Rhagymadrodd gweddol fyr yw cyfraniad Aled Jones Williams, a'i brif neges yw ei fod yn ystyried 'Duw' yn ferf yn hytrach nag fel enw neu wrthrych. Rwy'n canfod fy hun yn cytuno ag adolygiad y Parchedig Gwynn ap Gwilym (o bawb) yn y rhifyn cyfredol o Barn, lle mae'n galw hyn yn 'gawl eildwym o hen syniadau'. Yn fy marn i, fflwff ffug-ddwys yw'r rhan yma (er fy mod yn hynod hoff o nofelau'r awdur).
Cyfraniad Cynog Dafis yw mwyafrif helaeth y llyfr, ac mae llawer ohono'n ddiddorol. Dro ar ôl tro, wrth i Dafis gyflwyno syniadau diwinyddion fel John Houghton neu Richard Swinburne neu Dewi Z Phillips, roeddwn yn pigo'r tyllau yn y dadleuon wrth ddarllen, eisoes yn hanner-llunio fy mlogiad nesaf yn fy mhen (mae dadleuon Swinburne yn enwedig yn hollol frawychus). Yna, o droi'r dudalen, dyna ganfod bod Dafis ei hun yn mynd yn ei flaen i egluro'r union wallau hynny, gan wneud fy ngwaith drostof. Roeddwn yn cytuno ag ef yn amlach na pheidio, ac roeddwn hyd yn oed yn lled fodlon â'i ymdriniaeth â'r 'anffyddwyr newydd', er fy mod wrth reswm yn anghytuno mewn rhai mannau.
Erbyn i'r gyfrol dynnu at ei therfyn, mae crefydd a Christnogaeth wedi'u datgymalu'n ddigon trylwyr. Yn wir, buaswn yn hapus iawn i fod wedi ysgrifennu'r geiriau canlynol fy hun:
Yr hyn a agorai'r drws i drafodaeth eglur fyddai cydnabod, yn blwmp ac yn blaen, nad oes unrhyw reswm i gredu bod y fath beth yn bod â'r Goruwchnaturiol, mai ffrwyth y dychymyg creadigol yw crefydd ac mai creadigaeth Dyn yw Duw. (t. 163)Rhwystredigaeth felly oedd darllen y paragraff dilynol:
Nid amharchu'r syniad, fel y mae'r 'atheistiaid newydd' yn ei wneud, fyddai hynny. Duw yw un o greadigaethau gwychaf diwylliant dyn, arwydd o aruthredd ei gyrhaeddiad, nid o'i anaeddfedrwydd a'i gamddealltwriaeth. Bydd parchu, rhyfeddu at a myfyrio ar blygion anchwiliadwy y cysyniad gogoneddus yma ar gael i ni o hyd i gyfoethogi defod a defosiwn. Mi allwn ddal i ymateb i odidowgrwydd salmau'r Iddewon gynt. Mi allwn gael ein hysbrydoli eto gan emynyddiaeth y traddodiad efengylaidd Cymraeg. Mi allwn yn wir anghofio'n hanghrediniaeth, ei ohirio'n wirfoddol, dros dro. Ond rhan annatod o fod yn driw i ysbryd ein hoes ni, parhad o Oes y Goleuo, fydd ein hatgoffa ni'n hunain yn gyson mai dyna'n union yr ydyn ni'n ei wneud' (t.163-4)Mor agos!
Nid wyf yn siwr pam mae Dafis yn credu bod arddel anffyddiaeth yn golygu nad oes modd gwerthfawrogi rhannau o'r Beibl fel llenyddiaeth, neu emynau fel darnau o gelfyddyd. Mae Dawkins ei hun wedi dweud droeon ei fod yn hoffi canu emynau, a (cadwch hyn yn dawel) mae gen innau hefyd ambell ffefryn. Nid oes angen anghofio'n hanghrediniaeth am eiliad er mwyn gwneud hynny, ac mae'r awgrym i'r gwrthwyneb yn rhyfedd.
