19/10/2014

Ni ddylai Ched Evans gael chwarae pêl droed eto

Felly mae Ched Evans wedi'i ryddhau o'r carchar. Bu dan glo am ddwy flynedd a hanner ar ôl treisio dynes 19 oed mewn gwesty yn y Rhuddlan yn 2012. Roedd yn chwarae pêl droed i Sheffield United ar y pryd, ac hefyd yn cynrychioli tîm cenedlaethol Cymru.

A ddylai Sheffield United, neu unrhyw glwb arall o ran hynny, ei arwyddo a rhoi cyfle arall iddo? Yr ateb syml yw na. Rwy'n sicr yn anhapus â'r syniad o weld treisiwr yn chwarae dros fy ngwlad.

Y ddadl o'i blaid, wrth gwrs, yw ei fod wedi derbyn ei gosb a'i fod yn haeddu ail gyfle. Nid yw hynny'n wir, yn dechnegol, gan mai pum mlynedd oedd y ddedfryd lawn. Ond bid a fo am hynny, mae'n amlwg yn wir na ddylid gwrthod i bobl fel Evans dderbyn cyflog am weddill eu hoes. Ond nid oes gan unrhyw un hawl arbennig i fod yn chwaraewr pêl droed proffesiynnol. Er gwell neu er gwaeth, mae bod yn bêl droediwr yn yr oes fodern yn golygu mwy na chicio pêl o gwmpas. Gan eu bod yn sêr enwog, yn enwedig gyda phlant yn eu lled-addoli, mae'n rhaid iddynt dderbyn y cyfrifoldeb o ymddwyn yn gall hefyd. Yn gallach na'r gweddill ohonom, mae'n wir. Mae'n ran o'r swydd, mae gennyf ofn.

Byddai modd ystyried ei achos gyda mymryn yn fwy o gydymdeimlad petai yna unrhyw arwydd ei fod yn edifarhau a chydnabod ei drosedd. Ond mae'n mynnu o hyd na wnaeth unrhyw beth o'i le. Yn wir, yn ôl tudalen flaen rhyfeddol y Daily Star Sunday heddiw, mae ei fam yn rhoi'r bai i gyd ar 'ffeminyddion'. Gwyn y gwel y fran ei chyw, am wn i. Mae cefnogwyr pêl droed yn gallu bod yr un mor unllygeidiog, wrth gwrs.

Rwy'n gobeithio y caiff Evans gyfle i wneud rhywbeth cynhyrchiol â'i fywyd. Ond na, ni ddylai hynny olygu ail-ddechrau ar yrfa pêl droed fel pe na bai'r drosedd wedi digwydd erioed. Yn anffodus, mae'n edrych yn bosibl y bydd rhyw glwb yn rhywle'n fodlon talu miloedd o bunnoedd yr wythnos iddo. Ond hyd yn oed petai hynny'n digwydd, a hyd yn oed petai wedyn yn mynd yn ei flaen i sgorio goliau dros y lle i gyd, dylem ni fel Cymry wrthwynebu'r syniad o'i weld yn cynrychioli ein gwlad fyth eto.

No comments:

Post a Comment