30/08/2011

Beth yw anffyddiaeth?

Mae diffiniad geiriadurol y gair "anffyddiaeth" yn ddigon syml: diffyg ffydd mewn duw. Bydd rhai pobl grefyddol yn aml yn dadlau bod anffyddiaeth yn grefydd ynddi'i hun, a bod anffyddwyr yn arddel crefydd lawn cymaint â phawb arall. Bydd rhai'n mynd â'r honiad dwl yma ymhellach a dilorni anffyddwyr swnllyd trwy eu galw'n ffwndamentalwyr. (Gyda llaw, sylwch ar yr hyn sy'n digwydd pan glywch Gristion neu bwy bynnag yn gwneud hyn: er mwyn dilorni anffyddiaeth, rhaid ei thynnu i lawr i'r gwter, sef lefel crefydd. Ei galw'n grefydd yw'r sarhad mwyaf y gallent feddwl amdano). Ymateb llawer o anffyddwyr i'r malu awyr syrffedus yma yw cyfeirio at y diffiniad geiriadurol uchod, sef mai'r cwbl yw anffyddiaeth yw diffyg ffydd yn nuw a dim byd arall.

Fel ateb i'r cyhuddiad a ddisgrifir uchod, mae hynny'n gryno, defnyddiol a chywir. Dyna'n wir yw pam ei bod yn gwbl hurt a di-synnwyr i alw anffyddiaeth yn grefydd. Mae fel galw "peidio casglu stampiau" yn hobi.

Fodd bynnag, pan fydd Cristion mwy didwyll a chwilfrydig yn gofyn "pam wyt ti'n anffyddiwr?" mae angen esboniad llawnach. Nid yw "oherwydd nid wyf yn credu mewn duw" yn ateb boddhaol i'r cwestiwn hwnnw. Er mor ddefnyddiol yw'r diffiniad geiriadurol yn yr achos a ddisgrifir ar ddechrau'r blogiad yma felly, nid yw'n ddigonol fel arall. Mae anffyddiaeth yn fwy na hyn, mewn gwirionedd. Dylid egluro bod anffyddiaeth yn cwmpasu llawer o werthoedd positif, yn hytrach na gwadiad negyddol o un honiad yn arbennig a dim byd arall. Efallai i chi glywed pobl yn tynnu coes am ben grwpiau neu gymdeithasau o anffyddwyr rhyw dro, oherwydd maent yn dychmygu mai'r unig beth a geir ynddynt yw ystafell llawn pobl yn eistedd o gwmpas yn dweud "dw i ddim yn credu mewn duw", "na fi chwaith", "na fi!". Yn sicr, rhan ganolog o anffyddiaeth yw gwrthwynebu dylanwad dogma ac ofergoelion crefyddol ar gyfraith a chymdeithas. Ond mewn gwirionedd, mae dweud mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw "dim duw" a dim byd mwy yn gamarweiniol a'n awgrymu gwacter deallusol. Eithr mae bod yn anffyddiwr hefyd yn golygu arddel gwerthoedd positif a bod o blaid pethau, sef yn bennaf gwerthfawrogiad o bwysigrwydd herio, gofyn cwestiynau a seilio barn ar resymeg a thystiolaeth. Yn wir trwy osod hynny fel sylfaen, canlyniad sy'n dilyn oherwydd yr ymagwedd bositif yma yw peidio credu mewn duw, nid y man cychwyn ei hun. Mae hyn yn bwysig.

Yr unig ragdybiaeth felly yw mai rhesymeg a thystiolaeth yw'r offer gorau sydd gennym er mwyn dysgu am y byd. Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu bod anffyddwyr i gyd yn dod i union yr un casgliadau, a diolch am hynny. Ond maent i gyd yn rhannu'r ymagwedd yma.

