03/05/2016

Gwrth-semitiaeth a'r chwith

Mae'n hen bryd i ni gydnabod a datrys problem ddifrifol, sef bod gan lawer gormod o bobl y chwith wleidyddol obsesiwn annifyr gydag Iddewon. Wrth gwrs, mae rhagfarn yn erbyn Iddewon yn hen stori, ac mae'r traddodiad yn parhau ymysg y dde eithafol hefyd. Ond y gwir yw bod llawer ar y chwith, er yn brolio'u hatgasedd tuag at hiliaeth, yn euog o'r un peth, hyd yn oed os nad ydynt yn sylweddoli hynny.

Mewn gwirionedd, mae hyn wedi bod yn berwi o dan yr wyneb ers talwm. Fe ffrwydrodd dros y dyddiau diwethaf, fodd bynnag, ar ôl i hen sylwadau gan yr aelod seneddol Llafur, Naz Shah, ddod i'r amlwg, ac ar ôl i Ken Livingstone waethygu pethau ymhellach wrth geisio'i hamddiffyn. Disgyblwyd mwy o wleidyddion o'r blaid heddiw wedi i hen sylwadau o'u heiddo hwythau ddod i sylw'r wasg. Ni fyddai'n syndod os oes mwy i ddod. Y canlyniad rhyfeddol yw mai stori fawr wleidyddol y foment, yn 2016, a hithau'n wythnos etholiadau pwysig, yw gwrth-semitiaeth o fewn prif blaid y chwith ym Mhrydain. Yn hytrach na thrafod y gwasanaeth iechyd ac addysg, rydym yn canfod ein hunain yn siarad am Hitler, cytundeb Haavara 1933, a Seionaeth. Fel rhywun sy'n gosod ei hun yn sicr iawn ar begwn chwith y sbectrwm, rwyf wedi cael llond bol.

Rwyf wedi esbonio fy safbwynt ynghylch Israel a Phalesteina o'r blaen. Yn syml iawn, rwy'n cytuno'n llwyr bod llawer o bolisïau llywodraeth Israel yn anfaddeuol, tra'n cydnabod bod Hamas yn fudiad adweithiol a threisgar sy'n gwneud y sefyllfa'n amhosibl. Dyna'r cyfan sydd angen ei ddweud am y pwnc, oherwydd dylem fod yn gofyn cwestiwn pwysicach: pam siarad am Israel o gwbl fan hyn?

Yr ymateb diflas i ffrae Livingstone gan gymaint o'i gefnogwyr oedd bod ei sylwadau'n ffeithiol wir. Na: nac oeddent. Ond y drwg, rwy'n credu, yw bod mynd i ddadl fanwl ynghylch union fwriad a chyd-destun hanesyddol cytundeb Haavara ac ati'n methu'r pwynt yn llwyr. Hyd yn oed petai sylwadau Livingstone yn berffaith wir, buasent yn dal i fod yn wrth-semitig, a buasai'r dyn yr un mor hiliol am eu dweud. Nid cywirdeb ei fersiwn o hanes sy'n berthnasol, ond yn hytrach y ffaith iddo benderfynu ymateb i sylw dwl rhywun arall am Israel trwy sôn am Hitler o gwbl. Nid oedd gan y Führer unrhyw beth i'w wneud â'r mater o dan sylw. Mae'r ffaith mai malu awyr am hwnnw oedd greddf Livingstone yn hen ddigon o dystiolaeth i'w alw'n dwpsyn hiliol, heb fod angen ffonio hanesydd. Dylid cofio hefyd bod ganddo record hir o ddweud pethau dwl am Iddewon. Nid un sylw unigol yw'r drwg, felly, ond y ffaith mai dyma'r diweddaraf yn unig. Mae'n dipyn o obsesiwn ganddo.

Wrth gwrs ei bod yn wir bod y label 'gwrth-semitiaeth' yn aml cael ei ddefnyddio i bardduo a thawelu beirniadaeth deg o lywodraeth Israel. Ond nid dyna ddigwyddodd yn yr achos yma. Mae Ken Livingstone wedi cael ei gyhuddo o fod yn wrth-semitydd oherwydd ei fod, mewn gwirionedd, yn hilgi gwrth-semitig. Rwy'n amheus iawn o unrhyw un sy'n cael trafferth deall hynny, ac o unrhyw un sy'n gwadu bodolaeth y broblem yn ehangach.

No comments:

Post a Comment