Ar y pryd, wrth gwrs, nid oedd gennyf syniad o fath yn y byd bod yr elusen sy'n gyfrifol am Operation Christmas Child - Samaritan's Purse - yn fudiad Cristnogol efengylol, a sefydlwyd gan Franklin Graham, mab y tele-efengylwr cyfoethog Billy. Wedi i chi lenwi'r bocs yn ofalus, mae'r grŵp yn ddiweddarach yn ychwanegu propaganda crefyddol cyn ei ddosbarthu. Am flynyddoedd, roeddent yn celu'r ffaith honno, gan arwain yn y pen draw at ymchwiliad gan y Comisiwn Elusennol yn 2003. Nid yw pethau wedi gwella rhyw lawer ers hynny chwaith.Nis gwn a wyddai'r ysgol ar y pryd, ac nid wyf yn siwr a fyddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth ai peidio, ond yn sicr nid oeddwn i'n ymwybodol o'r peth. Roeddwn yn anffyddiwr o argyhoeddiad hyd yn oed bryd hynny, felly ni allaf ddychmygu y buaswn wedi bod yn arbennig o hapus i ddarganfod fy mod yn cael fy nefnyddio, trwy dwyll, er dibenion cenhadol. Yn sicr rwy'n flin am y peth wrth edrych yn ôl, ac mae'n annerbyniol bod miloedd o ddisgyblion heddiw'n parhau i gael eu defnyddio i genhadu crefydd nad ydynt o reidrwydd yn ei arddel. Mae angen i OCC fod yn gwbl onest am yr hyn y maent yn ei wneud. Neu'n well byth, gallent roi'r gorau i'r propaganda'n gyfan gwbl. Dylai'r rhoi, er ei fwyn ei hun, fod yn ddigon.
Dyma restr o brosiectau amgen, sy'n llawer mwy haeddiannol.
No comments:
Post a Comment