Roedd yn ddigalon darllen bod 29% o bobl Prydain yn credu bod modd cyfiawnhau arteithio mewn rhai amgylchiadau, yn ôl arolwg gan Amnest Ryngwladol. Mewn geiriau eraill, mae bron i un o bob tri o drigolion y Deyrnas Gyfunol yn ffyliaid anfoesol.
Mae'n ddigon posibl bod y mudiad yn agos ati wrth briodoli hyn i ddylanwad ffilmiau a rhaglenni teledu fel 24. Mae sefyllfa hypothetig y ticking time bomb yn un dramatig, ac mae'n siwr gen i mai dyna'r senario yr oedd gan y rhan fwyaf o'r atebwyr mewn golwg. Ond ffuglen llwyr yw sefyllfa o'r fath. Mewn bywyd go iawn, nid oes achlysuron yn codi lle mae'r awdurdodau'n gwybod bod bom ar fin ffrwydro, lle mae ganddynt garcharor yn eu meddiant sy'n gwybod y manylion, a lle mai'r unig ffodd o gael yr wybodaeth ganddo yw trwy wneud pethau cas i'w geilliau neu trwy hanner ei foddi. Yn sicr, nid wyf wedi clywed am y fath beth erioed. Efallai bod rhai'n mwynhau dychmygu achub y dydd fel hyn, ond ffantasi pur Jack Baueraidd ydyw.
Ar ben hynny, problem fawr arteithio (heblaw am anfoesoldeb difrifol y peth) yw ei fod yn dull hynod o wael o gaffael gwybodaeth. Pan mae rhywun yn tynnu ewinedd eich traed allan gyda phleiars, y gwir yw eich bod yn mynd i fod yn barod i ddweud unrhyw beth er mwyn rhoi stop ar y boen. Petawn yn cael fy arteithio, er enghraifft, ni fuasai fy mhoenydwyr yn gorfod aros rhyw lawer cyn i mi gyfaddef mai fi gynlluniodd yr ymosodiadau terfysgol ar 11 Medi 2001, os mai dyna roeddent am i mi ei ddweud (yn union fel y dedfrydwyd "gwrachod" honedig ers talwm). Er y defnydd helaeth o artaith gan y CIA dros y degawd a hanner diwethaf, nid oes unrhyw wybodaeth ddefnyddiol wedi dod o'r peth. Mae'n debygol bod y gwasanaeth cudd wedi gwastraffu oriau lu yn ceisio gwirio gwybodaeth ffug a gaffaelwyd wrth arteithio.
Byddai dal i fod yn anfoesol hyd yn oed petai'n ddull effeithiol, wrth gwrs. Mae'r ysgrif yma'n egluro pam. Dylai'r syniad bod gan lywodraethau'r hawl i achosi poen bwriadol i unigolion ddychryn pawb. Mae'n anodd deall beth sy'n bod ar y 29%.
No comments:
Post a Comment