22/10/2014

Priodasau hoyw yn Vegas

Mae pethau wedi symud yn rhyfeddol o gyflym yn achos priodasau cyfunrywiol yn America dros y flwyddyn ddiwethaf neu ddwy. Erbyn hyn, mae 32 talaith (a Washington, DC) yn caniatáu i gyplau hoyw briodi'n swyddogol, ac mae'r gwaharddiadau sy'n weddill yn debygol o barhau i syrthio fel dominos. Mae'r rhai diweddar yn cynnwys llefydd hynod geidwadol fel Utah, Wyoming, Alaska ac Idaho.

Byddai hyn wedi ymddangos yn hollol amhosibl hyd yn oed ar ddechrau'r degawd hwn. Mae'n wir mai'r llysoedd sy'n bennaf gyfrifol, yn hytrach na deddfwriaeth, ond mae mwyafrif clir o boblogaeth y wlad bellach yn gefnogol, ac mae'r ceidwadwyr rhagfarnllyd yn heneiddio. Yn amlwg, mae'r ddadl wedi'i hen ennill. Yn fuan iawn (efallai mor fuan â 2015 neu 2016, yn dibynnu ar pryd fydd y Goruchaf Lys yn cytuno i wrando ar achos llawn), bydd pob rhan o'r Unol Daleithiau'n rhoi'r un hawliau priodasol i gyplau cyfunrywiol ag y mae pawb arall eisoes yn eu mwynhau.

Talaith arall lle cyfreithlonwyd priodasau hoyw ar ddechrau'r mis yw Nevada. Efallai ei bod yn syndod nad oedd Las Vegas, o bob man, yn caniatáu hynny'n barod, ond mae gweddill y dalaith yn bur geidwadol. Roedd priodi am 4 y bore, yn feddw dwll, â rhywun rydych newydd ei gyfarfod y noson honno, yng nghwmni Elvis ar gefn tandem, yn cyd-fynd yn barchus ac urddasol â'r syniad o briodas draddodiadol, mae'n debyg, cyn belled nad oedd gan y darpar-gymar yr un math o organnau rhywiol. Bid a fo am hynny, rwy'n hapus bod y dalaith lle cefais i fy hun y fraint o briodi'm gwraig bellach wedi cymryd y cam pwysig hwn.

Wrth ddilyn y newyddion, penderfynais edrych i weld beth oedd ymateb y Chapel Of Flowers, lle cawsom y seremoni (er yr enw, roedd modd dewis priodas cwbl seciwlar). Er bod rhai 'capelau' yn y ddinas yn gwrthwynebu'r newid, roedd yn dda gweld bod y lle y dewisom ni wedi croesawu'r newyddion â brwdfrydedd a llawenydd. Byddai wedi pwyso ar fy nghydwybod petaent yn wrthwynebus, felly mae gweld hynny'n fy ngwneud yn ddigon hapus.

No comments:

Post a Comment