10/02/2014

Ynghylch dadlau'n gyhoeddus â chreadyddion

Pan gyhoeddwyd bod Bill Nye ("The Science Guy", hyrwyddwr gwyddoniaeth poblogaidd ar deledu America) am gymryd rhan mewn dadl gyhoeddus yn erbyn Ken Ham ar 4 Chwefror, f'argraff gyntaf oedd ei fod yn syniad gwael.

Ken Ham yw pennaeth Answers In Genesis, sefydliad sy'n mynnu bod theori esblygiadol yn gelwydd llwyr, nad yw'r bydysawd a phopeth ynddo'n fwy na 6,000 blwydd oed, a bod Genesis yn ddogfen hanesyddol a llythrennol gywir. Maent hefyd wedi sefydlu'r Creation Museum yn Kentucky, a'n gobeithio adeiladu 'replica' o arch Noa ger yr un safle. Crefydd ffwndamentalaidd ar ei mwyaf amrwd, felly. Fel y gallwch ei ddychmygu, mae eu safbwyntiau a'u dadleuon yn chwerthinllyd.

Un o'r problemau cyffredinol gyda rhannu llwyfan â phobl fel hyn yw bod gwneud hynny ynddo'i hun yn rhoi hygrededd iddynt. Fel y dywedodd un o gyn-lywyddion y Royal Society mewn cyd-destun tebyg, "that would look great on your CV, not so good on mine". Dyma ddyfyniad arall perthnasol (anhysbys, hyd y gwn): "never argue with an idiot. The best outcome you can hope for is that you won an argument with an idiot."

Er nad gwyddonydd academaidd mo Nye, mae'n uchel ei barch, a'n un o'r lladmeryddion mwyaf adnabyddus yn America o blaid gwyddoniaeth. Am y rheswm hwnnw, roedd y posteri'n hyrwyddo'r digwyddiad, gyda'r lluniau o'r naill ddyn a'r llall, yn gaffaeliad PR anferth i AiG cyn dechrau.

Yn waeth na hynny, cytunwyd i gynnal y ddadl yn 'amgueddfa' AiG (rhaid defnyddio'r dyfynodau), gyda'r holl arian, a'r rheolaeth dros y darllediad, yn mynd i ddwylo sefydliad Ham ei hun. Mae'r 'amgueddfa' a phrosiect yr arch mewn trafferthion ariannol difrifol (hwrê!), felly roedd y digwyddiad yma'n hwb anferth i'w coffrau. Roedd cydsynio i hynny yn bendant yn ffôl.

Roedd pryderon eraill hefyd. Mae Nye yn ddyn addfwyn a mymryn yn ecsentrig (nid yw byth heb ei ddici-bo). Mae ei bersona'n atgoffa rhywun o hen ewythr hoffus. Mae twyllwyr digywilydd fel Ham, os dim byd arall, yn meddu ar allu rhethregol effeithiol a'n siaradwyr cyhoeddus slic a hyderus: roedd gofyn i Nye baratoi'n drylwyr ar gyfer ymdopi ag anonestrwydd amrwd ei wrthwynebydd. Yn anffodus, nid cywirdeb y dadleuon yw'r peth pwysicaf wrth farnu pwy sy'n 'ennill' pethau fel hyn.

Dyma'r fideo o'r digwyddiad. Mae bron yn dair awr o hyd, a Ken Ham sy'n siarad am hanner yr amser, felly rwy'n deall yn berffaith iawn os nad ydych yn awyddus i glicio play:


Y gwir yw i Nye wneud yn well nag oeddwn wedi'i ddisgwyl. Fe fethodd ambell gyfle i wneud hyd yn oed yn well, ond ar y cyfan fe allai fod wedi bod yn llawer iawn gwaeth. Nid oedd gan Ham lawer i'w gynnig heblaw cyfeiriadau at ei Feibl. Yn wir, roedd yn ddigon hapus i gydnabod nad oedd yn gallu meddwl am unrhyw beth a fyddai'n gallu newid ei feddwl (yn ei ateb i'r un cwestiwn, dywedodd Nye yn ddigon rhesymol a syml mai tystiolaeth fyddai ei angen arno er mwyn newid ei feddwl yntau).

Mae cryn drafod wedi bod am y digwyddiad dros yr wythnos ddiwethaf, ac fel llawer, rwyf wedi dechrau newid fy meddwl ynghylch doethineb cael hyrwyddwyr gwyddoniaeth amlwg yn rhannu llwyfan â chreadyddion. Yn America, o leiaf, y gwir yw bod bron i hanner y boblogaeth eisoes yn ymwrthod ag esblygiad. Am ba bynnag reswm, mae gan siarlataniaid fel Ham gryn dipyn o hygrededd yn barod yng ngolwg llawer o'r cyhoedd. Oherwydd hynny, waeth mynd i'r gâd gyda'r gynnau mawrion i gyd, ddim (nid yw hyn mor wir ym Mhrydain, wrth gwr).

Yn ogystal, gan mai selogion ffwndamentalaidd oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa, mae yna bosibilrwydd go gryf bod rhai ohonynt yn clywed y fath dystiolaeth wyddonol am y tro cyntaf. Os oes hedyn o chwilfrydedd wedi cael ei blannu, gellir galw hynny'n rhyw fath o lwyddiant.

O safbwynt strategol, un canlyniad boddhaol i'r ddadl oedd bod y peth wedi bod yn hunllef i arddelwyr intelligent design. Dyma'r digwyddiad uchaf ei broffeil yn hanes hir y frwydr rhwng esblygiad a chreadaeth ers rhai blynyddoedd, gyda thros filiwn o bobl wedi gwylio. A beth a gafwyd? Un dyn yn siarad am dystiolaeth wyddonol, a dyn arall yn chwifio Beibl. Er holl ymdrechion poenus y Discovery Institute (sy'n hyrwyddo ID) i beidio crybwyll duw na chrefydd, ac i geisio creu'r camargraff bod modd ymosod yn wyddonol ar theori esblygiadol, mae'n amlwg mai ffwndamentaliaeth grefyddol yw'r gwir gymhelliad. Diolch i Ham ac AiG, mae gwadu hynny hyd yn oed yn anos iddynt bellach.

No comments:

Post a Comment