20/10/2014

'Hypersensitifrwydd electromagnetaidd'

Roedd gan WalesOnline stori bur drist ychydig ddyddiau yn ôl am ddyn sy'n gaeth i'w dŷ oherwydd hypersensitifrwydd electromagnetaidd. Mae'n debyg bod teclynnau trydanol yn achosi poenau ofnadwy i Peter Lloyd, sy'n golygu bod angen iddo gadw pellter rhag pob ffôn symudol, parth wi-fi, a hyd yn oed goleuadau trydan a cheir. Oherwydd hyn, mae wrthi'n gwneud cais i'r cyngor ei ddarparu â chaban anghysbell.

Mae'n sefyllfa druenus, ac mae'n anodd peidio cydymdeimlo. Ond mae un broblem ddifrifol â'r adroddiad: nid yw'n egluro'r ffaith nad yw hypsersensitifrwydd electromagnetaidd yn bodoli. Mae'n anodd dweud hynny heb swnio'n greulon, ond dyna'r gwir plaen amdani: nid oes y fath gyflwr yn bod.

Sylwer bod pob gair o'r adroddiad yn hollol grediniol, heb unrhyw fath o awgrym nad yw hunan-ddiagnosis Mr Lloyd o reidrwydd yn gywir. Yn anffodus, mae'n enghraifft o newyddiadura di-ofal, diog ac anghyfrifol ar y naw.

Dylai fod yn amlwg nad cyhuddo Mr Lloyd o ddweud celwydd yw hyn. Nid oes rheswm i dybio nad yw'n ddidwyll o'r farn bod technolegau modern y byd cyfoes yn ei arteithio. Nid ef yw'r unig un sy'n credu hynny, chwaith. Ond y gwir yw bod astudiaethau trylwyr wedi cael eu gwneud yn chwilio am unrhyw effeithiau niweidiol ar ein hiechyd yn sgil pelydrau electromagnetig neu feysydd trydannol, a negyddol yw pob canlyniad.

Mae arbrawf syml er mwyn canfod a yw symptomau Mr Lloyd yn wir ai peidio. Gellir ei roi mewn ystafell sydd wedi'i hinsiwleiddio rhag popeth o'r byd tu allan, gyda dyfais electronig mewn bocs heb ei agor. Wedyn, gall wyddonydd, o du allan i'r ystafell, droi'r ddyfais ymlaen ac i ffwrdd ar hap. Os yw'r effaith yn wir, byddai modd i Mr Lloyd ddweud yn union pryd y mae'r ddyfais ymlaen a phryd y mae wedi'i throi i ffwrdd. Dyma'r math o arbrawf y cyfeiriais ato uchod, ac mae'r fethodoleg yn eithaf syml. Os yw'r symptomau'n wir, byddai'n achosi peth poen i Mr Lloyd, ond nid oes rheswm iddo beidio cydsynio os yw'r teclynnau yma'n ei boenydio bob dydd doed a ddelo. Byddai canlyniad positif yn ddarganfyddiad arwyddocaol iawn, a byddai'n galluogi gwyddonwyr i ganfod atebion a helpu i leddfu dioddefaint y claf.

Fy hypothesis sinigaidd yw na fyddai Mr Lloyd, wedi'r cyfan, yn gallu dweud pryd fyddai'r ddyfais yn cael ei throi ymlaen. Ond beth sy'n mynd ymlaen, felly? Fel y soniais, rwy'n hyderu ei fod yn ddidwyll. Mae'n debygol, felly, mai problem seicolegol sydd wrth wraidd hyn. Os yw hynny'n swnio'n gas, yna rheswm i gael gwared ar y stigma ynghylch afiechydon meddyliol yw hynny.

Efallai ei bod yn arwyddocaol mai hyfforddwr corfforol ac ymgynghorydd maethegyddol oedd ei alwedigaeth cyn i'w afiechyd gydio o ddifrif. Mae rhai sy'n ymwneud â'r maes hwnnw yn dod o dan ddylanwad gwefannau fel Natural News, gwefan yr erchyll Mike Adams, sy'n hyrwyddo pob math o driniaethau amgen. Cam naturiol pellach wedyn fyddai gwefan fel PowerWatch, a redir gan ddyn o'r enw Alasdair Phillips, sy'n gwneud ei ffortiwn trwy werthu fug-declynnau sydd, fe honnir, yn eich hamddiffyn rhag yr holl dechnoleg anweledig ofnadwy yma. A dweud y gwir, mae hyn wedi f'atgoffa o'r ffaith i mi gyhoeddi erthygl yng nghylchgrawn Barn ar y pwnc hwnnw un tro; efallai yn rhifyn Eisteddfod 2007. Mae fy nghopi wedi hen fynd yn anghof, yn anffodus.

Damcaniaethu ynghylch y trywydd a gymerodd Mr Lloyd yw'r paragraff uchod. Y pwynt yw bod poenau meddyliol yn gallu bod lawn mor boenus â rhai corfforol, fel plasebo am yn ôl. Os ydych yn teimlo sicrwydd bod rhywbeth yn eich brifo, hyd yn oed os nad oes sail corfforol, mae'r boen yn gallu teimlo'n real. Ceir rhai pobl sy'n taeru, yr un mor ddidwyll, bod elfennau sinistr o fewn y llywodraeth, neu ddynion gwyrddion o'r gofod, yn cynllwynio i reoli'u meddyliau, ac sydd o'r herwydd yn gwisgo hetiau ffoel er mwyn eu hatal. Ffenomen o'r un genre yw'r hyn y mae Mr Lloyd yn ei ddioddef. Mae'n haeddu triniaeth, ond nid y math sydd ganddo'i hun mewn golwg.

No comments:

Post a Comment