Mae'n drawiadol nad oes ymdrech i gyfiawnhau'r honiad mai Duw yw un o 'greadigaethau gwychaf diwylliant dyn', yn enwedig gan fod Dafis ei hun newydd dreulio 130 tudalen yn esbonio pam nad yw'r syniad yn gwneud synnwyr o gwbl. Ceisio'i chael hi'r ddwy ffordd yw hyn, rwy'n amau. Dywed ei fod yn arddel rhyw fath o ddyneiddiaeth grefyddol, gyda 'lle allweddol' i'r 'mythos Cristnogol' (t.169), ond unwaith eto dyma ganfod fy hun yn dyfynnu beirniadaeth Gwynn ap Gwilym: 'Anwybyddir y cwestiynau sy'n codi wedyn, sef os nad yw Iesu'n Dduw, pa awdurdod sydd i'w ddysgeidiaeth mwy nag i ddysgeidiaeth unrhyw fod meidrol arall? Ac o'i amddifadu o wyrth ei ymgnawdoliad, ac yn arbennig ei atgyfodiad, pa ystyr sydd i'w farwolaeth ar y groes?' Yr elfennau hynny yw holl sail y 'mythos Cristnogol'; hebddynt, rhaid i'r gweddill i gyd syrthio.
Os yw popeth am grefydd yn gelwydd, beth yw pwrpas glynu ati? Mae Dafis yn 'gweld cysyniad y dwyfol nid yn unig fel rhan o ymdrech dyn i ddod o hyd i gysur ac ystyr ond hefyd fel ffordd iddo ymgyrraedd at ymwybod a safonau uwch, i drosgynnu cyfyngiadau ei natur e ei hun' (t.167). A dyna'n amlwg lle mae'n fy ngholli'n llwyr. Rwy'n anghytuno bod crefydd yn cynnig cysur beth bynnag, hyd yn oed ar ei thelerau ei hun. Ond gan fod Dafis yn cytuno nad yw crefydd yn adlewyrchu realiti, o ble yn y byd y daw'r cysur yma (heb sôn am yr 'ystyr'!)? Mae'r cysur yn ddibynnol ar wirionedd yr athrawiaeth. Os yw'r athrawiaeth yn anghywir, nid oes sail i'r cysur chwaith. Mae hyn yn chwerthinllyd o amlwg. Ymddengys mai agwedd Dafis fan hyn yw beth y geilw Daniel Dennett yn 'belief in belief': y syniad bod crefydd yn 'beth da', gan fod ei hangen ar bobl eraill, hyd yn oed os nad yw'n gallu iselhau ei hun i gredu'r stwff ei hun. Mae'n agwedd eithaf nawddoglyd, a bod yn onest.
Yn union fel nad oes angen crefydd er mwyn teimlo rhyfeddod, neu gariad, neu garedigrwydd, nid oes ei hangen er mwyn 'ymgyrraedd at safonau uwch' chwaith. Rwy'n benderfynol o chwalu'r syniad anghynnes bod gan grefydd fonopoli ar y pethau hyn. Ar ôl mynd i'r drafferth o chwalu'r pileri sy'n cadw crefydd i fyny, mae'n rhwystredig bod Dafis yn mynnu ceisio gosod y piler ffug hwn yn eu lle. Dyma sy'n difetha'i thesis yn llwyr. Mae'n debyg mai rhesymau emosiynol sy'n gyfrifol am ei gyndynrwydd i gymryd y cam olaf amlwg a chofleidio anffyddiaeth, ac mae hynny'n biti.
"Os yw popeth am grefydd yn gelwydd, beth yw pwrpas glynu ati?" Hoel ar ei phen Dylan. A dyma ymateb llawer o Gristnogion o argyhoeddiad i'r gyfrol hefyd. Dwi heb ddarllen adolygiad Gwyn ap Gwilym eto ond mae'n swnio fel petae'n cynnig y math o her y byddwn i'n gwneud i'r gyfrol ... Pe taswn yn credu fod ymateb i'r gyfrol o gwbwl yn ddefnydd da o fy amser! Dyn ei genhedlaeth yw Cynog yn y cyswllt hwn, petae yn iau byddai'r casgliad yn dra gwahanol ac yn diosg crefydd a cysyniadau o Dduw yn llwyr dwi'n meddwl. Mae lle i ddadlau mae anffyddiwr o fath yw Cynog, jest ei fod yn teimlo'n euog am y peth ac felly'n methu torri ymaith yn llwyr?
