22/03/2015

Hunangofiant John Davies

Profiad digon pruddglwyfus oedd darllen hunangofiant John Davies yn ddiweddar, ac yntau wedi marw'n fuan ar ôl ei gyhoeddi. Dywed tua diwedd y gyfrol ei fod yn disgwyl byw am ryw saith blynedd arall, ac roedd yn bwriadu gwneud defnydd o'r amser hwnnw hefyd, er enghraifft i deithio ymhellach (roedd eisoes wedi gweld cryn dipyn o'r byd).

Mae'n lyfr hoffus dros ben, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan ddyn mor annwyl, a cheir sawl anecdôt difyr wrth fynd heibio. Chwarddais yn uchel am y stori amdano'n cwrdd â Gore Vidal yn yr Eidal, er enghraifft.

Os oes gennyf gŵyn, mae'r hunangofiant yn rhy fyr. Diau mai fi sy'n farus, yn enwedig o sylweddoli'n drist mai dyma'r peth olaf un a gawn gan yr awdur. Ond roedd sawl man lle roeddwn yn awchus i glywed mwy. Er enghraifft, er fy mod yn deall mai anffyddiwr ydoedd, nid oeddwn yn sylweddoli cyn darllen pa mor chwyrn yn union oedd ei atgasedd at grefydd. Ceir ambell awgrym ei fod yn chwerwach na mi, hyd yn oed. Fe ddichon bod hynny'n rhannol oherwydd yr ohebiaeth hyll a dderbyniodd gan rai efengylwyr ar ôl datgan ei ddeurywioldeb yn nhudalennau Barn. Byddai wedi bod yn dda cael gwybod mwy o fanylion, ond dim ond megis cyffwrdd â hyn a wna'r gyfrol.

Defnyddir y gair 'gogleisiol' yn aml yn y llyfr, ac mae'n air addas i ddisgrifio'r gyfrol ei hun hefyd. Mae'n bleser i'w ddarllen, ac mae'r golled yn aruthrol.

No comments:

Post a Comment