Dw i'n gwybod bu i mi ddweud yn y sylwadau ar waelod y post diwethaf na fyddwn yn ei ddefnyddio'r gair eto ar y blog, ond cyn alltudio "gwrywgydiaeth" o'r iaith Gymraeg yn llwyr dw i'n teimlo dylem ffarwelio ag o'n iawn.
Does dim dwywaith mai dyna'r gair gwaethaf yn ein geiriadur, felly gwynt teg ar ei ôl. Dynion yn "cydio" ei gilydd? O plis. Ond wrth edrych i mewn i'r peth yn frysiog ar Wicipedia, rhaid i mi gyfaddef i mi ddysgu rhywbeth, sef ei fod wedi'i fathu gan yr Esgob William Morgan yn ei feibl, nôl yn 1588. Neu o leiaf, dyna'r defnydd cyntaf ohono a wyddys amdano. Felly roedd Dafydd yn llygad ei le (yn ei sylw yn y post blaenorol) mai pobl grefyddol â'i bathodd, ond doeddwn i heb ystyried bod y gair dros 400 oed. Roeddwn i'n barod i feio rhyw theolegwr diflas o'r 1890au neu rhywun felly, yn fyrbwyll ddigon.
Wel, roedd y peth yn ddifyr i mi o leiaf.
Ta waeth. "Cyfunrywioldeb" sydd lawer gwell a mwy synhwyrol. Mae'n dda nodi bod "cyfunrywioldeb" yn ymddangos dros ddwywaith yn amlach ar Google na "gwrywgydiaeth" (dw i'n credu mai'r ffaith mai'r cyntaf a ddefnyddir gan Google Translate sy'n bennaf gyfrifol am hynny). Ond dw i'n sylwi ar y defnydd diweddar o'r gair na deipiaf eto mewn stori ar Golwg360. Dyna'r gair a ddefnyddir hefyd ar wefan newyddion BBC Cymru. Mae angen i hynny newid.
Gawn ni gladdu'r gair plis? Mae'n chwerthinllyd, a'n gwneud i'r iaith swnio bron yn blentynnaidd. Ystyriwch y neges yma fel darlleniad mewn angladd.
Trafodaeth werth ei gael. Yn y byd cyfieithu, mae'r term wedi ei ddi-arddel ers tipyn (gweler sylw doeth gan Berwyn Jones ar restr welsh-termau-cymraeg. Os nad yw'r gair yn ymddangos mewn geiriaduron modern, mae'n werth gofyn pam fod rhai awduron yn parhau i'w ddefnyddio?
ReplyDeleteYn eironig ddigon mae un o'n staff ar Golwg 360 yn agored hoyw a hi ysgrifennodd y stori sydd wedi dy bechu di!
ReplyDeleteOnd mae hwn yn bwnc diddorol iawn. Doeddwn i heb ystyried ystyr y gair nag o le yr oedd wedi dod.
Dw i'n wrwgydiwr hefyd - dw i wrth fy modd yn cydio mewn peint o gwrw! :)