Yn fy achos i, mae llawer o achosion sydd yn perthyn mor agos i'm anffyddiaeth, rwy'n eu hystyried yn ran annatod o'r anffyddiaeth ei hun. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • seciwlariaeth yn gyffredinol;
  • gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o wyddoniaeth a gwrthwynebu sothach siwdo-wyddonol a nonsens afresymegol;
  • hawliau mynegiant barn a hawliau sifil;
  • ffeminyddiaeth (gan gynnwys hawliau merched i reolaeth dros eu cyrff eu hunain lle mae atgenhedlu o dan sylw);
  • hawliau a chyfartaledd i grwpiau lleiafrifol sy'n draddodiadol yn wynebu anffafriaeth, megis hoywon a phobl trawsrywiol, grwpiau "ethnig", yr anabl a siaradwyr ieithoedd lleiafrifol;
  • Amgylcheddaeth ac edrych ar ôl y blaned fach yma, sy'n gartref i ni gyd a chenedlaethau'r dyfodol.
Gallwch ystyried yr uchod fel rhyw fath o faniffesto ar gyfer y blog yma, am wn i. I mi, maent i gyd yn ran o'r un frwydr, a dyna pam byddaf yn ysgrifennu amdanynt i gyd ar flog o'r enw Anffyddiaeth; nid wyf yn credu bod modd arddel un ohonynt heb arddel y cyfan. Mae'r ffaith mai crefydd yw'r gelyn traddodiadol ym mhob achos bron yn ddigon dadlennol, oherwydd mae'n dweud cyfrolau am y gwahaniaeth sylfaenol rhwng rhesymeg a chwestiynu ar y naill law, a ffydd di-gwestiwn ar y llaw arall.

4 comments:

  1. Mae'n hala fi'n grac pan mae pobl yn dweud bod anffyddwyr yn "credu mewn dim byd" oherwydd nad ydyn ni'n credu mewn duw. Rwy'n credu mewn lot o bethau. Weithiau rwy'n meddwl nad yw'r gair "anffyddiwr" yn ddigon addas i ddisgrifio fy hun, ond, gan fod llawer o bobl grefyddol yn y byd, bydd y label yn parhau.

    Mae'n dda gweld anffyddiwr yn blogio'n Gymraeg. Mae blog gyda fi hefyd, ond rwy'n tueddu i bostio yn Saesneg yno: http://atheos-godless.blogspot.com/

    ReplyDelete
  2. Mae dadl bod y gair "anffyddiaeth" yn un negatif, gan ei fod yn diffinio anffyddwyr yn ôl yr hyn nad ydyn nhw. Ond dyna'n union pam bod pwysleisio'r gwerthoedd positif yna mor bwysig. Wrth reswm, mewn byd lle nad yw crefydd a ffydd mor ddylanwadol a'n derbyn rhyw barch ffug anhaeddiannol, ni fyddai angen hyrwyddo anffyddiaeth yn y fath ffordd. Ond dyma'r byd sydd ohoni, felly dyna ni.

    Diolch am y sylw. Wedi ychwanegu dy flog i'r rhestr! Difyr iawn.

    ReplyDelete
  3. Dwi'n meddwl bod anffyddiaeth yn dod (yn syml) o weld y byd yn blaen, peidio â chymryd dim yn ganiataol ac felly i wneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth sydd a gael.

    Mae meddylfryd fel hyn yn arwain at gasgliadau rhesymegol eraill, e.e. hawliau cyfartal i bawb.

    Gan fod y casgliadau hyn wedi'u cyrraedd drwy resymeg yn hytrach na dogma, felly gellir eu hamddiffyn â dadl a rheswm, yn hytrach na disgyn ar "achos ma rhywun wedi dweud i mi".

    ReplyDelete
  4. Yn hollol.

    Yn waeth na hynny, mae rhagdybio bodolaeth duw neu rhywbeth felly'n rhwystro pobl rhag ymchwilio ymhellach. Wrth i wyddoniaeth ateb fwy a mwy o gwestiynau, mae'r "gap" sydd ar ôl i dduw drigo ynddo'n parhau i grebachu. Ond gan mai ateb cymaint o bobl grefyddol i gwestiynau mawr byd natur yw "duw wnaeth" (sy'n ateb dim byd o gwbl a'n creu mwy fyth o gwestiynau), petaem yn dilyn eu hagwedd nhw buasem yn bodloni ar hynny a'n stopio chwilio. Mae crefydd a chwilfrydedd yn elynion.

    Mae un o'm hoff gartwnau yn dangos hyn yn wych: http://www.evaluationtoolkit.org/illustrations/4/original/miracle_cartoon.jpg?1231530108

    ReplyDelete