Mae Parry-Williams yn bendant yn un o'r beirdd mwyaf diddorol a gynhyrchodd Cymru erioed. Mae nifer o'i gerddi'n trafod marwolaeth, ac efallai bod hynny'n un o'r rhesymau y mae'r rhain yn enwedig yn apelio ataf, gan fy mod innau hefyd yn gallu bod yn ddiawl bach morbid ar adegau. Rheswm arall yw'r ffaith ei fod siwr o fod ymysg y beirdd Cymraeg cyntaf i drafod y pwnc ag agwedd gwirioneddol ddyneiddiol ac anghrefyddol, gan bwysleisio ein di-nodedd yng nghyd-destun ehangach y bydysawd. Roedd Parry-Williams, wrth gwrs, yn amheus o grefydd, ac mae'r cerddi hyn yn cydnabod yn blaen mai marwolaeth yw'r diwedd. Mae 'Yr Esgyrn Hyn' yn enghraifft dda.
Ond rwy'n credu mai fy ffefryn yw 'Dychwelyd':
Ni all terfysgoedd daear byth gyffroiMae'n debyg bod rhai wedi ystyried y gerdd hon yn brawf o ffydd Parry-Williams yn Nuw, ond mae hynny'n ddwl. Efallai bod y beirniaid Cristnogol gobeithiol yma wedi rhoi'r gorau i ddarllen ar ôl gweld y gair 'nef', sy'n amlwg mewn gwirionedd yn gyfeiriad barddonol ond seciwlar at y bydysawd y tu hwnt i'n carreg bach glas a gwyrdd ni. Nid yw union safbwynt diwinyddol Parry-Williams yn sicr, hyd y gwn, ac rwy'n petruso cyn ei hawlio fel anffyddiwr o'r iawn ryw, ond o ddarllen cerddi fel hyn mae'n bosibl dychmygu mai dyna a fuasai pebai'n fyw heddiw. Yn bendant, mae unrhyw un sy'n gweld tinc o ffydd grefyddol yn y darn uchod yn twyllo'u hunain.
Distawrwydd nef; ni sigla lleisiau'r llawr
Rymuster y tangnefedd sydd yn toi
Diddim diarcholl yr ehangder mawr;
Ac ni all holl drybestod dyn a byd
Darfu'r tawelwch nac amharu dim
Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd
Yn gwneuthur gosteg â'u chwyrnellu chwim.
Ac am nad ydyw'n byw ar hyd y daith
O gri ein geni hyd ein holaf gŵyn
Yn ddim ond crych dros dro neu gysgod craith
Ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn,
Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwdan ffôl,
Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn ôl.
Er nad yw Cristnogaeth yn gallu mynnu bellach mai'r Ddaear yw canol y bydysawd yn llythrennol, mae'n honni o hyd mai ein planed bach pitw ni sy'n hawlio holl sylw'r endid a greodd popeth sy'n bodoli. Mae 'Dychwelyd' yn ymwrthod yn llwyr â'r agwedd blentynnaidd honno. Roedd y bydysawd yn bodoli am 13.7 biliwn o flynyddoedd cyn i ni gael ein geni, a bydd yn parhau i fodoli am sawl biliwn o flynyddoedd wedi i ni farw, doed a ddelo. Mae'r cyflwr o beidio bodoli ar ôl ein marwolaeth yr un fath yn union â'r cyfnod pan nad oeddem yn bodoli cyn i ni gael ein geni yn y lle cyntaf. Hyd yn oed petawn yn ddigon ffodus i fyw am ganrif, ni fyddai fy modolaeth ond crac hynod denau o oleuni yng nghanol ffenestr anferth o dywyllwch (neu 'gysgod craith ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn'). Rwy'n hoff iawn o'r ddelwedd drawiadol yma. Go brin mai Parry-Williams oedd y cyntaf i'w defnyddio, ond mae llawer o awduron gwyddoniaeth boblogaidd wedi defnyddio rhai tebyg dros y blynyddoedd. Mae Carl Sagan yn un, ac mae 'Dychwelyd' hefyd yn rhagweld rhai o'r pethau eraill a ddywedodd Sagan yn ei gyfrol Pale Blue Dot. wrth ddisgrifio llun a dynnwyd o'r Ddaear o 4 biliwn milltir i ffwrdd. Mae'n werth dyfynnu'r darn yma'n llawn:
From this distant vantage point, the Earth might not seem of any particular interest. But for us, it's different. Consider again that dot. That's here. That's home. That's us. On it everyone you love, everyone you know, everyone you ever heard of, every human being who ever was, lived out their lives. The aggregate of our joy and suffering, thousands of confident religions, ideologies, and economic doctrines, every hunter and forager, every hero and coward, every creator and destroyer of civilization, every king and peasant, every young couple in love, every mother and father, hopeful child, inventor and explorer, every teacher of morals, every corrupt politician, every "superstar," every "supreme leader," every saint and sinner in the history of our species lived there – on a mote of dust suspended in a sunbeam.
The Earth is a very small stage in a vast cosmic arena. Think of the rivers of blood spilled by all those generals and emperors so that in glory and triumph they could become the momentary masters of a fraction of a dot. Think of the endless cruelties visited by the inhabitants of one corner of this pixel on the scarcely distinguishable inhabitants of some other corner. How frequent their misunderstandings, how eager they are to kill one another, how fervent their hatreds. Our posturings, our imagined self-importance, the delusion that we have some privileged position in the universe, are challenged by this point of pale light. Our planet is a lonely speck in the great enveloping cosmic dark. In our obscurity – in all this vastness – there is no hint that help will come from elsewhere to save us from ourselves.
The Earth is the only world known, so far, to harbor life. There is nowhere else, at least in the near future, to which our species could migrate. Visit, yes. Settle, not yet. Like it or not, for the moment, the Earth is where we make our stand. It has been said that astronomy is a humbling and character-building experience. There is perhaps no better demonstration of the folly of human conceits than this distant image of our tiny world. To me, it underscores our responsibility to deal more kindly with one another and to preserve and cherish the pale blue dot, the only home we've ever known.Gellir ystyried Parry-Williams yn rhyw fath o egin-Sagan, mewn ffordd. A dweud y gwir, byddai 'Dychwelyd' yn gwneud epigraff ardderchog ar gyfer unrhyw gyfieithiad Cymraeg o Pale Blue Dot.
Cofio astudio dychwelyd yn AS Cymraeg, a dehongli hi union yr run ffordd! Hefyd ma genai ryw atgof o Miss yn son ei fod o'n anffyddwir, hefyd, ond falla mai dychymyg ydi hynny! Mwynhau darllen dy sdwff di, Dylan!
ReplyDeleteDiolch!
ReplyDeleteMae'n bosibl iawn mai anffyddiwr oedd o, ac mae llawer o'i gerddi'n awgrymog, ond heb dystiolaeth gadarn dw i'n gyndyn i haeru'r peth â sicrwydd. Rhag ofn ei fod wedi arddel rhyw fath o ddeistiaeth neu rywbeth felly.