30/01/2018

Y Cymry adweithiol

Oherwydd cyfuniad rhyfedd o amlygrwydd y mudiad #MeToo a gwleidyddiaeth fewnol Plaid Cymru, mae yna adwaith gwrth-ffeminyddol amlwg wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Chymreig dros yr wythnosau diwethaf. Mae hyn yn amlwg yn siomedig, ond ni ddylai fod yn syndod. Wedi'r cyfan, mae'n ddadl sydd i'w gweld ym mhobman (mae'r mudiad rhyngwladol sy'n hyrwyddo anffyddiaeth a seciwlariaeth eisoes wedi'i hollti'n chwyrn gan yr un ffrae, gan fy nadrithio innau), ac nid oes rheswm i Gymru fod yn wahanol.

Rydym eisoes wedi gweld arwyddion bod llawer o Gymry'n hiliol, neu'n camddeall beth yw hiliaeth. Mae'r un peth yn wir, fe ymddengys, am agweddau tuag at fenywod. Yn benodol, mae'n amlwg bod diffyg dealltwriaeth ynghylch beth yn union y mae ffeminyddion yn ei ddweud.

Cafwyd enghraifft syrffedus o hyn ar wefan Golwg 360 yn ddiweddar. Mae Dr Nia Edwards-Behi wedi ymateb gydag erthygl dda dros ben, ond mae'r sylwadau ar waelod honno gan ddarllenwyr y wefan, os rywbeth, hyd yn oed yn waeth na'r ysgrif wreiddiol ('Nia fach', wir).

Mae gwrthwynebwyr ffeminyddiaeth yn hoff iawn o adeiladu dynion gwellt. Yn hytrach na gwrando ar beth mae ffeminyddion yn ei ddweud, gwell ganddynt yw dychmygu fersiwn ffug o'u dadl ac ymosod ar honno yn lle. Dyna sy'n digwydd pan mae'r bobl yma'n cwyno bod ffeminyddion yn 'casáu dynion' ac am wahardd dynion rhag siarad â hwy'n gyfan gwbl. Mae dyhead ffeminyddion mewn gwirionedd yn syml, sef i ddynion roi'r gorau i aflonyddu arnynt. I bobl gall, mae'r ffin rhwng y derbyniol a'r amhriodol yn glir ac amlwg; os nad ydyw i chi, rwy'n pryderu am y menywod yn eich bywyd.

Y gri ddiflas a geir dro ar ôl tro gan y misogynistiaid yw bod ffeminyddion, a 'social justice warriors' eraill, yn 'blu eira'. Nid yw'r bobl sy'n defnyddio'r ymadrodd hwnnw'n tueddu i arddangos llawer o hunanymwybyddiaeth. Mae eu cyhuddiad bod ffeminyddion yn hysteraidd a gor-sensitif yn ymylu ar fod yn ddoniol; maent yn amlwg yn ddall i'w gor-ymateb gorffwyll eu hunain i gais hollol syml a synhwyrol. Syrffedus hefyd yw cwyn yr awdur gwreiddiol bod ymateb Nia Edwards-Behi yn peryglu ei ryddid mynegiant. Iddo ef, mae'n debyg mai ystyr rhyddid mynegiant yw'r hawl i rwystro pobl eraill rhag egluro ei fod yn anghywir.

Am ba bynnag reswm, mae yna flas misogynistaidd iawn i'r ysbryd gwrth-sefydliadol a populist sydd wedi cydio'n ddiweddar. Nid oes rheswm anochel bod raid i hynny fod yn wir, hyd y gwelaf i, ond fel hynny mae pethau wedi datblygu. Cyhuddir ffeminyddiaeth o fod yn safbwynt sefydliadol, er bod yr argraff hwnnw'n chwerthinllyd. A dweud y gwir, mae hynny'n adleisio problem Plaid Cymru, sydd rywsut wedi llwyddo i gael ei phortreadu fel plaid sefydliadol - argraff sy'n ei niweidio - heb ddod yn arbennig o agos at rym gwirioneddol. Mae'n amlwg bod rhywbeth od wedi digwydd pan mae pobl yn cyhuddo Leanne Wood, o bawb, o ymgorffori'r sefydliad (cofier bod y Blaid wedi colli dau aelod o'i grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf am resymau sy'n gwrthddweud ei gilydd: un oherwydd bod y Blaid yn rhy sefydliadol, a'r llall am nad yw'n ddigon sefydliadol!).

Rwy'n credu mai hyllach aiff pethau. Yn wir, mae perygl gwirioneddol i fisogynistiaeth achosi hollt difrifol yn y mudiad cenedlaethol. Na, nid yw gwrthwynebu ffeminyddion o reidrwydd yn eich gosod ymhlith yr alt-right, ond mae'n ffaith mai misogynistiaeth yw'r gateway drug i'r mudiad hwnnw. Rwyf wedi rhybuddio'n ddiweddar bod elfennau o'r alt-right eisoes yn bodoli o fewn cenedlaetholdeb Cymreig, felly nid wyf yn arbennig o obeithiol am yr hyn sydd o'n blaenau. Eironi digalon gwrth-sefydliadaeth, y dyhead i roi 'cic' iddyn 'nhw', yw mai cicio grwpiau llai ffodus a wneir fel arfer yn y pen draw, nid y rhai sydd wir mewn grym.

No comments:

Post a Comment