ReplyDeleteDiolch Rhys! Cytuno'n llwyr. Mae'n dweud cyfrolau am odrwydd eu safbwynt bod beirniadaeth anffyddiwr rhonc fel fi yr un fath yn union â'th un di a Gwynn ap Gwilym. Dw i'n credu bod rhywbeth eithaf anonest am y math yna o ddiwinyddiaeth o-mor-soffistigedig, a dweud y gwir, gan ei fod yn dibynnu ar fod yn anniffiniadwy ac annelwig. O leiaf mae Cristnogion eraill yn gallu mynegi'n glir beth yn union maent yn ei gredu, ac o leiaf wedyn mae pawb yn gwybod ble maent yn sefyll.
ReplyDeleteCyn ymateb i sylwadau Dylan Llyr am fy nghyfraniad i i'r gyfrol Duw yw'r Broblem, gaf-i gael 'off 'yn tiest' i ddechrau fy nicter at ei sylwadau dilornus, di-weld, ar fyfyrdod cyfoethog Aled Jones Williams. Rhyfyg fyddai fi geisio achub cam awdur mor hynod a deallus ag Aled. Digon nodi mai braint arbennig iawn i fi yw cael lle o fewn yr un cloriau ag e.
DeleteOnd gwell bwrw ati i achub fy ngham fy hunan, gan ddelio yn gyntaf ag ymdrech Dylan Llyr, a Rhys Llwyd yn ei sgîl, i'm seicdreiddio i. Gall fod elfen o wirionedd yn yr awgrym i'r diwylliant Cristnogol hydreiddio fy ymwybyddiaeth feddyliol ac emosiynol dros gyfnod plentyndod i'r fath raddau fel mod i'n ffaelu gollwng gafael. Ond beth os oes mwy yn y peth na hyn?
Fel a ganlyn. Mae'n lled amlwg i fi nad oes-yna Fod Goruwchnaturiol yng ngofal y bydysawd. Yn yr amgylchiadau yma a yw holl gyfoeth y traddodiad Iddewig-Gristnogol yn dymchwel i'r llawr? Pe bai hynny'n wir fy marn i (nid barn pawb wrth reswm) yw y byddai'r golled yn enfawr. A oes modd cynnal Cristnogaeth yn draddodiad byw i gyfoethogi cymdeithas a bywydau unigolion yn ein hoes ni ac i'r dyfodol? Rwy'n gobeithio, ac yn credu, hynny. Ond dim ond os cydnabyddwn-ni nad mater o ffeithiau a gwybodaeth wrthrychol yn ei hanfod yw crefydd. Perthyn y mae i fyd myth, byd symbolaeth a metaffor. Creadigaeth symbolaidd dychymyg dyn yw Duw. Mynegiannau metafforaidd o wirioneddau mawr, nid ffeithiau hanesyddol, yw'r Ymgnawdoliad a'r Atgyfodiad.
Methiant plentynnaidd (maddeuwch i fi bois, ond fe wnaethoch chi'n fawr o'r ffaith mai hen ddyn wyf i) Dylan Llyr a Rhys Llwyd yw nad ydyn-nhw'n gallu gwahaniaethu rhwng myth a 'chelwydd' - eu gair nhw. Hyn er bod Dylan Llyr yn cydnabod gwerth rhannau o'r Beibl fel 'llenyddiaeth' ac emynau fel 'darnau o gelfyddyd'. Ond pa werth all fod mewn 'celwydd', Dylan?
I gloi, onid yw hi'n drawiadol bod Dylan Llyr a Rhys Llwyd yn tynnu'r fath gysur o safbwyntiau'i gilydd? Os mêts, mêts. Wele'r ddau'n sâff yn eu gwahanol geyrydd yn saethu'r un hen fwledi cyfarwydd, treuliedig. Tra'u bod nhw'n dal i wneud hynny, bydd eraill ohonon-ni am fforio yn y tir agored. Croesawu chwyldro gwyddonol a syniadol yr oes newydd ar y naill law ac ailddehongli'r stori Gristnogol er adeiladaeth pobl yr oes honno ar y llaw arall. 'Ceisio'i chael hi'r ddwy ffordd,' ys dywed Dylan Llyr. Ac yn yr ymdrech yna dichon bod gan yr hen eu cyfraniad.
