Yr hyn sy'n dda am yr araith yna yw ei bod yn pwysleisio pwynt nad oes digon o bobl yn ei wneud: nid oes cymaint â hynny o wahaniaeth rhwng Trump a gweddill ei blaid mewn gwirionedd. Plaid hiliol a misogynistaidd yw'r Gweriniaethwyr; maent fel arfer yn llwyddo i fod yn fwy cynnil am y peth o lawer nag y mae Trump, dyna i gyd. Nid yr hyn a ddywed sy'n eu poeni, ond y ffordd amrwd mae'n eu dweud. Mae Trump wedi achosi'r mwgwd i lithro, ac mae Warren yn wych wrth ddangos nad yw condemniadau llipa Gweriniaethwyr eraill yn ddidwyll.
Er ei bod o anian debyg i Sanders, o asgell chwith boblyddol y blaid, mae Warren bellach wedi datgan ei chefnogaeth i Clinton. Byddai ei chynnwys ar y 'tocyn' yn fodd o ail-uno'r blaid, wedi i'r ras ar gyfer yr enwebiad droi'n chwerw ar brydiau. Byddai'n gallu denu llawer o gefnogwyr Sanders, sydd efallai wedi pwdu braidd ar hyn o bryd. Mae Clinton yn ymgeisydd digon ceidwadol wedi'r cyfan, a byddai'n dda cael rhywun fel Warren i barhau â'r gwaith, a ddechreuwyd gan Sanders, o'i gorfodi i symud yn nes i'r chwith.
Rhaid cyfaddef, mae yna ran fawr ohonof yn hoff iawn o'r syniad o weld y fenyw gyntaf i ennill yr enwebiad yn dewis menyw arall fel dirpryw. Pam lai, wedi'r cyfan? Yn fwy na hynny, yn fy marn i, byddai'n ddewis strategol arbennig o graff eleni. Mae Donald Trump eisoes wedi dangos nad yw'n gallu ymdopi â chael ei herio gan fenywod. Byddai pum mis o gael ei golbio'n ddi-baid gan ddwy ohonynt yn sicr o ennyn mwy fyth o sylwadau hyll ganddo, gan niweidio eto fyth yr ychydig obaith sydd ganddo o ennill yr etholiad ym mis Tachwedd. Fel yn y fideo uchod, byddai Warren yn gallu gwneud y gwaith o roi Trump yn ei le. Byddai'n golygu ymgyrch etholiadol swreal a digalon, ond byddai'r fuddugoliaeth yn y pen draw gymaint â hynny'n felysach o'r herwydd.
Y cwestiwn yw: a fyddai Warren ei hun eisiau'r swydd? Mae hi wedi cael dylanwad aruthrol yn y Senedd ers cael ei hethol yn 2013, ac rwy'n cydymdeimlo â'r awgrym bod modd iddi gyflawni mwy yn y siambr honno nag fel dirprwy-arlywydd. Mae'n amheus faint o rym sydd gan ddirprwy-arlywyddion mewn gwirionedd; rôl symbolaidd ydyw i raddau helaeth. Diau mai prif resymau'r rhan fwyaf o ddirprwy-arlywyddion iddynt dderbyn y cynnig yw ei fod yn blatfform da i ymgyrchu ar gyfer y brif swydd wedi i ddau dymor y bós ddirwyn i ben (er nad yw hynny wedi digwydd ers i George HW Bush olynu Reagan ym 1988). Ond petai Clinton yn ennill dau dymor, byddai'n arlywydd nes 2024. Byddai cael Democrat yn y Tŷ Gwyn am 16 blynedd yn olynol yn gamp anarferol, ond mae hirach na hynny'n teimlo bron yn amhosibl (gan gymryd mai eithriad yw penderfyniad y Gweriniaethwyr eleni i ddewis yr ymgeisydd gwaethaf posibl).
Mae'n siwr byddai'n benderfyniad anodd iddi petai'n cael y cynnig, ond rwy'n hyderus y byddai'n gam buddiol. Hyd yn oed os nad yw'r swydd yn golygu grym uniongyrchol, mae'n wleidydd craff a byddai'n gallu defnyddio'i dylanwad i osod diwygio'r economi er budd pobl gyffredin yn gadarn ar yr agenda. Bonws hyfryd fyddai'r olwg ar wyneb Trump ar fore'r 9fed o Dachwedd, wedi iddo dderbyn ei gweir haeddiannol.
No comments:
Post a Comment