Mae rhai gwenynod gwrywaidd, er enghraifft, ar ôl gorffen y job, yn gadael eu pidlan yn y ferch lwcus, gan felly rwystro gwrywon eraill rhag cael yr un pleser gyda hi (mae'r gwryw'n marw'n syth - am ffordd i fynd! - ond yn hapus gan ei fod yn debygol iawn o fod yn dad i lawer iawn o blant).
Mae llawer iawn o anifeiliaid, rhai pysgod yn eu mysg, yn gallu newid o fod yn wrywaidd i fod yn fenywaidd (neu vice versa) bron iawn yn ôl y galw. Mae llawer iawn o greaduriaid (rhai bach seimllyd fel arfer) yn hemaffrodeitiaid, sy'n golygu eu bod yn gallu atgenhedlu gyda phawb; neu, os oes neb o gwmpas, gyda nhw'u hunain. Mae 'na fath o bry cop lle mae'r gwryw wedi "canfod" mai'r ffordd orau o gael rhyw llwyddiannus gyda'r fenyw (sydd lawer gwaith yn fwy o faint) yw wrth iddi hi ei fwyta (y "safle gorau" mae'n debyg yw gyda'i ben yn ei cheg). Mae hynny'n creu'r sefyllfa anhygoel lle mae gwrywod yn ymladd ei gilydd er mwyn ennill y cyfle i gael eu bwyta.
Ac wrth gwrs, mae gwrywgydiaeth* yn hynod, hynod gyffredin. Gweler y dudalen Wicipedia. Yn fwy na hynny, yn achos dolffiniaid, bydd gwrywod yn mynd ymhellach a'n, ahem, "defnyddio" tyllau chwythu gwrywod eraill er pleser rhywiol (ond mae'n aneglur faint o bleser caiff yr un arall druan!)
Heblaw am y ffaith fy mod newydd orffen llyfr y bu i mi ei fwynhau'n fawr, dw i'n sôn am hyn oherwydd mae'n mynd ar fy nerfau pan mae rhywun yn gwrthwynebu rhywbeth ar y sail nad ydyw'n "naturiol". Enghraifft amlwg o hynny yw pobl sy'n methu goddef hoywon: "mae nhw'n annaturiol!". Dw i'n credu bod y gair "annaturiol" yn un hollol ddi-ystyr. Mae dadleuon ynghylch beth sy'n "naturiol" a beth sydd ddim (a bod "naturiol" yn dda ac "annaturiol" yn ddrwg) yn nonsens pur (a'n amlwg felly pan cynhelir y ddadl trwy gyfrwng cyfrifiaduron a'r we, mewn difri calon). Pan gaiff y gair "naturiol" ei ddefnyddio gan bobl fel hyn, yr hyn a olygir am wn i yw "cyfateb i'r hyn a geir ym myd natur, sef unrhyw beth heblaw pobl". Fodd bynnag, mae'r enghreifftiau uchod (sef canran fechan iawn o'r cyfan a geir yn y llyfr) yn dangos pa mor ddi-ystyr yw collfarnu rhywbeth ar y sail ei fod yn "annaturiol" achos, wel, mae popeth yn naturiol. Ym myd natur, yn amlwg, anything goes, yn enwedig lle mae rhyw yn y cwestiwn. Mae anifeiliaid eraill yn gwneud pethau mwy anhygoel yn y gwely (fel petai) na all y ffetish-garwr o homo sapiens mwyaf anturus hyd yn oed ei ddychmygu.
Felly pan mae rhyw dwpsyn o homoffôb yn collfarnu hoywon ar y sail eu bod yn "annaturiol", dyma lyfr perffaith i'w cyfeirio ato. Mae hoywon ym mhob man, ac o edrych ar y byd o'n cwmpas y peth rhyfedd fyddai pe na bai rhai yn bodoli ymysg pobl hefyd.
Wrth gwrs, byddai rhagfarn yn erbyn hoywon (sy'n deillio o grefydd fel arfer, weithiau'n anuniongyrchol, a weithiau o rhywle rhyfedd arall) dal yn dwp hyd yn oed pe na bai anifeilaid eraill hoyw yn bodoli o gwbl. Ond dyma'r ateb i'r sawl sy'n ceisio cyfiawnhau eu rhagfarn drwy hollti'r byd mewn i'r hyn sy'n "naturiol" a'r "annaturiol".
_________
*gair salaf yr iaith Gymraeg (ac eithrio erchyllterau benthyg fel "dominyddu" a "sialens"). Mae'n drwsgl ond hefyd yn rhywiaethol ac euphemistaidd. Dynion yn "cydio" ei gilydd? O plis!
Gair salaf yn y Gymraeg - pam ei ddefnyddio felly? A gair wedi ei fathu gan pobl crefyddol yn bendant. Be sy'n bod ar cyfunrywiol?
ReplyDeleteDwn im sti. Mae'r ddadl "annaturiol" yn un gref.
ReplyDeletePetha eraill di anifeiliaid ddim yn gwneud:
* Gwisgo dillad (wehey!)
* Addoli duwiau
Dafydd - yr unig reswm i mi ei ddefnyddio yn yr achos yna oedd fel esgus i'w felltithio mewn troed-nodyn! Ni fydd yr erthyl o air yn tywyllu'r blog yma eto.
ReplyDelete