Cynog Dafis 06.06.16
Onid semanteg yw'r ddadl hon yn y bôn? Mae Cynog yn diffinio Cristion fel rhywun sy'n perthyn i'r diwylliant Cristnogol (yn hynny o beth rydym ni i gyd yn Gristnogion amwn i, o ystyried bod Cristnogaeth wedi cael y fath effaith ar y diwylliant Cymraeg a Chymreig yr ydym ni yn ei arddel). Mae Dylan, yn anffyddiwr, yn awyddus i gau pen y mwdwl ar Gristnogaeth unwaith ac am byth ac felly yn mabwysiadu diffiniad ychydig yn fwy caeth, sef rhywun sy'n credu bod y Duw Beiblaidd yn bodoli ac Iesu wedi marw ar y groes. Mae Rhys Llwyd, sy'n credu gwirionedd y pethau hyn, hefyd yn awyddus nad yw diffiniad Cristion yn newid i rywbeth... wel, credu mai 'wishy-washy' yw'r term academaidd. Felly rwy'n credu bod Cynog, Rhys a Dylan yn cytuno yn y bon ar bopeth ond diffiniad y term 'Cristion'.
DeleteRhaid cyfaddef nad ydw i wedi darllen 'Duw yw'r broblem' ond mae gen i rywfaint o gydymdeimlad gyda dwy ochor y ddadl fan hyn. Rwy’n credu mai’r hyn y mae Cynog yn ei fynegi yw’r canlynol: er nad yw cynnwys y Beibl yn ffeithiol gywir, mae yna werth i’r ‘mythos’ sydd ynghlwm ag ef wrth hysbysebu ein bywyd bob dydd. Nid yw hyn, hyd y gwela i, yn sylfaenol wahanol i ddweud bod gwerth i ‘fyth’ cenedlaethol Cymru, er ein bod ni’n gwybod mai creadigaeth ddiweddar ydyw i raddau helaeth, neu fod gwerth i Orsedd y Beirdd er ein bod ni’n gwybod bod yr holl beth wedi ei wneud i fyny gan Iolo Morganwg. Neu fod gwerth i gariad mam at blentyn er ein bod ni’n gwybod mai greddf fiolegol ydyw. O dderbyn nad oes Duw, rhaid wedyn cyfaddef mai ein creadigaeth ni yw ystyr bywyd; yn hynny o beth, er y gellid dadlau ynglŷn â’i rinweddau, nid yw mabwysiadu fframwaith moesegol crefydd wrth ddewis peidio credu mewn Duw yn sylfaenol wahanol i finnau’n galw fy hun yn ‘Gymro’ er fy mod i’n gwybod mai rhywbeth dychmygol a greuwyd gan ddyn yn yr oes fodern yw’r syniad o berthyn i genedl, neu fi’n galw ffy hun yn dderwydd er fy mod i’n gwybod mai dyfeisiad yw hynny hefyd.
Fy hoff ddyfyniad yw “man is an animal suspended in webs of significance spun by himself” gan Clifford Geertz. Onid dyna yn y bon y mae Cynog yn ei fynegi yma? Ac os ydyn nhw’n gwrthwynebu unrhyw ystyr ar y sail ei fod yn gread dyn, beth wedyn sydd ar ôl?
