Mae'n debyg bod disgwyl i ni barchu Graham am fod yn 'anwleidyddol' ei genhadaeth. Er nad oedd, efallai, mor adweithiol a cheidwadol â rhai efengylwyr amlwg eraill (gan gynnwys ei fab ei hun, Franklin), nid yw hynny'n dweud rhyw lawer. Roedd yn ddyn ofnadwy o adweithiol a cheidwadol yr un fath.Billy Graham was a humble servant who prayed for so many - and who, with wisdom and grace, gave hope and guidance to generations of Americans.— Barack Obama (@BarackObama) February 21, 2018
Fel televangelist arloesol, daeth yn ddyn cyfoethog dros ben trwy dwyllo pobl, ac ef a flaenarodd y tir ar gyfer yr efengylwyr gwaeth byth a ddaeth ar ei ol. Roedd yn wenwynig o wrth-semitig, a homoffobig. Roedd yn daer o blaid cyflawni troseddau rhyfel, gan annog Richard Nixon i ddefnyddio arfau niwclear i ddinistrio argaeau yn ystod rhyfel Fietnam.
Mae'n derbyn cryn glod am fod yn gymharol flaengar ynghylch hil, ond nid yw'n ei haeddu. Roedd yn dweud pethau neis-neis tocenistaidd o dro i dro, ac, ar y cyfan, roedd yn tueddu i wrthod i'w gynulleidfaoedd gael eu gwahanu ar sail lliw croen. Ond os oedd yn ymgyrchu o gwbl o blaid cydraddoldeb, rhoi'r pwyslais ar 'ennill calonnau' unigolion a wnaeth yn hytrach nag ar newid polisïau'r llywodraeth. Nid oedd yn cefnogi unrhyw gamau pwrpasol a phenodol i gyflawni unrhyw beth o bwys. Roedd yn ystyried ei hun yn gyfaill i Martin Luther King Jr, ond fe wnaeth gymaint i lesteirio gwaith hwnnw ag a wnaeth i'w helpu.
Mae tabŵ yn erbyn dweud pethau angharedig am bobl sydd newydd farw, ond rhagrith fyddai peidio. Roeddwn yn credu mai dyn ofnadwy ydoedd tra roedd yn fyw, ac mae'r holl farwnadau cyfoglyd yn golygu mai dyma'r union amser i dynnu sylw at y ffeithiau amdano.
No comments:
Post a Comment