy'n dathlu ffenomenau naturiol eraill fel "Thunderbolt", "Crystalline", "Cosmogony" a "Dark Matter". Yn y cyngerdd, roedd y caneuon yma hyd yn oed yn cael eu cyflwyno gan lais cyfarwydd a chysurus David Attenborough (wrth gwrs!): er enghraifft, "Cosmogony… music of the spheres… equilibrium". Swreal, ond anhygoel. Roedd fideos i gyd-fynd â phob cân. O ie, ac roedd hi'n defnyddio nifer o offerynnau unigryw a boncyrs wedi'u dyfeisio'n arbennig ar gyfer y sioe. Un ohonyn nhw, er enghraifft, yn cynnwys coil tesla. Mae'r fideo isod yn dangos y teclynnau rhyfedd yma.



Y cyngerdd gorau i mi ei weld erioed. Boncyrs, gwreiddiol, difyr a miwsig gwych. Mae'n hyfryd bod y fath werthfawrogiad o wyddoniaeth a byd natur yn gallu ysbrydoli celfyddyd mor wefreiddiol.

No comments:

Post a Comment