Gwrthod gadael fynd ar y syniad o Dduw mae'r ddau awdur, cyn belled a fedra i weld. Ar y diwedd mae Cynog yn dweud y dylid 'diosg y syniad o Dduw gorchuwnatruiol yn llwyr ac yn gyfangwbl'. Mi daerwn i bod un gair yn ormod yn y frawddeg honno: 'goruwchnaturiol'. Dywed Aled ei bod hi'n amhosib iddo fod yn anffyddiwr fel ei bod hi'n amhosib iddo beidio siarad Cymraeg. Mewn sgwrs efo fo yn Bedwen Lyfrau, dywedais wrtho fo na fyddai'n medru siarad Cymraeg tasa fo'n fud, felly nid yw'n amhosib o gwbl. Fe aeth yn fud. Dylan, rwyt ti yn llygaid dy le ar gownt 'diwinyddiaeth o-mor-soffistigedig'. Bellach tydy hyn yn swnio'n ddim byd mwy na creu esgusodion dros gredu mewn duw. Ac mae rhai o'r esgusodion rheiny'n gofyn am ei ail-ddiffinio. A yna mae Cynog ac Aled yn geisio wneud yn hytrach na cydnabod be ydyn nhw, bellach: anffyddwyr (sef, rhywun sydd ddim yn credu mewn Duw; syml). Os oes yna dduw, dwi'n siwr fod ganddo bersonoliaeth hollt erbyn hyn a tydy'r cradur ddim yn gwybod ei hun pwy ydy o cymaint y bu'r ail-ddiffinio ohono dros y canrifoedd.
ReplyDeleteDyfed
Diolch. Diddorol. Mae cymharu'r arfer o arddel crefydd â siarad Cymraeg yn awgrymu mai mater syml o hunaniaeth yw hyn iddo. Nid y sail orau ar gyfer deall y bydysawd, a dweud y lleiaf.
ReplyDeleteDiolch am y sylwadau, Cynog.
ReplyDeleteFel mae Ifan yn ei ddweud, rwy'n credu ein bod yn cytuno ynghylch cryn dipyn. Mater o semanteg yw asgwrn y gynnen i raddau helaeth.
A yw absenoldeb Bod Goruwchnaturiol yn golygu bod y traddodiad Iddewig-Gristnogol yn dymchwel i'r llawr? Wel mae'n dibynnu beth mae 'dymchwel' yn ei olygu. Yn fy marn i, mae'n golygu nad oes pwynt bod yn Gristion. Ond nid oes unrhyw un, hyd y gwn i, yn awgrymu bod hynny'n golygu y dylem losgi pob tystiolaeth bod y traddodiad hwnnw erioed wedi bodoli. Er gwell neu er gwaeth, mae Cristnogaeth wedi cael dylanwad mawr ar ein cymdeithas a'n diwylliant. Mae Dawkins yn galw'i hun yn rhyw fath o 'Anglican diwylliannol' am yr union reswm hwnnw. Ond mae hefyd wrth gwrs yn galw'i hun yn anffyddiwr o argyhoeddiad, fel yr wyf innau. Mae modd deall a gwerthfawrogi rôl Cristnogaeth yn ein hanes heb gredu bod arnom 'angen' y mythos Cristnogol ar gyfer y dyfodol.
Iawn, dewiswch a dethol y da o'r Beibl neu'r 'mythos' ehangach. Ond mae modd dewis a dethol negeseuon da o unrhyw ddarnau o lenydddiaeth neu draddodiad. Nid oes unrhyw beth unigryw nac arbennig am Gristnogaeth yn hyn o beth, heblaw am y ddamwain hanesyddol bod cymaint wedi'i chymryd gymaint o ddifrif ar hyd y canrifoedd. Pam rhoi'r 'mythos' Cristnogol ar bedestal?
Rydych yn dweud nad oes sail ffeithiol i athrawiaethau Cristnogol, ond eu bod yn werthfawr fel metaffor. Y broblem fan hyn yw bod llawer ohonynt yn hyll yn fy marn i. Mae pechod gwreiddiol yn athrawiaeth gwirioneddol ffiaidd. Felly heyd y croeshoelio, a’r cyfan o’r Hen Destament i bob pwrpas. Pa fetafforau defnyddiol sydd i’w cael fan hyn yn union?
Go brin bod Rhys yn cytuno â’r paragraff uchod, felly dyna ddiwedd ar y cyhuddiad rhyfedd (a phlentynnaidd) ein bod yn tynnu ‘cysur o safbwyntiau’n gilydd’. Pur anaml y byddem yn cytuno ar faterion diwinyddol, am resymau hollol amlwg.
