Union bymtheng mlynedd yn ôl heddiw, daeth cath arwyddocaol iawn allan o'r cwd (yn hanes y ddadl ddi-ddiwedd ynghylch esblygiad a chreadaeth o leiaf). Roedd y Discovery Institue, sefydliad Americanaidd sy'n arddel a hyrwyddo intelligent design, wedi bod yn ceisio mynnu ers tro nad yw eu fersiwn ddiweddaraf o greadaeth yn syniad crefyddol. Prif nodwedd ID o'i gymharu â'r creadaeth mwy amrwd grefyddol a gafwyd ynghynt oedd ei fod yn cael ei fynegi mewn termau sy'n osgoi crybwyll duw. Cam strategol llwyr oedd hynny, gan fod ffwndamentalwyr crefyddol wedi colli sawl achos llys yn America yn dilyn ymdrechion i ddysgu'r lol yma mewn ysgolion, ar y sail eu bod yn ceisio gorfodi ffydd grefyddol ar y plant. Ond "nothing more than creationism in a cheap tuxedo" yw ID mewn gwirionedd, fel y dywedodd Leonard Krishtalka.
Hepgor y stwff am dduw oedd yr amcan yn gyhoeddus, o leiaf, ond roedd y cymhellion crefyddol yn gwbl amlwg o hyd i bawb arall. Cafwyd cadarnhad ar y 4ydd o Chwefror 1999, pan ddaeth dogfen fewnol gyfrinachol i'r fei: y Wedge Strategy (dyma'i enw swyddogol, a dyna'r post gwreiddiol lle cyhoeddwyd y ddogfen yn gyhoeddus am y tro cyntaf, ar Usenet). Mae dogfen y Discovery Institute yn cadarnhau mai hyrwyddo eu crefydd oedd y nod o hyd: "replace materialistic explanations with the theistic understanding that nature and human beings are created by God". Nid oedd hynny'n syndod, ond roedd yn ddefnyddiol cael y peth ar ddu a gwyn gan y DI ei hun.
Dylid cadw hyn mewn cof pan mae un o'r bobl yma'n ceisio mynnu bod eu 'theori' yn wyddonol yn hytrach na chrefyddol. Eu gobaith oedd helpu'r hachos yn y llysoedd. Yn ddoniol iawn, fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r ffwndamentalwyr sy'n gysylltiedig â llawer o'r achosion llys yma'n methu â glynu at y script, ac maent yn aml yn bradychu eu gwir gymhellion trwy ddechrau mwydro am Dduw a Iesu wedi'r cyfan. Fe ymddengys nad ydynt yn gallu helpu'u hunain.
No comments:
Post a Comment