Rwy’n digwydd cytuno bod dadleuon anffyddwyr wedi mynd i swnio’n undonog, ond rwy’n anghytuno mai ein bai ni yw hynny. Y gwir amdani yw bod ein cwestiynau’n rai digon syml ac mae’r atebion yn anfoddhaol o hyd. Yr unig beth y gallwn ei wneud yw parhau i’w holi.
Fel y soniais, gyda llaw, mae gennyf feddwl gwirioneddol fawr o Aled Jones Williams fel nofelydd. Ond rwy’n credu bod ei gysyniad o dduw yn hynod hynod ddryslyd, ac nid oes ffordd gwrtais o ddweud hynny.
Sylwadau a trafodaeth ddiddorol a dweud y lleia...
ReplyDeleteDwi ddim yn derbyn bod 'gwerth' i'r futhos Feiblaidd (pa ran ohoni?). A dweud y gwir, drwy ymateb i Ifan, nid oes sail bod 'gwerth' i unrhyw futhos. Y broblem yw, pwy sydd i ddweud? A oes 'gwerth' i futhos ceneldaetholdeb Prydeinig, neu i futhos Islamaidd fel y dadansoddir hi gan ISIS? Goddrychol yw'r 'gwerth' yma. (A chwarae teg i Ifan, mae'n tueddu i gydnabod hynny pan mae'n dweud "mai rhywbeth dychmygol a greuwyd gan ddyn yn yr oes fodern yw’r syniad o berthyn i genedl...", er mae'r syniad yma'n hen: ymddengys yr yr Hen Destament; roedd "perthyn" i genedl y bwysig iawn i'r ymsefydlu yng Nghanaan yn dilyn yr Ecsodus; ac mae dyn wedi bod yn rhan o "kin groups" ers ein esblygiad cynnar, a beth yw rheini ond ffurf ar genedl?).
Rhaid i pob syniad/athroniaeth brofi ei ddilysrwydd cyn cydnabod bod "gwerth" iddi, a dylai pwy bynnag sy'n honni bod sail iddi orfod gwneud hynny neu toes yna ddim byrdwn ar y gweddill ohona ni i'w derbyn hi. Nid yw 'syniad' yn haeddu parch, a rhaid ymwrthod gyda'r cysyniad hurt hwn bod crefydd yn ei haeddu. Fel y dywed Tim Minchin yn White Wine In The Sun: "I don't believe just 'cos ideas are tenacious it means they're worthy..."
Nid oes 'gwerth' hyd y gwela i yn y futhos Feiblaidd (na'r un Gristnogol i fod yn fwy spesiffig). Câr dy gymydog yw un o ffefrynau Cristnogion a'r rhai sy'n gefnogol i'r futh (ffurf arni yn Luc 10:25-28, a "gwnewch chithau'r un fath iddyn nhw" yn Luc 6:31). Ond nid oes dim byd sy'n unigryw Gristnogol yn y cysyniad yma. Y "Rheol Aur" yw hi, ac mae'n bod ym mhob crefydd ac athroniaeth, ac wedi ei datgan yn gyntaf yng nghrefyddau'r Hen Aifft (o bosib); neu Confucius efallai; beth bynnag - Cyn Crist.
A dweud y gwir, mae 'gwerthoedd' Cristnogaeth yn reit anghynnes: mae'r naratif ei hun yn ddychrynllyd: tad yn aberthu ei fab i ddangos pa gymaint mae'n caru pobol; rhywun yn cymeryd beiau eraill ar ei sgwyddau. Ac nid yw geiriau Iesu'n cyfleu gwerthoedd a fyddai'n dderbynniol i ni yn yr oes yma, ychwaith: gwahardd ysgariad yn blwmp ac yn blaen; troi cefn ar deuluoedd i'w ddilyn o; anghofio am yfory... ac yn y blaen.
Wrth gwrs, mi ga'i fy nghyhuddo o ddewis a dethol, ond dwi'n cydnabod y rhannau fel "Câr dy gymydog" hefyd (er mai cyfeirio at Iddewon oedd hynny'n wreiddiol), ond dwi'm angen i rhywun DDWEUD wrtha fi am wneud hynny; dweud wrtha fi am drin pobl fel y baswn i am gael fy nhrin ganddyn nhw: daw hyn o'n esblygiad.
Mae Dylan wedi delio gyda'r honiad mai undonog yw dadleuon anffydwyr, ond i ategu: NID OES GAN ANFFYDDIAETH DDADLEUON (sori am y llythrennau bras, ond dwi'n clywed hyn mor aml gan Gristnogion; camddehongli anffyddiaeth a ballu).
Anffyddiaeth, yn syml, yw'r diffyg cred mewn duwiau.
Nid byd-olwg ydi o, er y gall fod yn RHAN o fyd-olwg. Nid ni sy'n gwneud yr honiad. Ffyddwyr sy'n gwneud yr honiad. Mae'r baich i brofi ('burden of proof'), felly, yn syrthio ar eu sgwyddau nhw.
Yr unig beth mae anffyddwyr wedi wneud - yn enwedig ers dyfodiad yr anffyddwyr newydd - yw dangos pa mor llipa a geudebol yw dadleuon credinwyr; mor llipa a geudebol, a dweud y gwir, fel bod Cynog yn gwneud job wych (job anffyddiwr) o ddarnio y rhan fwyaf ohonynt yn Duw Yw'r Broblem? Yno mae Cynog yn defnyddio'r gwrth-ddadleuon y mae anffyddwyr wedi eu defnyddio i ddymchwel tyrrau tila ffydd.
Dyfed
Diolch am fynegi'r pwynt am werthoedd Cristnogol yn well nag y gwnes i, Dyfed. Mae llawer o'r stwff yn erchyll, ac mae'r rhannau 'da' unai'n banal neu ymhell o fod yn unigryw i Gristnogaeth.
ReplyDeleteCytuno'n llwyr am Iesu Grist hefyd. Roedd hyd yn oed Thomas Jefferson, er yn gwrthod y syniad bod Iesu'n dduw, yn edmygu ei athroniaeth. Ond nid wyf yn gweld rhyw lawer i'w edmygu fy hun. Mae'n gymeriad digon diflas, ac fel ei gyfoedion yn arddel llawer o syniadau eithaf anghynnes. Mae rhai ohonynt yn neis, ond maent mor syml ac amlwg byddai'n od ei ganmol am eu harddel.
O ddarllen yn ôl roedd fy sylwadau am Cynog (arwr gwleidyddol fy mhlentyndod!) ychydig yn angharedig, felly yn gyntaf rhaid i mi ymddiheuro am hynny.
ReplyDeleteYn y bôn mae Cristnogaeth i mi yn wirionedd gwrthrychol sy’n mynegi ei hun mewn profiadau personol ysbrydol. Mae’r Cristion yn gwneud synnwyr o’r profiadau ysbrydol hynny drwy ddeall a credu’r hyn a welwn fel gwirioneddau am Dduw, yn arbennig Duw yn Iesu. Dyma mae Gwyn ap Gwilym yn ei esbonio'n feistrolgar yn yr adolygiad yn Barn.
Pe ‘na fyddwn wedi profi fod Cristnogaeth yn wir yn sicr ni fyddwn yn ei ddilyn, byddwn wedi dilyn y rhanfwyaf o fy nghenhedlaeth o gefndir tebyg gafodd eu magu yn y dogma, ond heb y profiad a drodd cefn ar Gristnogaeth (yn ddealladwy ddigon!). Er i mi gael fy magu mewn traddodiad Cristnogol dogmatig efengylaidd, bellach rwyf wedi symud rhywfaint. Er mod i dal i gredu yn y rhan fwyaf o’r credoau y ces i fy magu ynddynt, nid yr “-isms” ydy fy Nghristnogaeth i. Mae’n seiliedig ar yr hyn rwyf wedi ei brofi a’r hyn rwyf wedi bod yn dyst iddo ym mywydau cymaint o bobl eraill.
Wrth drafod Cristnogaeth nid trafod syniadau ydw i, ond trafod rhywbeth tangible dwi wedi ei brofi. Felly, ar ryw wedd mae yn seiliedig ar dystiolaeth, er dwi’n deall nad yw’n dystiolaeth y byddai Dylan efallai yn fodlon ei ystyried.
Yr hyn sy’n anodd yn y drafodaeth yma yw fod pawb yn dod at y cwestiwn o presuppositions gwahanol, yn aml yn seiliedig ar brofiadau bywyd gwahanol, ac hefyd yn edrych ar yr holl gwestiwn drwy bersbectif gwahanol. Oherwydd mod i, er enghraifft, wedi profi yr ysbrydol a’r goruwchnaturiol rydw i’n trin a thrafod pethau goruwchnaturiol ac ysbrydol yn gwbwl naturiol – mae fel trafod unrhyw ymwybod arall i mi. Ond mae eraill yn y sgwrs yn gwrthod y posibilrwydd fod sffêr ysbrydol a goruwchnaturiol yn bodoli o gwbwl.
Dwi’n meddwl y byddai Cynog yn dadlau ar y pwynt yma fod Cristnogaeth dal yn medru cario gwirionedd a hynny fel “myth” (yr un syniad ag oedd gan Benedict Anderson am genedlaetholdeb yn ei lyfr Imagined Communities, sef fod dim rhaid i rywbeth fod yn lythrennol wir i daflunio/rhoi gwerth i rywbeth). Ond mynnwn i orffen drwy droi yn ôl at adolygiad Gwyn ap Gwilym: “Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd..." 1 Cor. 15:17
Wel diolch yn fawr i flog Anffyddiaeth am hostio trafodaeth mor ddeallus â'r echoed. Rwy'n ymfalchïo yn y ffaith mai 'Duw yw'r Broblem' a'i sbardunodd. Rydyn ni'n byw mewn cyfnod o ddadadeiladu a rhaid i Gristnogaeth, ynghyd â phob byd-olwg ac ideoleg arall, ymddarostwng i'r broses boenus yna.
ReplyDeleteY tir cyffredin rhyngof i a Dylan a Dyfed yw mai yn nhermau mythos, nid ffeithiau a thystiolaeth y mae deall crefydd, gan gynnwys Cristnogaeth.
Mae yna fythau drwg a rhai drwg wrth gwrs. Myth erchyll oedd un yr Asteciaid bod rhaid wrth aberth ddynol i sicrhau ffrwythlondeb y pridd. (Cofnod am Iddewiaeth yn cefnu ar arfer felly yw stori Abraham yn cyntuno i, ac yna'n peidio, aberthu ei fab Isaac). Myth tywyll a niweidiol o'r traddodiad Cristnogol yw etholedigaeth, y syniad bod rhai dynion wedi'u tynghedu i ddrygioni a chosbedigaeth. Ar y llaw arall, myth dyneiddiol-oleuedig yw'r un am greu dyn ar ddelw Duw, sy'n rhoi gwerth anrhaethol ar y ddynoliaeth fel y cyfryw ac ar gysegredigrwydd bywydau unigolion.
Wedyn mae yna fythau sy'n wrthun neu'u oleuedig yn ôl y ffordd y can-nhw eu dehongli. Syniad cwbl wrthun yw'r un am Dduw yn mynnu aberthu ei fab yn bridwerth dros bechod dyn. Wynebu realiti creulon ar y llaw arall yw derbyn y gall fod dioddefaint dynion dewr a da yn rhan o'r broses o oresgyn drygioni ac ennill iawnderau - mae Martin Luther King yn un enghraifft o blith llaweroedd. Ffordd o ddatgan yn hyderus y gall daioni gael yr afael drechaf ar ddrygioni, hyd yn oed pan fo grym llethol, didostur o'i blaid, yw myth gwefreiddiol yr atgyfodiad.
Y tir cyffredin rhyngof i a Rhys yw'n bod-ni'n dau'n gweld gwerth cadarnhaol dihysbydd mewn Cristnogaeth. Ac i fi fel yntau, mater o brofiad, gweld y peth yn gweithio ym mywydau unigolion a chymdeithas, sy'n cyfrif yn y pen draw.
Cywiriad i frawddeg gyntaf para 3: Mae yna fythau da a rhai drwg wrth gwrs
ReplyDelete